-
Sgwrsio Ar-lein
Cychwyn sgwrs byw
Mae Coda’r Meic yn ofod diogel ac yn ffordd arall i gael gwybodaeth gan gynghorwr Meic, yn debyg i ‘Agony Aunt’.
Rwyt ti’n cyflwyno cwestiwn trwy’r ffurflen Coda’r Meic, a bydd un o’n cynghorwyr yn ymateb gyda chyngor a chymorth. Efallai bydd dy gwestiwn ac ateb y cynghorwr yn cael ei droi’n flog Coda’r Meic ar ein gwefan. Ni fyddem yn rhannu dy enw go iawn na wybodaeth bersonol.
Wrth gyhoeddi ar y blog, gall helpu pobl ifanc eraill sydd yn profi rhywbeth tebyg.
Nid wyt ti’n cael ateb trwy Coda’r Meic yn syth, a gall gymryd ychydig o ddyddiau cyn i ti gael ateb. Os wyt ti angen cyngor a chymorth yn syth mae angen ffonio, tecstio neu sgwrsio ar-lein.