x
Cuddio'r dudalen

Coda’r Meic: Helpu Ffrind Sydd Yn Stryglo

Mae Freya yn poeni’n ofnadwy am ei ffrind sydd yn stryglo gydag anhwylder bwyta a meddyliau hunanladdol. Cysylltodd â Meic am help gan na wyddai beth i’w wneud. Dyma ein cyngor.


Coda’r Meic ydy dy gyfle di i ofyn cyngor am unrhyw beth sy’n dy boeni. Rydym yma i wrando a chynnig cyngor. Mae manylion #codarmeic ar y dudalen hon, ond cofia nad yw’r cyngor yn dod yn syth. Os wyt ti angen cyngor sydyn yna cysyllta â’r llinell gymorth.

This article is also available in English  – to read this content in English – click here


Helo Meic

Rwyf wedi cael neges gan ffrind (o bron i flwyddyn) yn dweud ei bod yn stryglo gyda bwyta ac wedi bod yn meddwl am ladd ei hun. Mae’r ddau ohonom gyda salwch cronig. Mae ei hiechyd hi wedi gwaethygu’n ddiweddar, a dwi’n meddwl mai dyma pam ei bod yn teimlo fel hyn. Mae’n dweud mai bwyta yw’r un peth y gallai reoli yn ei bywyd ar hyn o bryd. Y pwynt ydy, dwi ddim yn gwybod beth i wneud. Rwy’n siarad â hi ac yn ei chefnogi, ond dwi’n credu ei bod angen mwy nag y gallaf i gynnig fel ffrind o bellter. Nid ydym yn byw yn yr un wlad ac felly nid wyf yn gwybod sut i helpu.

Freya (*enw wedi ei newid i amddiffyn preifatrwydd)

Helo Freya,

Diolch i ti am gysylltu trwy Coda’r Meic. Mae’n ddrwg gen i fod dy ffrind yn stryglo ac yn meddwl am hunanladdiad, a bod y ddau ohonoch yn ddifrifol wael.

Mae’n amlwg dy fod di’n poeni am les dy ffrind ac eisiau gwybodaeth a chyngor am ba gefnogaeth bellach y gallai hi gael mynediad iddo. Rwyt ti wedi dweud bod dy ffrind yn byw mewn gwlad arall.

Meddyliau hunanladdol

Er bod dy ffrind yn byw yn rhywle arall, bydd ein cynghorwyr yma yn Meic yn hapus i geisio darganfod gwybodaeth am unrhyw gefnogaeth sydd ar gael yn y wlad honno. Gallet ti basio hwn ymlaen i dy ffrind wedyn. Ond bydd angen gwybod ble mae hi’n byw. Gellir cysylltu drwy tecst, ar y ffôn neu drwy sgwrs ar-lein er mwyn siarad am hyn ymhellach.

Efallai bydd y wybodaeth darparir gan y gwasanaethau canlynol yn dal i fod yn ddefnyddiol i ti, er mai gwasanaethau yn y wlad yma ydynt:

Mae Papyrus yn elusen atal hunanladdiad i bobl ifanc. Hopeline UK ydy’r llinell gymorth ar 0800 068 41 41. Maent yn cynnig cefnogaeth a chyngor cyfrinachol os wyt ti’n cael syniadau hunanladdol neu os wyt ti’n poeni am rywun sydd yn meddwl am ladd eu hunain.

Mae gan Young Minds dudalen sydd yn edrych ar deimladau hunanladdol gyda chyngor am beth i’w wneud a ffyrdd i gael help. Mae yna wybodaeth benodol hefyd am sut i gefnogi ffrind sydd yn teimlo’n hunanladdol.

geneth ifanc trist gyda chlorian ar lawr pren ar gyfer erthygl hunanladdol

Anhwylder bwyta

Roeddet ti’n sôn bod problemau dy ffrind gyda bwyd yn ymwneud â’r ffaith ei bod eisiau ychydig o reolaeth ar ei bywyd oherwydd y salwch. Mae hyn yn nodwedd gyfarwydd pan ddaw at anhwylderau bwyta. Cer i edrych ar BEAT, elusen a llinell gymorth sydd yn arbenigo mewn anhwylderau bwyta. Mae ganddynt lawer o wybodaeth ddefnyddiol gan gynnwys y dudalen yma ar sut i gefnogi rhywun gydag anhwylder bwyta.

Mewn argyfwng

Os oes gen ti unrhyw reswm i feddwl bod dy ffrind yn bwriadu ceisio lladd ei hun yna efallai dylai ti geisio cysylltu ag aelodau o’i theulu (os wyt ti’n adnabod nhw) neu’r gwasanaethau brys ble mae’n byw.

Mae hyn yn lawer i ti ymdopi ag ef ar ben dy hun a byddem yn dy annog i gysylltu â ni ar y ffôn, neges testun neu sgwrs ar-lein er mwyn i ni fedru siarad gyda thi yn fyw a chael gwell syniad o anghenion dy ffrind, yn ogystal â dy anghenion di. Cysyllta â ni ar y manylion isod. Mae Meic yn gyfrinachol ac am ddim i gysylltu.

Diolch i ti am gysylltu

Y Tîm Meic