x
Cuddio'r dudalen

Coda’r Meic: Eistedd Arholiad Yn Saesneg Yn Lle Cymraeg?

Wyt ti’n cael eistedd arholiad yn yr iaith rwyt ti’n dymuno? Gofynnwyd y cwestiwn yma drwy Coda’r Meic. Rhywun i wrando, i’th gymryd o ddifrif ac i roi cyngor.

__________

Annwyl Meic,

Rwyf yn ddisgybl mewn ysgol Gymraeg a dwi’n cael trafferth gyda mathemateg. A yw’n bosib i mi eistedd y papur yma yn Saesneg yn hytrach nag Chymraeg?

Diolch

Anhysbys

__________

Helo,

Diolch i ti am dy ymholiad am dy ysgol yn caniatáu i ti eistedd dy arholiad TGAU Mathemateg yn Saesneg.

Siarada

________

Siarada gyda dy athro Mathemateg os nad wyt ti wedi gwneud hynny’n barod. Gallet ti weld os bydda’r ysgol yn fodlon i wneud cais am bapur Mathemateg Saesneg. Os nad ydynt yn barod i ti wneud hyn, efallai byddai’n syniad da i dy riant/rhieni ofyn am gael cyfarfod gyda nhw i drafod pethau ymhellach.

Rydym wedi cysylltu gyda Bwrdd Archwilio Cymru (cbac) a chawsom wybod bod posib eistedd yr arholiad yn Saesneg, ond bydd rhaid i’r ysgol gytuno. Os yw’r ysgol yn hapus i ti wneud hyn, bydd rhaid iddynt gyflwyno cais i ti eistedd y TGAU Mathemateg yn Saesneg.

Arholiad Saesneg Coda'r Meic

Opsiynnau eraill

__________________

Os, am unrhyw reswm, bydd yr ysgol yn penderfynu peidio cyflwyno cais am bapur mathemateg Saesneg, posibilrwydd arall fydda fynd at ysgol neu ganolfan arall a gofyn i gael eistedd Mathemateg yn Saesneg. Ond efallai bydd rhaid i dy rieni dalu am hyn. Mae cost arholiad TGAU oddeutu £28.

Os nad wyt ti’n hapus gyda chanlyniad unrhyw drafodaeth gyda’r ysgol, gallet ti ystyried cysylltu gyda swyddfa Comisiynydd Plant Cymru.

Gobeithiwn fod y cyngor uchod yn fuddiol i ti. Cofia gysylltu os wyt ti angen unrhyw wybodaeth, cyngor neu eiriolaeth bellach.

Cymer ofal.

Meic

Mae Meic yn llinell gymorth, gwybodaeth ac eiriolaeth i blant a phobl ifanc 0 i 25 oed yng Nghymru. Rydym yn agored o 8am i hanner nos, 7 diwrnod yr wythnos. Mae posib cysylltu ar y ffôn (080880 23456), neges testun (84001) ac ar y we yn rhad ac am ddim.