x
Cuddio'r dudalen

Hygyrchedd

Mae Meic yn ceisio gwneud y wefan hon yn hygyrch ac yn hawdd i bawb ei defnyddio pa bynnag borwr yr wyt yn ei ddefnyddio a pha un a oes gen ti anableddau ai peidio.

Mae cynllun y safle yn rhoi ystyriaeth i ddefnyddwyr sy’n ddall neu sydd â nam ar eu golwg ac mae’n gydnaws â meddalwedd poblogaidd i ddarllen sgrin.

Caiff hygyrchedd gwefan Meic ei lywio gan Ganllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We 1.0 Consortiwm y We Fyd Eang (W3C) ac mae’n gweithio gydag awduron cynnwys, datblygwyr a mudiadau anableddau i fodloni’r safon AA lle bynnag y bo hynny’n bosibl.

Mae cynnal safle hygyrch yn broses barhaus ac rydym yn gweithio drwy’r amser i gynnig profiad cyfeillgar i’r defnyddiwr. Lle na ellir bodloni’r safonau uchaf o hygyrchedd bydd Meic yn anelu at ddarparu’r wybodaeth mewn fformat hygyrch pan wneir cais am hynny.