x
Cuddio'r dudalen

Coda’r Meic: Dod Allan – Dad Yn Anhapus

Beth os fydda ti’n dod allan i dy rieni, ond yn derbyn ymateb anffafriol? Dyma’r sefyllfa yn Coda’r Meic yr wythnos hon. Dyma’n cyngor.

Coda’r Meic ydy dy gyfle di i ofyn cyngor am unrhyw beth sy’n dy boeni. Rydym yma i wrando a chynnig cyngor. Mae manylion #codarmeic ar y dudalen hon, ond cofia nad yw’r cyngor yn dod yn syth. Os wyt ti angen cyngor sydyn yna cysyllta â’r llinell gymorth.

Helo Meic,

Dwi’n 20 oed ac wedi dod allan i’m rhieni yn ddiweddar, ond dydy dad heb dderbyn y newyddion yn dda iawn o gwbl. Mae wedi dweud nad oes neb yn cael dod yn ôl i’r tŷ.

Roedd yn anodd iawn dweud wrth mam a dad mod i’n hoyw. Dywedais wrth mam gyntaf a gofynnais a byddai’n dweud wrth dad, ond mynnodd y dylwn i ddweud wrtho fy hun. Credai bod hyn yn fater rhy bwysig i ddod gan rywun arall. Roeddwn bron yn sicr bod mam yn gwybod mod i’n hoyw yn barod, felly roedd yn syndod i mi i ddarganfod nad oedd hynny’n wir.

Cyngor Meic

Helo ‘na,

Diolch am gysylltu; mae hyn yn sefyllfa bydd nifer o bobl ifanc yn wynebu, ac yn aml nid yw’n beth hawdd i’w wneud. I gychwyn, hoffem dy longyfarch ar fod mor ddewr i ddod allan i dy rieni. Roeddet yn ddewr iawn a dylet ti deimlo balchder. Gobeithiwn fod y cyngor yma yn helpu ti i siarad gyda dy rieni am hyn.

siarad i erthygl dod allan

Parhau i siarad

Efallai dy fod di wedi gobeithio cael ymateb hollol wahanol gan dy rieni, ond dwi’n siŵr bod dod allan o’r diwedd wedi rhoi ychydig o ryddhad i ti. Cofia, nid yw’r ymateb gwreiddiol yn adlewyrchiad o’u teimladau unwaith iddynt gael cyfle i brosesu popeth. Efallai bod hyn yn sioc iddynt i gychwyn, felly paid barnu gormod am eu hymateb gwreiddiol.

Mae’n swnio fel bod dy fam wedi ymateb yn fwy derbyniol. Efallai gallet ti siarad â hi i gychwyn, a dweud wrthi sut roeddet ti’n teimlo ar ôl ymateb dy dad. Mae’n amlwg bod hyn yn newyddion iddyn nhw, ac mae’n eithaf tebygol bod y ddau wedi bod yn siarad am hyn gyda’i gilydd ers hynny. Er bod dy fam yn teimlo mai dy le di oedd dweud wrth dy dad, erbyn hyn efallai bydd hi’n hapus i helpu ti i siarad ag ef.

Y peth pwysig ydy cadw’r deialog yn agored. Paid gadael i hyn fod yn un o’r pethau sydd byth yn cael ei grybwyll eto, yn gwneud popeth yn lletchwith. Bydd parhau i drafod hyn yn helpu i normaleiddio’r sefyllfa. Mae’n debyg y bydd hyn yn anodd ond cofia mai trafodaeth ydyw, nid ffrae. Esbonia dy deimladau i dy dad. Gwranda arno a cheisio peidio cymryd pethau i galon. Mae hwn yn brofiad dysgu i’r ddau ohonoch.

Dangos parch

Os ydy dy dad yn dweud nad oes neb yn cael dod i’r tŷ, yna dangosa barch i’w benderfyniad am nawr. Dyw hyn ddim yn flaenoriaeth ar hyn o bryd. Rwyt ti angen canolbwyntio ar dy berthynas gyda dy rieni. Bydd hyn yn dipyn o addasiad i bawb, ac mae angen caniatáu amser i hyn. Mae’n bwysig bod pawb, gan gynnwys ti, yn bod yn ystyriol, yn gwrando ar eich gilydd, ac yn ceisio deall safbwynt y person arall. Efallai bydd caniatáu i ffrindiau ddod draw yn rhywbeth gallech chi ei drafod yn hwyrach ymlaen, unwaith i dy rieni ddod yn fwy derbyniol o’r sefyllfa.

Efallai bod y ffaith nad allet ti ddod â rhywun adref yn gwneud i ti deimlo’n gaeth, ond nid oes rhaid cael pobl draw i’r tŷ i dreulio amser â nhw. Gallet ti droi at ffrindiau, neu ymuno â grwpiau, elusennau neu gymdeithasau i gyfarfod â phobl o’r un meddylfryd. Bydd posib i ti siarad am dy bryderon a phroblemau gyda phobl eraill sydd wedi profi sefyllfa debyg i ti. Os nad wyt ti’n gyfforddus i siarad â rhywun wyneb i wyneb, gallet ti ffonio neu yrru neges testun neu neges ar-lein i Meic am gyngor pellach.

Cymorth pellach

Darllena am brofiadau pobl eraill yn y canllaw Dod Allan yma gan Stonewall Cymru. Mae’n llawn straeon dod allan gan bobl LHDT ledled Cymru.

Bwriad Stonewall Cymru ydy ymladd am gydraddoldeb a chyfiawnder cymdeithasol i bobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thraws yng Nghymru. Edrycha ar y dudalen Dod Allan fel Person Ifanc.

Llinell Gymorth LGBT Cymru – Llinell gymorth am ddim i bobl LHDT yng Nghymru. Gwybodaeth, cyngor, cefnogaeth a chwnsela. Ar agor 7yh-9yh Llun a Mercher. Galwa 0800 840 2069

RUComingOut – Mae’r wefan yma yn llawn straeon dod allan a chyfweliadau gyda ffigyrau cyhoeddus yn rhannu eu profiadau dod allan.

Pob lwc

Galwa Meic

Os wyt ti angen siarad gyda rhywun am ddod allan, neu os oes rhywbeth arall yn dy boeni, yna galwa Meic i siarad gyda chynghorydd cyfeillgar.

Mae Meic yn llinell gymorth, gwybodaeth ac eiriolaeth i blant a phobl ifanc 0 i 25 oed yng Nghymru. Rydym yn agored o 8am i hanner nos, 7 diwrnod yr wythnos. Mae posib cysylltu ar y ffôn (080880 23456), neges testun (84001) ac ar y we yn rhad ac am ddim.