Coda’r Meic: Ofn Ffaelu Arholiadau
Poeni byddi di’n gwneud yn ddrwg yn dy arholiadau? Teimlo’n sâl am y peth? Beth fedri di ei wneud i beidio poeni cymaint? Cysylltodd person ifanc â Coda’r Meic am gyngor.
Coda’r Meic ydy dy gyfle di i ofyn cyngor am unrhyw beth sy’n dy boeni. Rydym yma i wrando a chynnig cyngor. Mae manylion #codarmeic ar y dudalen hon, ond cofia nad yw’r cyngor yn dod yn syth. Os wyt ti angen cyngor sydyn yna cysyllta â’r llinell gymorth.
Mae gan Meic lawer o flogiau a chyngor i helpu ti trwy gyfnod yr arholiadau – cer yma i weld.
Helo Meic,
Dwi efo ofn mawr gwneud yn ddrwg yn fy arholiadau ac yn pryderu cymaint nes i mi gael cur pen a niwl ymennydd ofnadwy. Dwi’n crio am y pethau lleiaf a gyda chur pen cyson sydd yn atal mi rhag cadw dim o’r wybodaeth dwi’n adolygu i mewn. Dwi’n eithaf twp yn barod, felly os nad ydw i’n pasio yna nid oes gen i unrhyw gyfle mewn bywyd. Mae’n debyg nad oes gen i unrhyw obaith beth bynnag gan fod fy nheulu i’n eithaf tlawd.
Cyngor Meic
Helo ‘na, diolch i ti am gysylltu gyda ni yma ym Meic. Mae’n ddrwg gen i glywed dy fod di’n pryderu cymaint am dy adolygu, a’r holl deimladau negyddol sydd gen ti tuag at dy hun a beth sydd gan y dyfodol i’w gynnig.
Nid ti yw’r unig un. Mae llawer o bobl ifanc yn profi straen a phryder oherwydd pwysau ysgol, fel arholiadau. Mae’n gyffredin hefyd i boeni am yr effaith gall yr arholiadau yma ei gael ar dy ddyfodol. Edrycha ar rai o’r erthyglau sydd wedi’u cyhoeddi ar Meic yn ystod ein hymgyrch arholiadau arbennig gyda llawer o awgrymiadau a chyngor – clicia yma.
Mae’n ymddangos fel dy fod di wedi bod yn astudio’n dda tuag at yr arholiadau, ac mae hyn yn beth da. Ond, nid adolygu yw’r unig beth sy’n bwysig ar gyfer llwyddiant arholiadau. Bydd gofalu amdanat ti dy hun yn cael effaith mawr ar dy berfformiad a lles. Felly, sut wyt ti’n gofalu am dy hun?
Paid rhoi pwysau ar dy hun
Mae’n ymddangos fel dy fod di’n rhoi pwysau mawr arnat ti dy hun gyda’r arholiadau yma. Rwyt ti’n meddwl bod ffaelu yn golygu nad fydd gen ti unrhyw gyfle mewn bywyd. Er ei fod yn naturiol i bobl ifanc deimlo fel hyn wrth wynebu’r fath bwysau, nid yw’n wir o reidrwydd. Mae hyn yn lot mawr o bwysau arnat ti, fydd yn gallu cael effaith ar dy iechyd emosiynol, ac o ganlyn, lefelau pryder.
Cofia, er bod arholiadau yn gallu effeithio ar dy ddewisiadau neu’r llwybr ti’n ei gymryd, nid yw canlyniad yr un arholiad yn golygu nad oes gen ti unrhyw gyfle mewn bywyd. Ceisia fod yn rhesymol am hyn a rhoi pethau mewn persbectif pan ddaw at ddewisiadau. Efallai byddai’n syniad siarad gyda rhywun am yr hyn sydd yn dy boeni, mae dweud rhywbeth yn uchel a rhannu yn gallu bod yn rhyddhad. Efallai bydd y person yma yn gallu helpu ti i roi pethau mewn persbectif.
Edrycha ar Student Minds. Mae yna awgrymiadau defnyddiol am ymdopi gyda phanig arholiadau, fel arferion da, arferion drwg, sefydliadau a rhoi persbectif ar bethau.
Rheoli Pryder
Ti’n dweud bod pryder yn rhoi cur pen i ti, a bod hyn yn atal ti rhag astudio. Wyt ti wedi profi pryder o’r blaen? Os mai dyma’r tro cyntaf, ceisia beidio teimlo anobaith. Mae yna lawer o bethau gallet ti ei wneud i reoli pryder, o dechnegau myfyrio ymwybodol (mindfulness) i ymarfer anadlu. Edrycha ar wefan Mind sydd â llawer o wybodaeth am y cyflwr ac awgrymiadau am sut i’w reoli dy hun.
Amser ymlacio
Mae’n bwysig gwerthfawrogi bod yr ymennydd yn gweithio’n galed iawn ar hyn o bryd. Felly mae angen cymryd seibiant i orffwyso ac ymlacio, Bydd cymryd cyfnodau byr i ffwrdd o’r astudio yn helpu, fel arall gall fod yn anodd iawn canolbwyntio a chadw gwybodaeth i mewn. Heb gymryd seibiant efallai nad fydd astudio yn gweithio a byddi di’n profi’r hyn y galwaist yn ‘niwl ymennydd’. Os wyt ti’n teimlo panig, bydd 20 munud i ti dy hun yn dy helpu i glirio’r meddwl. Efallai bydd rhai o’r apiau ar ein herthygl gwefannau tawelu’r meddwl yn ddefnyddiol.
Ffordd dda i gymryd amser o’r adolygu ydy ymarfer corff. Cer am dro neu i’r ganolfan hamdden leol am awr. Er mai dim ond awr o saib o’r astudio ydyw, mae ymarfer corff yn debygol o wneud i ti deimlo wedi adfywio ac yn barod i fynd eto.
Bydda’n garedig i ti dy hun a gwobrwyo dy hun wrth astudio. Gallet ti wylio rhaglen deledu dros amser cinio, neu hanner awr o wrando ar gerddoriaeth ar ôl te. Mae hyn yn ysgogwr wych ac yn rhoi ychydig o amser ymlacio i ti yn ystod y cyfnod astudio.
Bwyta’n dda
Mae’r pethau ti’n bwyta yn cael effaith ar berfformiad dy gorff. Mae’n bwysig bwyta diet iach beth bynnag, ond yn enwedig o bwysig os wyt ti’n defnyddio dy ymennydd cymaint. Anghofia am y coffi, diodydd egni a bwyd sothach. Edrycha ar awgrymiadau’r BBC am yr opsiynau iach i ti ystyried.
Gobeithiwn fod rhai o’r awgrymiadau yma yn helpu. Os nad wyt ti’n sicr o unrhyw beth, neu os wyt ti angen cyngor neu wybodaeth bellach, cysyllta â ni ar linell gymorth Meic.
Pob lwc gyda dy arholiadau a chofia gofalu am dy hun.
Y Tîm Meic
Lefel Nesa
Cer draw i wefan Lefel Nesa i gael canllawiau arholiadau ac asesu, cyngor gyrfaoedd ac awgrymiadau lles ar gyfer dysgwyr yng Nghymru. Mae Gyrfa Cymru, E-sgol, Cymwysterau Cymru, CBAC a Llywodraeth Cymru wedi gweithio mewn partneriaeth i ddarparu llawer o adnoddau ychwanegol i helpu dysgwyr sydd yn cymryd arholiadau ac asesiadau eleni.
Cysyllta â Meic
Mae arholiadau ac asesiadau yn gallu bod yn anodd ar unrhyw un. Weithiau efallai byddet ti’n hoffi siarad am bethau gyda rhywun fel nad yw pethau yn dod yn ormod o bwysau. Mae Meic yma i ti bob dydd rhwng 8yb a hanner nos. Bydd ein cynghorwyr cyfeillgar yn gwrando ac yn cynnig gwybodaeth, cyngor ac eiriolaeth gyfrinachol ac am ddim. Cysyllta ar y ffôn (080880 23456), neges testun (84001) ac ar y we.