x
Cuddio'r dudalen

Coda’r Meic: Dwi’n Meddwl Mod i’n Anneuaidd

Mae person ifanc wedi cysylltu â Meic gan nad oedd ganddynt neb i siarad â nhw am fod yn anneuaidd (non-binary). Rydym yma bob dydd i siarad ar y ffôn, neges testun, sgwrs ar-lein neu yma yn Coda’r Meic. Dyma’r cyngor sydd gennym i’w rannu.


Coda’r Meic ydy dy gyfle di i ofyn cyngor am unrhyw beth sy’n dy boeni. Rydym yma i wrando a chynnig cyngor. Mae manylion #codarmeic ar y dudalen hon, ond cofia nad yw’r cyngor yn dod yn syth. Os wyt ti angen cyngor sydyn yna cysyllta â’r llinell gymorth.

This article is also available in English  – to read this content in English – click here


Helo Meic

Dwi’n meddwl efallai bod i’n anneuaidd, ond siaradais gyda mam am y pwnc rhywedd (gender) a’i hymateb oedd nad oedd yn gweld y pwynt – help! 😔

Cadi (*enw wedi ei newid i amddiffyn preifatrwydd)

Cyngor Meic

Helo Cadi,

Diolch am gysylltu gyda Meic am y drafferth rwyt ti’n ei gael yn ceisio siarad gyda dy fam am faterion hunaniaeth rhywedd.

Rwyt ti’n dweud dy fod di’n teimlo efallai dy fod di’n anneuaidd, ac wrth geisio siarad gyda dy fam am y peth, dywedodd nad oedd pwynt. Mae’n debyg dy fod di’n teimlo fel nad yw dy fam wedi cymryd y sgwrs o ddifrif? Neu ei bod wedi anwybyddu dy bryderon neu sylwadau? Efallai nad oedd wedi bwriadu gwneud i ti deimlo fel hyn, ond mae’n naturiol i ti deimlo’n ddrwg am hyn.

Ailgychwyn y sgwrs

Sut wyt ti’n teimlo am ddarganfod amser distaw i gychwyn y sgwrs yma eto? Efallai gallet ti ddweud wrthi fod gen ti rywbeth ar dy feddwl a bod ei chefnogaeth yn bwysig i ti.

Mae blog Healthline How Do You Know If You’re Nonbinary? yn edrych ar ddiffiniadau anneuaidd, rolau rhywedd, rhagenwau, a sut i wybod os wyt ti’n anneuaidd. Efallai gall hyn helpu ti i egluro ble rwyt ti’n teimlo rwyt ti’n ‘ffitio’. Nid oes ateb cywir nac anghywir i’r ffordd rwyt ti’n uniaethu – mae’n bersonol i ti. Efallai dy fod di’n teimlo fel dy fod di ar sbectrwm, ei fod yn gyfnewidiol ac yn gallu newid dros amser. Paid teimlo pwysau i newid neu ddilyn llwybr sydd ddim yn teimlo’n iawn i ti. Cymera amser i ddod i adnabod dy hun a theimlo’n falch o’r person wyt ti! Mae yna lawer o adnoddau ychwanegol ar waelod y dudalen Healthline i ti bori drwyddynt.

Siarad gyda rhywun arall

Os nad yw dy fam yn barod i gael y drafodaeth yma, meddylia pwy arall gallet ti siarad â nhw. Ffrind? Aelod o’r teulu? Rhywun yn yr ysgol? Llinell gymorth? Ystafell sgwrs neu fforwm diogel?

Mae llawer o bobl ifanc yn hoff o fyrddau trafod The Mix, lle da i gael cefnogaeth gan bobl ifanc arall sydd yn gallu uniaethu. Cer draw i weld rhai o’r trafodaethau cynt yn ymwneud â rhywedd a rhywioldeb.

Cer draw i’r erthygl yma yn trafod ‘dod allan’ o safbwynt rhywun sydd yn uniaethu fel rhywedd queer a panrywiol. Mae’n dangos nad ti yw’r unig un sydd yn cwestiynu dy hunaniaeth rhywedd ac yn gwneud awgrymiadau da am ble i ddarganfod y gefnogaeth rwyt ti ei angen.

Mae rhai pobl yn hoff o roi label ar eu teimladau, ond os wyt ti’n teimlo nad wyt ti angen un, mae hynny’n iawn hefyd. Ceisia fod yn garedig, amyneddgar ac yn driw i dy hun ❤

Sgwrsia â Meic

Mae croeso i ti gael sgwrs gyda chynghorydd Meic am yr hyn gall fod yn fuddiol i ti yn y sefyllfa yma. Gall fod yn heriol iawn siarad am bethau pwysig ac emosiynol gyda phobl rydym yn ei garu, ac weithiau nid yw pethau yn digwydd yn union fel y byddem yn ei obeithio. Mae Meic ar dy ochr di, yn barod i wrando a chynnig cefnogaeth gyda gwybodaeth a chyngor i helpu adnabod datrysiadau i dy broblemau. Gallet ti ffonio, tecstio neu sgwrsio â ni ar-lein rhwng 8yb a hanner nos bob dydd.