x
Cuddio'r dudalen

Chwilio am wybodaeth bellach am Gronfeydd Ymddiriedolaeth Plant?

To see this page in English – click here

Beth ydy Cronfa Ymddiriedolaeth Plant?

Cyflwynwyd y Gronfa Ymddiriedolaeth Plant gan Lywodraeth y DU yn 2005. Agorwyd cyfrif i bron i 6 miliwn o blant wedi eu geni rhwng 1af Medi 2002 a 2il Ionawr 2011.

Bwriad y Gronfa Ymddiriedolaeth Plant oedd i:

⚬ sicrhau bod gan bob plentyn arian wedi’i gynilo (saved) erbyn eu pen-blwydd yn 18 oed
⚬ helpu i ddod i’r arfer â chynilo
⚬ dysgu buddiannau cynilo
⚬ helpu deall cyllid personol

Os nad oedd dy rieni/gwarchodwyr wedi agor cyfrif i ti cyn i ti droi’n un oed, yna roedd y HMRC (sydd yn gyfrifol am drethi, taliadau a thollau) yn gwneud ar dy ran.

Edrycha a lawrlwytha’r daflen hon gan Lywodraeth Cymru sydd â’r holl wybodaeth rwyt ti ei angen i ddarganfod mwy:

Mae yna fersiwn hawdd ei ddeall i’w ddarllen a’i lawrlwytho hefyd:

Gwybodaeth am Meic Cymru

Meic ydy’r gwasanaeth llinell gymorth i blant a phobl ifanc hyd at 25 oed yng Nghymru. I ddarganfod beth sy’n digwydd yn dy ardal leol neu am help i ymdrin â sefyllfa anodd, bydd Meic yn gwrando pan na fydd unrhyw un arall yn gwneud. Nid ydym yn barnu a byddem yn helpu wrth roi gwybodaeth, cyngor defnyddiol a’r gefnogaeth sydd ei angen arnat i wneud newid.

Am wybodaeth bellach ar Gronfeydd Ymddiriedolaeth Plant – Ymwela â’n blog

Os wyt ti angen gwybodaeth bellach am arian – Cer draw i’n blogiau arian

Os wyt ti’n weithiwr proffesiynol – cer draw i’n Adnoddau i Weithwyr Proffesiynol

Os wyt ti angen siarad – Cysyllta â llinell gymorth Meic