x
Cuddio'r dudalen

Coda’r Meic: Methu Cadw’n Iach Ers Covid

Mae Jen wedi cael hen ddigon o beidio teimlo’n iach ers y cloi mawr ac wedi Codi’r Meic i ofyn am gymorth. Dyma’r ein cyngor iddi.


Coda’r Meic ydy dy gyfle di i ofyn cyngor am unrhyw beth sy’n dy boeni. Rydym yma i wrando a chynnig cyngor. Mae manylion #codarmeic ar y dudalen hon, ond cofia nad yw’r cyngor yn dod yn syth. Os wyt ti angen cyngor sydyn yna cysyllta â’r llinell gymorth.

This article is also available in English  – To read this content in English – click here.

Mae gennym sawl erthygl gyda gwybodaeth a chyngor am Covid-19 – edrycha arnynt yma.


Helo Meic,

Dwi ddim yn iach o gwbl ers y cyfnod Covid yma. Dwi wedi rhoi pwysau ymlaen ar ôl bwyta cymaint o sothach, dwi ddim yn cysgu’n iawn  a heb unrhyw awydd cadw’n heini. Mae mynd am dro neu redeg yn ddiflas. Dwi mor bôrd!!

Jen 

Cyngor Meic

Helo Jen,

Mae’n swnio fel dy fod di’n profi emosiynau tebyg iawn i nifer o bobl sydd wedi byw drwy’r cyfnod od yma. Mae diffyg awydd i ymarfer corff a bwyta’n ormodol, ynghyd â’r diflastod a’r diffyg cwsg, yn broblemau cyffredin iawn. Roedd sylweddoli ar yr hyn oedd yn ein hwynebu gyda’r sefyllfa, ac ansicrwydd popeth, yn golygu bod pobl wedi troi at ddulliau ymdopi oedd ganddynt eisoes, neu wedi darganfod rhai newydd. Y tric ydy helpu dy hun i ddarganfod dulliau positif, a gosod targed realistig i dy hun.

Merch ifanc ar esgidiau rolio yn yr haf ar gyfer erthygl Methu Cadw'n Iach Ers Covid

Bwyta, Cysgu, Symud, Ailadrodd

Mae’n amlwg, o’r hyn rwyt ti’n ei ddweud, dy fod di’n deall mai’r ffordd orau ydy bwyta diet iach a chytbwys, cael digon o gwsg a symud digon. Y broblem sydd gen ti ydy ysgogi dy hun i wneud hyn. Mae yna hen ddywediad ‘amrywiaeth yw sbeis bywyd’ – ac mae hyn yn wir. Os wyt ti’n amrywio pethau ychydig, ac yn rhoi tro ar bethau newydd, yna rwyt ti’n llai tebygol o ddiflasu. Mae yna sawl peth gwahanol gallet ti roi tro arno i gadw’n heini, ac roedd gan Meic erthygl ddefnyddiol am hyn ychydig yn ôl, yn edrych ar 4 ffordd i gadw’n heini tra’n sownd yn y tŷ. Dylai pethau fod yn hawdd fyth gan ein bod yn dod allan o’r cloi mawr yn araf bach. 

Mae sawl peth gallet ti ei wneud yn yr awyr agored. Cer am sbin ar dy feic, neu fynd am dro neu redeg i rywle. Amrywia’r llwybr weithiau fel nad wyt ti’n cael cyfle i ddiflasu. Efallai byddai’n help cael rhywbeth i anelu amdano, fel cyrraedd man diddorol neu fynd â phicnic gyda thi. Gan fod y rheol 5 milltir wedi mynd bellach, mae’r cyfleoedd i gadw’n heini wedi agor fwy ac nid oes rhaid i ti gerdded/rhedeg/beicio’r un hen lwybrau yn agos i dy gartref. Beth am lawr lwytho rhaglen mapio ar dy ffôn i ddarganfod llwybrau newydd? Mae gan y Guardian erthygl yn edrych ar wahanol apiau mapio ar-lein.

Merch gwallt brown yn gwisgo masg cysgu wedi lapio mewn cwilt ar gyfer erthygl Methu Cadw'n Iach Ers Covid

Trafferthion cysgu

Rwyt ti’n cael trafferth cysgu ar hyn o bryd. Yn ddelfrydol fe ddylem anelu am 7 i 8 awr o gwsg bob nos. Gall ymarfer corff rheolaidd a diet iach, cytbwys, helpu, ynghyd ag ychydig o syniadau hunangymorth fel arall. Mae’r rhain yn amrywio o gael trefn ddyddiol, sesiynau myfyrio rheolaidd, neu roi tro ar rywbeth newydd. Mae gan Meic erthygl arall ar Reoli Iechyd Meddwl yn y cyfnod anodd yma, gyda syniadau hunangymorth defnyddiol, sydd hefyd yn gallu helpu gyda chwsg.

Gobeithio bod y wybodaeth uchod wedi dy ysgogi, ac wedi rhoi syniadau i ti o sut i adennill ffordd o fyw iachach. Dim ond cyfnod arall yn dy fywyd yw hwn, cyfnod unigryw iawn, ac mae pethau yn dechrau llacio yn barod. Bydd y cyfyngiadau Covid-19 yn llacio ymhellach mewn amser, a bydd yn llawer haws i fyw dy fywyd fel yr wyt ti eisiau.

Yn dymuno’r gorau i ti

Llinell Gymorth Meic

Siarada â Meic

Gobeithio bod yr awgrymiadau uchod yn help, ond os wyt ti angen trafod mwy, mae posib cysylltu â Meic rhwng 8yb a hanner nos bob dydd ar y ffôn, neges testun neu sgwrs ar-lein.