x
Cuddio'r dudalen

Covid-19: Poeni Am Mam a’i Chalon

Mae amrywiaeth mawr yn lefel pryder pobl am Covid-19, ond i rai sydd mewn mwy o berygl os ydynt yn sâl gyda’r firws, mae’n gallu bod yn gyfnod anodd iawn, ac yn gallu achosi gorbryder. Dyma gyngor Meic.


Coda’r Meic ydy dy gyfle di i ofyn cyngor am unrhyw beth sy’n dy boeni. Rydym yma i wrando a chynnig cyngor. Mae manylion #codarmeic ar y dudalen hon, ond cofia nad yw’r cyngor yn dod yn syth. Os wyt ti angen cyngor sydyn yna cysyllta â’r llinell gymorth.

This article is also available in English  – To read this content in English – click here.

Mae gennym sawl erthygl gyda gwybodaeth a chyngor am Covid-19 – edrycha arnynt yma.


Helo Meic,

Mae’r Coronafeirws yn fwy peryglus i mam am fod ganddi broblemau calon ac wedi cael stent ychydig flynyddoedd yn ôl. Dwi ofn popeth, dwi ddim eisiau iddi farw. Dwi ofn, a dwi’n ypset drwy’r adeg. Beth fedra i wneud?

Diolch

Zack (*enw wedi’i newid i amddiffyn y person)

Cyngor Meic

Helo Zack,

Diolch am gysylltu gyda Meic gyda dy bryderon  am y risgiau posib i iechyd dy fam os byddai’n dal y Coronafeirws. Mae’n hollol ddealladwy i ti boeni am yr effaith gall y firws ei gael ar iechyd dy fam os byddai’n ei gael. Rydym yn falch iawn dy fod di wedi gofyn am gyngor Meic, da iawn ti am hynny.

Ble i ddarganfod gwybodaeth

Nid yw dy fam yn fwy tebygol o ddal Covid-19 am fod ganddi gyflwr calon, ond mae’n wir fod mwy o risg iddi fod yn waelach nag eraill os byddai’n dal y firws. Efallai byddai’n syniad i ti ddarllen yr hyn sydd gan Sefydliad Prydeinig y Galon i ddweud yn ‘Coronavirus: What it means for you if you have heart or circulatory disease’.

Mae’r wybodaeth penodol am stents i’w weld yma.

Mae yna ddolenni ar y dudalen yma hefyd gyda chyngor i aros yn ddiogel nawr bod y cyfyngiadau Covid-19 yn llacio ychydig.

Mae gan y GIG gyngor i bobl sydd mewn risg uwch o gymhlethdodau o’r Coronafeirws hefyd.

Rheoli’r ofn

Yn gwrando ar yr hyn rwyt ti’n ei ddweud, mae’n ymddangos fel bod pryderu am iechyd dy fam yn gosod cwmwl ddu dros bopeth ar hyn o bryd, ac rwyt ti’n ofni ac yn ypset drwy’r adeg. Mae’n naturiol i boeni. Beth am weld os gallet ti wneud rhywbeth i leihau’r ofn a chael teimlad o reolaeth?

Os wyt ti’n meddwl byddai’n helpu i siarad am dy deimladau, yna gallet ti gysylltu â Meic i sgwrsio gydag un o’r cynghorwyr ar y llinell gymorth. Gallem gynnig help i greu cynllun o bethau i’w gwneud i geisio rheoli pryderon. Manylion cysylltu isod.

Mam a'i mab ar y llawr yn gwneud yoga yn ystod Covid-19

Rheoli gorbryder

Dyma ychydig o awgrymiadau gall helpu rheoli gorbryder:

  • Mae ymarfer corff yn ffordd wych i leihau gorbryder a theimlo’n well. Edrycha ar erthygl Meic ar gadw’n heini adref yn ystod y cyfyngiadau.
  • Ymgolli dy hun mewn llyfr, ffilm neu gyfres teledu. Bydd yn helpu i dynnu sylw.
  • Mae ysgrifennu teimladau ar bapur yn ffordd dda i gael gwared ar emosiynau negyddol, yn ogystal â mynegi dy obeithion am y dyfodol. Beth am ysgrifennu rhestr fwced o bethau i wneud gyda theulu a ffrindiau pan fydd hyn i gyd  yn dod i ben?
  • Mae celf a chrefft yn ffordd dda i helpu teimlo’n bositif. Mae creu collage yn gallu bod yn hwyl, ac efallai bydd dy fam yn gallu helpu – gallech chi benderfynu â’ch gilydd beth i’w wneud, torri lluniau o gylchgronau, creu siapiau o ddarnau papur, neu dorri lluniau eich hun.
  • Gwrando ar gerddoriaeth, dawnsio neu ymlacio i helpu teimlo’n well. Gallet ti chwarae gêm o ‘dyfalu’r diwn’ gyda dy fam – cychwyn cân neu diwn, yna ceisio’i ddyfalu’n sydyn. Neu beth am gymryd tro i chwarae’ch hoff gân ac egluro pam eich bod yn hoffi’r gân? Mae’n ffordd hyfryd i rannu pethau sydd yn bwysig i chi.

Siarada â Meic

Gobeithio bod yr awgrymiadau uchod yn helpu gyda’r pryder, ond os hoffet ti sgwrsio gyda rhywun, mae posib cysylltu â Meic unrhyw dro rhwng 8yb a hanner nos bob dydd ar y ffôn, neges testun neu sgwrs ar-lein.