x
Cuddio'r dudalen

Coda’r Meic: Dwi Ddim Yn Hoffi Covid

Mae’r pandemig yn cael effaith ar bobl yn fyd eang. Yn ddiweddar cawsom neges Coda’r Meic gyda phum gair syml oedd yn dweud llawer mwy. Pan wyt ti’n ddiobaith, efallai bydd sgwrsio gyda chynghorydd Meic yn helpu. Dyma’n cyngor ni.


Coda’r Meic ydy dy gyfle di i ofyn cyngor am unrhyw beth sy’n dy boeni. Rydym yma i wrando a chynnig cyngor. Mae manylion #codarmeic ar y dudalen hon, ond cofia nad yw’r cyngor yn dod yn syth. Os wyt ti angen cyngor sydyn yna cysyllta â’r llinell gymorth.

(This article is also available in English  – To read this content in English  click here)

Mae gennym sawl erthygl gyda gwybodaeth a chyngor am Covid-19 – edrycha arnynt yma.


Helo Meic,

Dwi ddim yn hoffi Covid.

Adam (*enw wedi’i newid i amddiffyn y person)

Cyngor Meic

Helo Adam,

Diolch i ti am gysylltu gyda ni trwy Coda’r Meic. Roeddet ti’n dweud yn dy neges nad oeddet ti’n hoffi Covid-19. Nid ti yw’r unig un sydd yn teimlo fel hyn a dwi’n falch dy fod di wedi dod atom i chwilio am gymorth.

Y byd yn gwisgo mwgwd yn eistedd mewn dwylo doctor/gwyddonwr i greu darlun o'r pandemig Covid-19

Effaith Covid-19

Tybed beth rwyt ti’n ei feddwl wrth ddweud nad wyt ti’n hoffi Covid-19? Mae’n ddealladwy gan nad oes llawer i hoffi amdano. Tybed sut effaith mae hyn wedi’i gael arnat ti a’r ffordd rwyt ti’n teimlo ar hyn o bryd? Beth sy’n dy boeni?

Mae’r effaith mae’r firws yma wedi’i gael ar y ffordd rydym yn byw ein bywydau yn enfawr. Mae wedi bod yn gyfnod trist iawn hefyd gan fod llawer o bobl wedi bod yn wael iawn neu wedi marw. Os wyt ti wedi colli rhywun agos yna cer draw i wefan Gobaith Eto sydd yn ofod i droi ato pan fydd rhywun yn marw.

Ni fyddai neb wedi dychmygu flwyddyn yn ôl y byddem yn wynebu’r fath heriau a newidiadau. Mae llawer o bobl yn drist, yn flin, wedi drysu, mewn gofid, yn teimlo’n rhwystredig, yn ofni ac yn profi amrywiaeth eang o broblemau newydd. Gall deimlo’n llethol iawn. Ond, bydd y teimladau yma’n pylu ac yn araf bach bydd bywyd yn dechrau teimlo’n “normal” unwaith eto.

Ond, yn y cyfamser, bydd rhaid parhau i ddilyn canllawiau Llywodraeth Cymru i’n cadw ni, ac eraill, mor ddiogel â phosib.

Logo erthyglau Covid-19 Meic, wynebau gwenu yn gwisgo mygydau

Pethau i helpu

Cer i ddarllen ein herthygl Coronafeirws: Taflu Goleuni ar y Gwirionedd. Mae yna ddolenni i bethau defnyddiol eraill, fel gweithgareddau a phethau i dynnu sylw a chadw’n brysur. Mae’r holl erthyglau Covid-19 i’w darganfod yma, efallai bydd rhai yn dy helpu gyda theimladau, fel delio gydag emosiynau, cadw’n iach ac ymdopi gydag iechyd meddwl.

Os yw’n anodd adnabod beth yn union sydd yn cael yr effaith mwyaf arnat ti, gallet ti roi tro ar ateb y cwestiynau yma mae Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn gofyn i bobl ifanc. Efallai bydd yn helpu ti i feddwl am y pethau gwahanol yn dy fywyd a’r hyn sydd yn dy boeni. Bydd y wybodaeth yma yn hysbysu’r pwyllgor am anghenion pobl ifanc a byddant yn gweithio tuag at geisio cyflawni’r pethau yma.

Manylion cysylltu Meic ar gyfer erthygl Ddim yn hoffi Covid

Rhannu teimladau

Roedd dy neges yn eithaf byr, felly nid wyf yn sicr iawn pa wybodaeth neu gyngor roeddet ti’n gobeithio. Rydym yn awyddus i helpu, beth bynnag ydyw. Gallet ti ystyried cysylltu â chynghorwr yma ym Meic fel ein bod yn gallu sicrhau dy fod di’n cael yr help sydd ei angen. Mae ein cynghorwyr yma i geisio helpu ti i beidio poeni cymaint, gallant drafod y gefnogaeth sydd yn agored i ti os wyt ti angen.

Mae cysylltu â Meic yn ddienw ac yn gyfrinachol. Gallet ti ffonio, tecstio neu sgwrsio ar-lein. Rydym yma i ti bob dydd rhwng 8 y bore a hanner nos. Mae llawer o bobl ifanc yn teimlo bod siarad am eu teimladau a chael cymorth i ddarganfod datrysiadau yn helpu, i gychwyn, stopio neu newid rhywbeth yn eu bywydau. Cysyllta ar y ffôn (080880 23456), neges testun (84001) neu ar y we yn rhad ac am ddim os wyt ti angen. Nid wyt ti ar ben dy hun yn hyn.

Cymera ofal

Y Tîm Meic