x
Cuddio'r dudalen

Coda’r Meic: Lluniau Noeth

Os yw rhywun yn gofyn i ti yrru lluniau noeth iddynt, beth ddylet ti wneud? Dyma’r cwestiwn gofynnwyd yn Coda’r Meic. Rydym yn trafod canlyniadau, y gyfraith a pam na ddylet ti deimlo pwysau i wneud rhywbeth sydd ddim yn teimlo’n iawn.

Coda’r Meic ydy dy gyfle di i ofyn cyngor am unrhyw beth sy’n dy boeni. Rydym yma i wrando a chynnig cyngor. Mae manylion #codarmeic ar y dudalen hon, ond cofia nad yw’r cyngor yn dod yn syth. Os wyt ti angen cyngor sydyn yna cysyllta â’r llinell gymorth.

To read this content in English – click here

Hi Meic,

Rwy’n rili hoffi merch yn y flwyddyn yn uwch na fi yn yr ysgol, a dyn ni ddau yn defnyddio Snapchat i’n gilydd ac mae’n rili ddoniol. Wythnos diwetha, dechreuodd y ferch hala negeseuon ata i yn gofyn am luniau “wahanol” fel nudes ond sai’n siwr bo fi eisiau. Rwy’n gwybod bod fy ffrindiau i gyd wedi gwneud, ond sai isie edrych fel does dim gyts ‘da fi, felly mae’n anodd siarad gyda nhw. Beth fydd yn digwydd os ydw i’n hala’r lluniau?

Cyngor Meic

Helo!

Diolch am gysylltu â Meic.

Mae’n amlwg bod hyn yn rhywbeth sy’n dy boeni di ac mae’n grêt dy fod di wedi cysylltu . Mae’n sefyllfa anodd, ond mae llawer o bobl ifanc yn wynebu hyn gyda thechnoleg ddigidol yn rhan fawr o’n bywydau pob dydd.

Y Gyfraith

Mae Snapchat yn ffordd wych i gadw cysylltiad gyda ffrindiau ac i rannu lluniau o dy fywyd, ond os wyt ti’n camddefnyddio’r ap, mae’n hawdd i ti osod dy hun mewn sefyllfa beryglus neu gael i drafferthion..

Mae dy ffrind wedi gofyn i ti yrru lluniau noeth o dy hun ar gyfrwng cymdeithasol, rhywbeth gelwir yn ‘secstio’. Mae’n iawn i deimlo’n ddryslyd am wneud hyn, a gall  fod goblygiadau difrifol iawn os wyt ti o dan 18 oed yn gwneud hyn, gan mai plentyn wyt ti o hyd yn llygaid y gyfraith.

Mae’r gyfraith yn dweud bod hi’n anghyfreithiol i gael ‘llun anweddus’, neu rannu ‘llun anweddus’  o unrhyw un dan 18 oed, hyd yn oed selffi.

Os yw rhywun yn darganfod bod gen ti, neu dy ffrind, lun noeth o’ch gilydd yna gall y ddau ohonoch wynebu canlyniadau cyfreithiol. Cer draw i dudalen Childline gyda gwybodaeth am Secstio i ddeall mwy am y pwnc.

Efallai gallet ti rannu’r wybodaeth yma gyda dy ffrind er mwyn iddi ddeall pam nad wyt ti eisiau rhannu lluniau?

Colli rheolaeth

Mae’n bwysig cofio bod apiau yn gallu cadw lluniau, hyd yn oed ar Snapchat ble mae lluniau’n diflannu ar ôl sbel.  Mae’n hawdd cymryd sgrinlun a rhannu’r llun gyda phobl eraill. Os nad oes gen ti ffydd yn y person sydd wedi derbyn y llun, yna mae’n debyg gall y llun cael ei rannu heb dy ganiatâd, sydd yn gallu bod yn niweidiol ac yn ofidus os mai llun preifat neu noeth ydyw. Hyd yn oed os oes gen ti ffydd lwyr yn y person nawr, beth fydd yn digwydd os ydych chi’n cael ffrae neu’n gwahanu?

Mae gan Brook ddigonedd o wybodaeth am secstio, gan gynnwys beth i wneud os wyt ti wedi rhannu llun noeth yn barod, ymdopi gyda phwysau i yrru un, a gofyn i rywun am un.

Pwysau ffrindiau

Rwyt ti’n poeni hefyd am ymateb dy ffrindiau eraill pan fyddant yn clywed nad wyt ti eisiau gwneud hyn. Rwyt ti’n poeni  y byddant yn dweud nad oes gen ti’r dewrder i wneud hyn.  Os ydyn nhw’n ffrindiau da, yna byddant yn cefnogi dy benderfyniad ,ac mae’n hollol iawn i ti beidio teimlo’n hapus yn gyrru’r lluniau iddi. Os yw hi, neu dy ffrindiau, yn rhoi pwysau arnat ti i yrru lluniau, gelwir hyn yn bwysau rhywiol, ac nid oes rhaid i ti wneud unrhyw beth nad wyt ti’n hapus ag ef.

yn siwr o dy gefnogi byddent yn dy gefnogi di beth bynnag rwyt ti’n dewis gwneud. Os ydy hi, neu dy ffrindiau eraill, yn rhoi pwysau arnat ti i hala’r negeseuon yma, mae hyn yn bwysau rhywiol a nad oes rhaid i ti adael iddyn nhw gwneud hyn na gwneud unrhyw beth dwyt ti ddim yn barod i gwneud.

Mae’n ymddangos fel bod dy ffrind yn awyddus i’r perthynas symud i un mwy agos, ac efallai byddai’n syniad trafod hyn gyda hi i weld beth yw’r sefyllfa ac os mai dyma mae’r ddau ohonoch yn awyddus i ddigwydd.

Gobeithio bod y wybodaeth yma wedi bod o fudd, a diolch am gysylltu. Os wyt ti dal yn ansicr am beth i’w wneud ac eisiau siarad mwy am y peth, yna cysyllta ar y ffôn, neges testun neu sgwrs ar-lein, bob dydd rhwng 8yb a hanner nos.

Cymera ofal

Y Tîm Meic

Erthygl berthnasol:

Secstio Ac Ecsploetiaeth Rywiol