x
Cuddio'r dudalen

Coda’r Meic: Nerfus Am Gychwyn Ysgol Uwchradd

Mae symud o ysgol gynradd i ysgol uwchradd yn gallu gwneud i rywun teimlo cyffro ac ofn ar yr un pryd. Mae’n iawn ac yn normal i deimlo’n nerfus am y peth gan ei fod yn ddigwyddiad mawr yn dy fywyd. Un peth i’w gofio ydy nad ti yw’r unig un sy’n teimlo’n nerfus, mae’n debyg bod y mwyafrif o’r plant sydd yn symud i ysgol uwchradd gyda’r un teimladau.

Dyma rai o’r pryderon mae plant sydd yn symud i ysgol uwchradd yn ei deimlo:
• Sut ydw i am ddeall fy ffordd o amgylch yr ysgol, mae’n llawer mwy nag ysgol gynradd ac mae cymaint mwy o ddisgyblion ac athrawon yno?
• Efallai bydd fy ffrindiau mewn grŵp tiwtor gwahanol, ydw i am wneud ffrindiau newydd?
• Dwi wedi clywed bod llawer o waith cartref, a dwi’n poeni ni fyddaf yn gallu cwblhau popeth
• Dwi ychydig yn nerfus am deithio i’r ysgol ar ben fy hun, ond mae pawb arall yn, felly bydd rhaid i mi
• Dwi’n ofni cael fy mwlio gan rhai o’r plant hŷn yn yr ysgol

Mae yna lawer o gefnogaeth a chymorth mewn ysgolion i ddisgyblion blwyddyn 7. Mae ysgolion yn deall bod cychwyn ysgol uwchradd yn brofiad ofnus, ac maent yn rhoi llawer o ymdrech i sicrhau dy fod yn setlo mor dda â phosib. Mae’r tiwtor blwyddyn yno i helpu gydag unrhyw gwestiynau neu bryderon sydd gen ti, rhywun byddi di’n gweld dau waith y dydd ar gyfer cofrestru. Bydd gen ti Bennaeth Blwyddyn hefyd sydd yn gallu helpu disgyblion gydag unrhyw faterion sydd y tu allan i allu’r tiwtor blwyddyn, ac mae gan y mwyafrif o ysgolion fentoriaid dysgu a chynghorwyr neu swyddogion lles hefyd.

Bydd amserlen/cynlluniwr yn cael ei roi i ti gyda rhestr o’r pynciau, athrawon a dosbarthiadau i gyd. Fel arfer mae’n cymryd tuag wythnos neu ddau i ddod i’r arfer â newid gwersi a gwybod ble mae’r dosbarthiadau, a bydd dy gyd-ddisgyblion gyda thi wrth i ti symud o gwmpas yr ysgol.

Mae ffrindiau ysgol gynradd yn cael eu gwahanu i wahanol grwpiau tiwtor yn aml (nid yn bwrpasol) ac er efallai byddai’n well gen ti i hyn beidio digwydd, mae’n rhoi cyfle i ti ddod i adnabod a gwneud ffrindiau gyda phlant eraill. Gallet ti dreulio amser gyda nhw, a dy ffrindiau newydd, yn ystod yr egwyl ac amser cinio. Gallet ti hefyd edrych ar y gweithgareddau allgyrsiol fel amryw chwaraeon, drama, dawns, a llawer mwy, gan fod ymuno â chlybiau yn yr ysgol yn ffordd dda i setlo, cadw’n iach, cyfarfod ffrindiau newydd a mwynhau profiadau newydd. Mae astudiaeth ddiweddar yn dangos bod plant a phobl ifanc sydd yn cymryd rhan mewn gweithgareddau allgyrsiol yn cael gwell canlyniadau TGAU.

Efallai bydd y gwaith cartref yn yr ysgol uwchradd yn teimlo fel lot i gychwyn, dyma ychydig o awgrymiadau gall helpu:

• Dewis lle distaw, cyffyrddus i wneud dy waith cartref os yn bosib
• Ceisia fwyta rhywbeth ac yfed digon o ddŵr, gan fod hyn yn helpu cadw ti’n effro
• Gosod amser i’w wneud, er esiampl, ar ôl yr ysgol neu yn fuan yn y nos. Ystyried defnyddio llyfrgell yr ysgol neu glwb gwaith cartref (os oes un) i gwblhau peth ohono
• Mae’n well cwblhau’r gwaith cartref tra mae’r wers yn ffres yn dy feddwl, mae’n hawdd anghofio beth roedd yr athro yn ei ddweud os wyt ti’n gadael pethau’n rhy hir. Mae hefyd yn helpu ti i beidio teimlo pwysau os wyt ti’n ei gwblhau’n sydyn
• Sicrhau dy fod di’n deall y dasg – os wyt ti’n ansicr, gofynna i’r athro pwnc neu dy diwtor blwyddyn
• Mae rhai pobl ifanc yn mwynhau astudio â’i gilydd gan ei fod yn helpu iddynt ganolbwyntio
• Os wyt ti’n cael trafferthion gyda’r swm o waith cartref, siarada gyda’r tiwtor blwyddyn a dy rieni fel eu bod yn gallu awgrymu ffyrdd i helpu
• Cymera seibiannau byr a symud o gwmpas gan y gall hyn helpu ti i ganolbwyntio
• Cymeradwya dy hun ar ôl i ti gwblhau’r gwaith cartref a mwynha’r teimlad o lwyddiant ti’n ei gael ohono

Mae gwneud y siwrne i ysgol newydd heb oedolion yn gallu bod yn brofiad ofnus i gychwyn, ond, ar ôl ychydig ddyddiau, mae’n debyg byddi di’n dechrau mwynhau’r annibyniaeth. Os wyt ti’n poeni am sut i gael i’r ysgol, ymarfer y siwrne cwpl o weithiau cyn i’r tymor gychwyn fel dy fod di’n teimlo’n fwy hyderus am y peth, ac efallai trefnu teithio gyda ffrindiau.

Mae llawer o blant yn symud i ysgolion uwchradd yn dweud eu bod yn poeni am fwlio. Tra bod bwlio yn digwydd ymhob ysgol, mae ysgolion uwchradd yn dda iawn yn rhoi eu polisïau gwrth-fwlio ar waith fel arfer. Maent yn awyddus i stopio bwlio yn syth ac i ddefnyddio cymysgedd o bethau i helpu rhoi diwedd arno. Gallet ti edrych ar Bolisi Bwlio dy ysgol uwchradd ar wefan yr ysgol am wybodaeth bellach. Os wyt ti’n profi bwlio, a ddim yn hapus gyda’r cymorth ti’n ei gael yn yr ysgol, gallet ti gysylltu â Meic – Yn ogystal â rhoi cyngor a gwybodaeth, mae Meic yn cynnig eiriolaeth (siarad ar dy ran) i bobl ifanc fydda’n hoffi cael cymorth i hysbysu oedolion am beth sydd yn digwydd a sut maent yn teimlo.

Gobeithio dy fod di’n teimlo ychydig yn llai nerfus ar ôl darllen hwn. Cofia bod siarad yn helpu, felly paid ofni rhannu dy deimladau gyda dy rieni neu ofalwyr, neu cysyllta â Meic. Pob lwc.