x
Cuddio'r dudalen

Coda’r Meic: Gad i Fi Ddewis Fy Ffrindiau

Cysylltodd Ari â Coda’r Meic yn chwilio am help i gael ei fam i gytuno iddo gael mynd allan gyda ffrindiau sydd ddim yn aelodau o’r eglwys. Sut gall perswadio ei fam heb iddo droi’n ffrae? Dyma gyngor Meic yn Coda’r Meic yr wythnos hon.


Coda’r Meic ydy dy gyfle di i ofyn cyngor am unrhyw beth sy’n dy boeni. Rydym yma i wrando a chynnig cyngor. Mae manylion #codarmeic ar y dudalen hon, ond cofia nad yw’r cyngor yn dod yn syth. Os wyt ti angen cyngor sydyn yna cysyllta â’r llinell gymorth.

This article is also available in English  – To read this content in English – click here


Helo Meic,

Mae mam yn grefyddol iawn a byth yn gadael i mi fynd allan gyda ffrindiau sydd ddim yn aelodau o’n heglwys, ond dwi’n casáu’r plant yno. Maen nhw mor ddiflas a dwi ddim yn hoff ohonynt, yn siarad am ddim ond yr eglwys. Dwi’n malio dim!

Dydy mam heb adael i mi fynd allan ers tua 3 blynedd. Nid oes gen i ddiddordeb yn ei chrefydd bellach ac nid yw’n gallu deall hynny. Ond dwi wedi colli diddordeb oherwydd y ffordd mae hi’n ymddwyn am bopeth. Nid yw’n gadael i mi dreulio amser gyda fy ffrindiau go iawn. Dwi ddim yn gwybod sut i’w pherswadio nad ydyn nhw’n broblem.

Ari (*enw wedi ei newid i amddiffyn preifatrwydd)

Cyngor Meic

Helo Ari,

Mae’n swnio fel bod pethau’n anodd iawn i ti gyda dy fam ar hyn o bryd. Mae’n ddrwg gen i glywed nad yw’n gadael i ti fynd allan gyda ffrindiau sydd ddim yn aelodau o’r eglwys. Gall fod yn unig iawn i ti fod yn sownd yn y tŷ a ddim yn gallu mwynhau cymdeithasu gyda dy ffrindiau.

Llun o lygaid ar gyfer Gad i Fi Ddewis Fy Ffrindiau

Safbwynt gwahanol

Mae’n gwbl naturiol i ti deimlo’n rhwystredig ac yn siomedig gyda’r hyn sydd yn digwydd. Mae’n dda hefyd dy fod di wedi gofyn am gyngor i berswadio dy fam y byddi di’n hapusach os caniateir i ti fynd allan gyda ffrindiau y tu allan i’r eglwys.

Efallai bydd yn helpu i feddwl o safbwynt dy fam. Efallai ei bod hi’n meddwl ei bod yn amddiffyn ti wrth atal ti rhag mynd allan gyda ffrindiau eraill. Gan feddwl y bydd hyn yn helpu ti i dderbyn ffordd o fyw’r eglwys. Efallai nad yw’n ymddangos yn deg iawn i ti, ond mae ceisio deall y rhesymau pam bod rhywun yn gwneud rhywbeth yn gallu helpu weithiau. Gall hyn ei wneud yn haws i ddod i ddatrysiad lle gall y ddau ohonoch fod yn hapus.

Cartwn dau berson yn siarad dros baned ar gyfer Gad i Fi Ddewis Fy Ffrindiau

Eglura dy hun

Efallai bydd y camau yma yn helpu chi i feddwl am ddatrysiad mae’r ddau ohonoch yn hapus ag ef:

– Siarad gyda dy fam

Efallai bod hyn wedi digwydd yn barod, ac yn gorffen mewn ffrae bob tro. Wyt ti wedi meddwl am y ffordd orau i godi’r mater? Paid meddwl amdano fel cychwyn dadl. Meddylia am y pethau rwyt ti eisiau dweud fel dy fod di’n gallu egluro’n glir yr hyn rwyt ti’n awyddus i ddigwydd. Gallet ti ymarfer yr hyn rwyt ti eisiau dweud o flaen llaw, a cheisia siarad mewn ffordd garedig ond pendant. Nid yw siarad yn meddwl bod y person arall yn mynd i newid ei feddwl bob tro, ond gall fod yn gymorth i ddod i ddeall eich anghenion ychydig fwy. Efallai bydd y ddau ohonoch yn gallu dod i gytundeb fydd yn gweithio i’r ddau ohonoch.

– Ysgrifennu llythyr

Os nad yw siarad yn helpu, yna beth am ysgrifennu llythyr? Bydd hyn yn rhoi amser i ti feddwl yn iawn am yr hyn rwyt ti eisiau dweud wrthi. Gallet ti sicrhau dy fod di’n defnyddio brawddegau caredig, clir a pendant. Eglura’r hyn rwyt ti eisiau mewn ffordd resymol, heb gael neb yn torri ar draws na cholli tymer a chael ffrae.

– Siarada gyda rhywun rwyt ti’n gallu ymddiried ynddynt

Oes gen ti fodryb neu ewythr, neu athro neu rywun arall gallet ti ymddiried ynddynt i siarad am dy deimladau a dy emosiynau? Efallai bod y syniad o fod yn agored â rhywun yn codi ofn i gychwyn, ond fel arfer, unwaith i ti gymryd y cam cyntaf, bydd pethau yn dod yn haws. Os yw’r syniad o gychwyn sgwrs yn codi ofn arnat ti, yna gallet ti ysgrifennu dy deimladau ar bapur er mwyn bod yn glir am yr hyn rwyt ti eisiau dweud. Efallai gallant helpu ti i siarad gyda dy fam.

Cartŵn grŵp o ffrindiau y tu mewn ar gyfer Gad i Fi Ddewis Fy Ffrindiau

Gwahanol opsiynau

Os yw dy fam yn dal i fod yn anhapus i adael i ti fynd allan gyda ffrindiau ar ôl gwneud y camau uchod, yna meddylia beth yw’r cam nesaf. Efallai gallet ti ofn wrthi os byddai’n caniatáu i dy ffrindiau ddod i’r tŷ. Bydd hi’n gallu gweld ti’n cymysgu’n hapus gyda dy ffrindiau y tu allan i’r eglwys, ac efallai bydd hyn yn gwneud iddi sylwi nad yw’n syniad mor ddrwg â hynny wedi’r cwbl.

Mae yna erthygl ar wefan Childline gan rywun sydd mewn sefyllfa debyg i ti. Mae yna gyngor da ar sut i siarad am dy deimladau neu ffordd i ddod i gytundeb.

Gobeithio bydd y cyngor uchod yn helpu ti i egluro dy deimladau a meddyliau i dy fam mewn heddwch, a meddwl am ddatrysiad y mae’r ddau ohonoch yn hapus ag ef. Ond os wyt ti angen siarad i gael cyngor pellach, yna mae ein cynghorwyr yn hapus iawn i helpu (manylion cyswllt isod).

Cymera ofal

Y Tîm Meic

Galwa Meic

Os wyt ti angen siarad gyda rhywun am unrhyw beth sydd yn dy boeni, yna galwa Meic i siarad gyda chynghorydd cyfeillgar.

Mae Meic yn llinell gymorth, gwybodaeth ac eiriolaeth i blant a phobl ifanc 0 i 25 oed yng Nghymru. Rydym yn agored o 8am i hanner nos, 7 diwrnod yr wythnos. Mae posib cysylltu ar y ffôn (080880 23456), neges testun (84001) ac ar y we yn rhad ac am ddim