x
Cuddio'r dudalen

Polisi Cwcis

Defnydd o gwcis gan Meic

Ffeiliau testun bach yw cwcis y mae’r gwefannau rydych chi’n ymweld â nhw yn eu hanfon i’ch cyfrifiadur neu’ch dyfais symudol. Maen nhw’n helpu gwefannau i weithio’n well ac yn rhoi gwybodaeth i berchnogion gwefannau. Er enghraifft, rydym yn defnyddio cwcis iaith er mwyn gwybod ym mha iaith yr hoffech weld y wefan, rydym hefyd yn defnyddio cwcis YouTube i osod fideos ar dudalennau a chwcis Google Anaytics i olrhain ymddygiad defnyddwyr ar y wefan. Drwy ddeall sut mae pobl yn defnyddio’n gwefan, gallwn ei gwneud yn haws i’w defnyddio a chynnig cynnwys sy’n diwallu anghenion pobl yn well. Mae’r wybodaeth y mae Meic yn ei chasglu yn cynnwys cyfeiriad IP, tudalennau yr ymwelwyd â nhw, y porwr a’r system weithredu. Ni chaiff y data eu defnyddio i adnabod unrhyw ddefnyddwyr yn bersonol. Dyma’r cwcis rydym yn eu defnyddio ar ein gwefan:

Cwci Enw Diben Dod i ben
Language version langPrefWAG Y system rheoli cynnwys sy’n creu’r cwci hwn ac mae’n hanfodol er mwyn i’r wefan ddangos yn yr iaith gywir. Pan fyddwch yn cau eich porwr
Session Tracking JSessionID Er mwyn olrhain sesiwn pan fo’r cwcis wedi’u diffodd. Mae hyn yn caniatáu i’r porwr gadw eich sesiwn. Ar ddiwedd y sesiwn
GoogleAnalytics _ga Caiff y cwci hwn ei ddefnyddio i weld sut mae ymwelwyr yn defnyddio’n gwefan. Rydyn ni’n defnyddio’r wybodaeth i’n helpu i wella’r wefan. Mae’r cwci yn casglu gwybodaeth yn ddienw, gan gynnwys gwybodaeth ddemograffig, nifer yr ymwelwyr â’r wefan, a ydyn nhw wedi ymweld â’r wefan o’r blaen, a’r tudalennau y maen nhw’n ymweld â nhw. 2 flynedd
CookieControl civicAllowCookies
civicShowCookieIcon
Mae’r cwci hwn yn cofnodi a yw defnyddiwr wedi derbyn y defnydd o gwcis ar ein gwefan. 10 awr
YouTube VISITOR_INFO1_LIVE

PREF

Mae’r cwcis hyn yn hanfodol i ddangos fideos YouTube ar ein gwefan. 8 mis
YouTube use_hitbox Ar ddiwedd y sesiwn

Mae modd rheoli rhywfaint ar gwcis drwy osodiadau eich porwr. I ddysgu rhagor am gwcis a sut i’w rheoli, ewch i www.allaboutcookies.org.

Pa wybodaeth sy’n cael ei chasglu gennym?

Rydym yn monitro gweithgarwch defnyddwyr y wefan hon er mwyn gwella’r cynnwys. Mae’r wefan yn defnyddio Google Analytics, gwasanaeth dadansoddi’r we a ddarperir gan Google Inc. (‘Google’). Mae Google Analytics yn defnyddio ‘cwcis’ a chod JavaScript i helpu i ddadansoddi sut mae defnyddwyr yn defnyddio gwefannau. Bydd yr wybodaeth a gynhyrchir am eich defnydd o’r wefan (gan gynnwys eich cyfeiriad IP dienw) yn cael ei throsglwyddo a’i storio ar weinyddion Google yn yr Unol Daleithiau.

Bydd Google yn defnyddio’r wybodaeth hon er mwyn llunio adroddiadau am weithgaredd defnyddwyr y wefan hon.  Gall Google hefyd drosglwyddo’r wybodaeth hon i drydydd parti pan fydd yn ofynnol i wneud yn ôl y gyfraith, neu pan fydd trydydd parti yn prosesu’r wybodaeth ar ran Google.

Ni fydd Google yn cysylltu eich cyfeiriad IP gydag unrhyw ddata eraill a gedwir ganddo. Gallwch wrthod defnyddio cwcis drwy ddewis y gosodiadau priodol ar eich porwr, ond nodwch os gwnewch hyn efallai na fyddwch yn gallu defnyddio’r wefan hon yn llawn. Drwy ddefnyddio’r wefan hon, rydych yn rhoi caniatâd i Google brosesu data amdanoch chi yn y dull ac i’r dibenion a nodwyd uchod.

Darllenwch Bolisi Preifatrwydd Google  a Thelerau Gwasanaeth Google i gael yr wybodaeth fanwl.

O bryd i’w gilydd, mae’r wefan hon yn darparu dolenni at ffurflenni Survey Monkey ar gyfer casglu data. Caiff y data hyn eu prosesu yn yr Unol Daleithiau ac mae’r modd y cânt eu trin yn bodloni darpariaethau’r Rheoliad Cyffredinol ar Reoli Data.

Eich Rhyngweithiad â’r Wefan Hon

Rydym yn casglu dau fath o wybodaeth electronig oddi wrth y rheini sy’n ymweld â’r wefan hon; adborth a manylion tanysgrifio drwy e-bost.

Peiriant Chwilio

Google Search Appliance (GSA) sy’n cynnal ein cyfleuster chwilota ar ein gwefan. Mae ymholiadau a chanlyniadau chwiliadau yn cael eu logio’n ddienw er mwyn ein helpu i wella’n gwefan a’r cyfleusterau chwilio. Nid oes unrhyw ddata penodol am ddefnyddwyr yn cael eu casglu gan Meic nac unrhyw drydydd parti.

E-newyddlen

Rydym yn defnyddio’r darparwr trydydd parti GovDelivery i anfon ein e-newyddlenni misol. Rydym yn casglu ystadegau ynghylch yr e-byst sy’n cael eu hagor a nifer y cliciau drwy ddefnyddio technolegau safonol y diwydiant, gan gynnwys GIFs clir i’n helpu i fonitro a gwella ein e-newyddlen. I gael rhagor o wybodaeth, gweler polisi GovDelivery ar y Rheoliad Cyffredinol ar Reoli Data. Mae hefyd modd gweld ei Bolisi Preifatrwydd cyffredinol yma.

Ymgyngoriadau ac offer arolygon ar-lein

Rydym yn casglu gwybodaeth sy’n cael ei rhoi’n wirfoddol gan y cyhoedd drwy ddefnyddio offeryn arolygon ar-lein a gynhelir drwy Smart Survey, sy’n gweithredu fel prosesydd data i Meic ac yn prosesu gwybodaeth bersonol yn unol â’n cyfarwyddiadau yn unig. Mae Smart Survey yn gweithredu o’r Unol Daleithiau, ond mae wedi rhoi sicrhad ei fod yn bodloni safonau’r Rheoliad Cyffredinol ar Reoli Data, fel y gwelir yn ei Bolisi Preifatrwydd.

O bryd i’w gilydd, rydym yn cynnal arolygon drwy ddefnyddio Survey Monkey. Mae Survey Monkey wedi rhoi sicrhad bod y cwmni’n bodloni safonau’r Rheoliad Cyffredinol, er ei fod hefyd yn gweithredu ac yn cadw’r holl ddata yn yr Unol Daleithiau. Gweler hefyd Bolisi Preifatrwydd y cwmni.