Coda’r Meic: Dwi Ddim Wedi Cael Rhyw
Yr wythnos hon mae gennym ymgyrch perthnasau arbennig ar Meic. Dyma un o sawl erthygl yn cael ei gyhoeddi ar y pwnc yr wythnos hon. I weld mwy edrycha ar yr adran erthyglau.
Mae myfyriwr ifanc yn poeni am fod yr unig ‘fyrjin’ yn y brifysgol ac yn teimlo pwysau i gael rhyw cyn hynny. Mae wedi codi’r Meic i ofyn am gyngor.
Annwyl Meic,
Fi yw’r unig un ymysg fy ffrindiau sydd yn fyrjin o hyd. Mae fy ffrindiau a finnau yn mynd i’r brifysgol eleni, a bob tro rydym yng nghwmni ein gilydd mae pawb yn siarad am ryw ac yn cyfnewid straeon. Dwi ddim wedi gwneud dim rhywiol gyda neb, ac felly fedra i ddim cyfrannu a dwi’n cael fy nghau allan. Maen nhw’n chwarae gemau yfed am y pwnc hefyd, felly mae pawb yn meddwi’n gaib a fi’n sobr sant bob tro!
Dwi wedi bod yn cadw fy hun i rywun arbennig, a dwi ddim wedi bod mewn perthynas hyd yn oed. Dwi’n dechrau meddwl mod i’n od. Mae pawb yn dweud nad wyt ti eisiau bod yn fyrjin pan ti’n mynd i’r brifysgol. Dwi’n rhedeg allan o amser, beth ddylwn i’w wneud?
Ymateb Meic
Helo ‘na,
Diolch am gysylltu gyda Meic am y mater yma; mae llawer o bobl ifanc yn poeni am y hyn.
Mae llawer iawn o bwysau cyfoedion ar bobl ifanc i ddod yn actif yn rhywiol, yn aml cyn iddynt deimlo’n barod i ddechrau cael rhyw. Ar ben hynny, mae’r cyfryngau yn portreadu pobl ifanc yn cael rhyw fel norm cymdeithasol, ond nid dyma’r gwir i bob person ifanc.
A yw’n wir?
Rwyt ti’n dweud bod dy ffrindiau yn siarad am ryw ac yn cyfnewid straeon. Mae’n bosib mai cadw wyneb yw hyn i rai ac nad dyma’r gwirionedd bob tro. Mae’n eithaf cyffredin i bobl ifanc gorliwio neu ddweud celwydd am gael rhyw. Efallai bydd rhai o dy ffrindiau yn teimlo’n debyg i ti, ond yn ddiffyg yr hyder i ddweud.
Mae’n swnio fel dy fod di wedi meddwl lot am pan fyddi di efallai’n teimlo’n barod i gael rhyw, a dy fod di wedi meddwl disgwyl nes i ti gyfarfod rhywun arbennig. Fe ddywedes di hefyd dy fod di’n poeni dy fod di’n od am nad oeddet ti wedi cael perthynas eto. Ond mae hyn yn ffitio gyda’r dymuniad o gyfarfod rhywun arbennig cyn cael mewn i berthynas.
Mae’n glir dy fod di’n feddyliwr annibynnol, gyda synnwyr cryf o’r pethau ti eisiau a ddim eisiau, ac mae hynny’n beth positif iawn! Ti’n llawer mwy tebygol o gael profiad pleserus o ryw os nad wyt ti dan bwysau ac yn gwbl gyfforddus gyda dy ddewis.
Gwna rhywbeth arall
Soniais fod dy ffrindiau i gyd yn siarad am ryw pan fyddech chi’n cyfarfod. Oes gen ti ffrindiau sydd efallai yn teimlo’n debyg i ti, neu sydd ddim yn treulio’r holl amser yn siarad am ryw? Os oes, yna efallai byddai’n syniad treulio amser gyda nhw, gan y bydda hyn yn lleihau’r pwysau arnat ti. Gallet ti hefyd ystyried dilyn unrhyw ddiddordebau, fel chwaraeon, neu wneud ychydig o wirfoddoli cyn mynd i’r brifysgol.
Gwybodaeth bellach
Edrycha ar y dolenni canlynol am wybodaeth bellach:
Mae Brook yn wasanaeth gyda gwybodaeth iechyd rhywiol a llesiant i rai dan 25 oed. Mae adrannau yn yr adran wybodaeth ar Ryw, Atal Cenhedlu, STI’s. Perthnasau, Beichiogrwydd, Rhyw’r Person, Iechyd a Lles, Camdriniaeth a Thrais, a Fy Nghorff.
Mae gwefan Rhwydwaith Iechyd Merched a Phlant yn cynnwys adran Iechyd Oedolion Ifanc gyda llawer o bynciau gan gynnwys Pwysau i gael rhyw.
Gobeithiwn fod y cyngor yma yn helpu ti i wneud y penderfyniad cywir i ti. Pob lwc yn y brifysgol pan fyddi di’n mynd.
Galwa Meic
Os wyt ti eisiau help neu gyngor am berthynas, neu os oes rhywbeth arall yn dy boeni, yna galwa Meic i siarad gyda chynghorydd cyfeillgar.
Mae Meic yn llinell gymorth, gwybodaeth ac eiriolaeth i blant a phobl ifanc 0 i 25 oed yng Nghymru. Rydym yn agored o 8am i hanner nos, 7 diwrnod yr wythnos. Mae posib cysylltu ar y ffôn (080880 23456), neges testun (84001) ac ar y we yn rhad ac am ddim.