x
Cuddio'r dudalen

Coda’r Meic: Cyfarfod â Ffrindiau Yn Ystod y Pandemig

Mae Sophie yn teimlo fel ei bod yn colli allan gan bod ei ffrindiau yn cyfarfod yn ystod y cyfnod yma o ynysu. Cysylltodd â Coda’r Meic am gefnogaeth, dyma ein cyngor.


Coda’r Meic ydy dy gyfle di i ofyn cyngor am unrhyw beth sy’n dy boeni. Rydym yma i wrando a chynnig cyngor. Mae manylion #codarmeic ar y dudalen hon, ond cofia nad yw’r cyngor yn dod yn syth. Os wyt ti angen cyngor sydyn yna cysyllta â’r llinell gymorth.

(This article is also available in English  – To read this content in English click here)

Mae gennym sawl erthygl gyda gwybodaeth a chyngor am Covid-19 – edrycha arnynt yma.


Helo Meic,

Dwi’n gwybod bod pawb i fod yn ynysu ar hyn o bryd ond mae fy ffrindiau yn dal i gyfarfod. Maen nhw’n dweud wrth eu rhieni eu bod nhw’n mynd am dro ar y beic, ond yna’n cyfarfod efo’i gilydd. Dwi’n gwybod nad ydyn nhw i fod i wneud hyn ond dwi wir yn methu fy ffrindiau ac yn teimlo fy mod yn colli allan. Nid oes yr un ohonom yn sâl, a does neb yn ein teulu’n sâl chwaith, felly pa wahaniaeth bydd cyfarfod yn ei wneud?

Sophie  (*enw wedi’i newid i amddiffyn y person)

Cyngor Meic,

Helo Sophie,

Mae’n debyg bod hyn yn anodd iawn i ti. Mae’n hawdd deall dy fod di’n methu dy ffrindiau ac yn teimlo fel dy fod di’n colli allan. Rydym yn deall yn iawn yma ym Meic gan ein bod ni’n methu ein ffrindiau hefyd.

Ond, rwyt ti a dy rieni yn gwneud y peth cywir. Dyw dy ffrindiau ddim. Mae’n debyg dy fod di’n gwybod bod y firws yma wedi achosi i lawer iawn o bobl fod yn sâl ofnadwy, ac ym Mhrydain yn unig mae dros 18,000 o bobl wedi marw.

Coda'r Meic Cyfarfod gyda Ffrindiau - buddiannau ymbellhau gyda delwedd matsis yn llosgi

Atal y lledu

Rwyt ti’n dweud nad oes yr un o dy ffrindiau na theulu yn sâl, dda gennym glywed hynny. Ond, oeddet ti’n gwybod bod posib cael Covid-19 heb fod yn ymwybodol o hynny? Gall y symptomau fod mor wan fel nad wyt ti’n sylwi o gwbl. Os wyt ti’n mynd allan i gymdeithasu gyda ffrindiau neu deulu, gallet ti fod yn pasio hwn ymlaen iddynt heb sylwi.

Beth os byddai un o dy ffrindiau gyda’r firws ond ddim yn ymwybodol? Maent yn cymdeithasu gydag ychydig o bobl eraill ac mae un ohonyn nhw’n ei ddal hefyd. Mae’r person yna wedyn yn mynd adref ac yn ei basio ymlaen i’w fam, sydd yn nyrs efallai. Mae hi wedyn yn mynd i’r gwaith ac yn ei basio ymlaen i un o’r cleifion, oedd yn yr ysbyty am rywbeth hollol wahanol i Covid-19. Mae’n beth difrifol iawn. Mae’r dywediad ‘Nid y firws sydd yn symud, pobl sydd yn ei symud’ yn wir.

Mae’r ynysu yma (er pa mor ddiflas ydyw) wedi cael ei osod i stopio’r firws ledaenu. Y cymaint ohonom sydd yn gwneud y peth cywir, y llai o gyfle cai’r firws i ledaenu, a byddem yn dod o’r cyfnod o ynysu yn fwy sydyn. Rwyt ti yn gwneud y peth cywir.

Coda'r Meic Cyfarfod gyda Ffrindiau - Merch yn bwyta popcorn ar gyfer

Gwahardd y diflastod

Ydy, efallai bod y cyfnod yma yn ddiflas, yn rhwystredig ac yn gwneud i ti deimlo ychydig yn ‘meh’! Felly, beth allet ti ei wneud fel bod pethau’n ymddangos yn well? I gychwyn, BYDD HYN YN PASIO! Cyn i ti droi, byddi di’n ôl yn yr ysgol/coleg/gwaith, yn rhuthro o gwmpas, yn teimlo straen y llwyth gwaith ac yn breuddwydio am gael ychydig mwy o amser yn y dydd. Mae’n debyg na fyddi di byth yn cael yr un faint o amser rhydd byth eto, felly gwna’r mwyaf ohono.

  • Cadwa gyswllt gyda ffrindiau – mae gyrru tecst yn iawn, ond mae cyfarfod wyneb i wyneb drwy alwad fideo yn well. Byddi di’n teimlo mwy o gysylltiad
  • Cychwyn parti gwylio ar Netflix i wylio ffilm gyda ffrindiau
  • Cymryd rhan mewn cwis YouTube ar-lein trwy FB Messenger/Zoom. Mae’r un trac sain ffilm yma’n edrych yn dda, ond mae yna lawer mwy ar gael
  • Mae gan Uno gêm ar-lein am ddim gallet ti chwarae gyda ffrindiau

Mae llawer o bethau gallech chi ei wneud i dreulio amser â’ch gilydd, hyd yn oed os nad ydych chi yn yr un lle â’ch gilydd. Dim ond i chi feddwl y tu allan i’r bocs.

Cofia, nid yw’n bosib i ti wneud penderfyniadau ar ran dy ffrindiau. Dim ond gwneud y penderfyniad cywir i ti a’r bobl ti’n ei garu gallet ti. Ond, gallet ti roi tro ar geisio dylanwadu dy ffrindiau. Efallai rhanna’r Coda’r Meic yma gyda nhw ac arwain ar geisio cynllunio pethau hwyl i pawb wneud gyda’i gilydd – o bellter.

Cym ofal

 Y Tîm Meic


Galwa Meic

Os wyt ti angen siarad gyda rhywun am unrhyw beth sydd yn dy boeni, yna galwa Meic i siarad gyda chynghorydd cyfeillgar.

Manylion Meic ar gyfer coda'r meic cyfarfod gyda ffrindiau

Mae Meic yn llinell gymorth, gwybodaeth ac eiriolaeth i blant a phobl ifanc 0 i 25 oed yng Nghymru. Rydym yn agored o 8am i hanner nos, 7 diwrnod yr wythnos. Mae posib cysylltu ar y ffôn (080880 23456), neges testun (84001) ac ar y we yn rhad ac am ddim.