x
Cuddio'r dudalen

Preifatrwydd

Cyffredinol

Darperir a rheolir y safle hwn gan Meic Cymru.

Mae’r datganiad hwn yn berthnasol i wefan Meic yn unig ar www.meiccymru.org

Mae Meic yn cydymffurfio’n llawn â Deddf Gwarchod Data 1998.

Gwybodaeth a all adnabod pobl yn bersonol

Bydd Meic yn casglu gwybodaeth bersonol pan fyddi’n ei rhoi i ni yn benodol ac yn bwrpasol. Enghreifftiau o wybodaeth bersonol yw:

a) dy enw

b) dy gyfeiriad

c) dy rif ffôn

d) dy gyfeiriad e-bost

Gwybodaeth na all adnabod pobl yn bersonol

Cesglir gwybodaeth gryno yn awtomatig gan ein system e.e nifer yr ymwelwyr i’r safle. Er mwyn gwneud hyn efallai y bydd angen i ni anfon cwcis i dy PC. Defnyddir yr wybodaeth hon i fonitro’r defnydd o’r wefan ac ni fydd yn cynnwys gwybodaeth a all dy adnabod di fel unigolyn

Gwefannau trydydd parti

Mae’r wefan hon yn cynnwys dolenni i wefannau eraill. Dylet nodi na all MEIC gael ei ddal yn gyfrifol am arferion preifatrwydd gwefannau eraill. Rydym yn annog pawb sy’n ymweld â’n gwefan i ddarllen a bod yn ymwybodol o ddatganiadau preifatrwydd pob gwefan arall sy’n casglu gwybodaeth sy’n gallu adnabod pobl yn bersonol.

Newidiadau i ddatganiad preifatrwydd

Gall Meic newid y datganiad preifatrwydd hwn unrhyw bryd. Rydyn ni’n dy gynghori di i ddarllen y datganiad hwn bob tro fel dy fod yn fodlon gyda’r amodau preifatrwydd wrth roi dy wybodaeth bersonol i Meic.

Cwcis

Ffeil testun fechan yw cwci ar borwr a disg galed y defnyddiwr sy’n adnabod porwr y defnyddiwr yn unigryw. Ceir dau fath o cwcis: cwcis parhaol a chwcis sesiwn. Mae cwcis sesiwn yn rhai dros dro ac yn cael eu dileu pan fo’r porwr yn mynd allan. Mae cwcis parhaol yn aros ar ddisg galed y defnyddiwr nes bydd y defnyddwyr yn eu dileu neu hyd nes eu bod yn dod i ben

Gweld y Polisi Cwcis llawn

Os wyt am rwystro cwcis gwefan Meic, cer i Help ar y porwr gwe

Mae’r wefan hon yn defnyddio Google Analytics, gwasanaeth dadansoddi’r we a ddarperir gan Google. Mae Google Analytics yn defnyddio “cwcis”, sy’n ffeiliau testun a roddir ar dy gyfrifiadur, i helpu’r wefan i ddadansoddi sut mae defnyddwyr yn defnyddio’r safle. Bydd yr wybodaeth a gynhyrchir gan y cwci am dy ddefnydd o’r wefan (gan gynnwys dy gyfeiriad IP) yn cael ei throsglwyddo a’i storio gan Google ar serfwyr. Bydd Google yn defnyddio’r wybodaeth hon er mwyn gwerthuso dy ddefnydd o’r wefan, llunio adroddiadau am weithgaredd y wefan i weithredwyr y wefan a darparu gwasanaethau eraill yn ymwneud â gweithgaredd y wefan a defnydd y rhyngrwyd.

Gall Google hefyd drosglwyddo’r wybodaeth hon i drydydd partïon lle mae’n ofynnol gwneud hynny yn ôl y gyfraith, neu lle mae trydydd partïon o’r fath yn prosesu’r wybodaeth ar ran Google. Ni fydd Google yn cysylltu dy gyfeiriad IP gydag unrhyw ddata arall a gedwir gan Google. Gallwch wrthod defnyddio cwcis drwy ddewis y setiadau priodol ar y porwr, ond cofia os gwnei di hyn efallai na fyddi’n gallu defnyddio’r wefan hon yn llawn. Drwy ddefnyddio’r wefan hon, rwyt yn rhoi caniatâd i Google brosesu data amdanat ti yn y dull ac i’r dibenion a gyflwynwyd uchod.