x
Cuddio'r dudalen

Coda’r Meic – Fy Iselder a Phryder yn Faich ar Bobl Eraill

Mae Seren wedi derbyn cefnogaeth gan y bobl o’i chwmpas i ymdopi gyda’i iselder a phryder, ond mae’n teimlo bod pobl wedi cael digon o’i phroblemau ac mae’n chwilio am gyngor gan rywun gwahanol. Cysylltodd am help yn Coda’r Meic yr wythnos hon.


Coda’r Meic ydy dy gyfle di i ofyn cyngor am unrhyw beth sy’n dy boeni. Rydym yma i wrando a chynnig cyngor. Mae manylion #codarmeic ar y dudalen hon, ond cofia nad yw’r cyngor yn dod yn syth. Os wyt ti angen cyngor sydyn yna cysyllta â’r llinell gymorth.

(This article is also available in English  – To read this content in English click here)


Helo Meic

Rwy’n 15 oed ac wedi bod yn brwydro iselder a phryder ers tro bellach. Mae’r pryder yn gwaethygu gydag arholiadau yn agosáu a phwysau cyffredinol ychwanegol yn yr ysgol yn cynyddu. Dwi wedi derbyn cefnogaeth drwy’r ysgol, ac mae’r athrawon wedi bod yn anhygoel, ond dwi’n teimlo bod angen mwy o gyngor arnaf. Dwi ddim yn siŵr pwy ddylwn i ofyn am help, dwi’n eithaf sicr bod pawb wedi hen flino arnaf i a’m mhroblemau bellach. Mae’n teimlo fel bod bywyd yn chwalu’n ddarnau!

Seren (*enw wedi’i newid i amddiffyn y person)

Cyngor Meic

Helo Seren,

Diolch i ti am gysylltu â Meic am gyngor i ymdopi gydag iselder, pryder a phwysau arholiadau. Rydym yn falch iawn dy fod di’n teimlo’r gallu i ymestyn allan i Meic am gymorth. Rydym wrth dy ochr i gynnig cefnogaeth, dy arwain trwy’r opsiynau ac i roi grym i ti i ddarganfod datrysiadau.

Deall achos yr iselder a’r pryder

Rwyt ti wedi sôn dy fod di wedi bod yn profi iselder a phryder ers sbel bellach, ac wedi sylwi bod pwysau arholiadau yn achosi’r pryder i gynyddu. Mae Pryder ac iselder yn gallu gwneud i rywun deimlo’n ofnadwy, ac yn sicr nid ti yw’r unig un fydd yn teimlo mwy o bryder yn y cyfnod cyn yr arholiadau. Mae deall y rhesymau dros y cynnydd mewn pryder yn rhan o’r frwydr. Os wyt ti’n gallu adnabod yr achos, gall fod yn haws i ymateb iddo.

Ymdopi gydag arholiadau

Efallai byddai’n help i ti ddarllen trwy rhai o’n herthyglau cynt ar straen a phryder yn ystod cyfnod arholiadau. Maent yn cynnwys cyngor ar sut i gynllunio dy amser er mwyn gallu astudio, bwyta, cysgu ac ymarfer hunanofal yn effeithiol. Bydd cynllunio digon o amser i wneud y pethau hyn yn helpu ti i deimlo bod gen ti reolaeth ac fe ddylai hyn leihau’r pryder rywfaint. Sicrha dy fod di’n cadw 8-10 awr bob nos yn yr amserlen i gysgu – mae ymchwil gwyddonol yn profi bod pobl ifanc angen y cwsg yma! Byddwn yn awgrymu cychwyn gyda’r erthygl hon sydd yn ymateb i’r holl faterion uchod.

Coda'r Meic iselder a phryder -Haul yn ymddangos y tu ôl i'r cymylau

Dysgu o brofiad eraill

Mae Which? yn cyhoeddi erthyglau defnyddiol iawn. Maent yn cynnal ymchwil ar bob math o bethau – o ble i brynu’r mins pei orau, i’r car fwyaf dibynadwy, i’r cyngor gorau i fyfyrwyr! Yn yr erthygl yma, maent wedi gofyn i fyfyrwyr rannu gwybodaeth am y pethau mwyaf defnyddiol wrth astudio. Ar ôl casglu popeth at ei gilydd, lluniodd Which? restr a rhannu hwn fel bod myfyrwyr yn gallu dysgu o brofiad myfyrwyr eraill. Mae’r erthygl uchod yn cynnwys cyngor ar sut i roi cynllun at ei gilydd i astudio (ac ymlacio!)

Pryder ac iselder – ymdopi yn y tymor hir

Bydd y cyfnod yma o boeni am arholiadau yn dod i ben – gellir gweld y llinell terfyn ac unwaith i ti groesi dylai’r teimladau godi. Mae’n hollol naturiol i deimlo straen am dy fod di eisiau llwyddo. Efallai gallet ti ddweud wrth dy rieni, ffrindiau  ac ysgol dy fod di angen eu cefnogaeth o hyd a gadael iddynt leddfu dipyn ar y pwysau. Mae’n debyg eu bod eisiau’r gorau i ti a byddant yn hapus i helpu.

Darllen i wella?

Tra bod arholiadau yn achosi’r pryder i waethygu, efallai gallet ti feddwl am drin yr iselder a’r pryder yn y tymor hir wrth siarad gyda’r doctor. Maent yn gallu rhoi presgripsiwn llyfrau sydd yn gadael i ti fenthyg llyfreu hunangymorth defnyddiol am reoli pryder ac iselder. Efallai byddant yn ymwybodol o grwpiau lleol sydd yn bodoli, neu efallai gallant roi meddyginiaethau i ti os mai dyma sydd ei angen arnat ti. Mae’n syniad i ti gael sgwrs i weld beth sydd yn agored i ti, a gallet ti sôn am rai o’r pethau nodwyd uchod.

Mae Childline yn gallu cynnig cefnogaeth emosiynol ar 0800 1111, neu mae posib gyrru neges testun gan ysgrifennu ‘YM’ i Linell Argyfwng Young Minds ar 85258. Mae’r ddau wasanaeth yma yn agored 24 awr y dydd. Efallai bod arholiadau yn ymddangos yn bwysig, ond mae llesiant meddyliol a chorfforol yn fwy pwysig! Mae posib ail-sefyll arholiadau, neu roi tro ar gwrs gwahanol os oes angen, ond dim ond un ohonot ti sydd yna, felly cymera ofal ohonot ti dy hun.

Os wyt ti’n teimlo straen neu bryder ar hyn o bryd, edrycha ar rai o’r gwefannau tawelu’r meddwl sydd wedi’u rhestru yn yr hen erthygl yma:

Gobeithiaf fod y cyngor yma wedi bod o fudd i ti. Cysyllta os wyt ti angen siarad mwy â rhywun.

Cymera ofal

Tîm Llinell Gymorth Meic


Galwa Meic

Os wyt ti angen siarad gyda rhywun am unrhyw beth sydd yn dy boeni, yna galwa Meic i siarad gyda chynghorydd cyfeillgar.

Mae Meic yn llinell gymorth, gwybodaeth ac eiriolaeth i blant a phobl ifanc 0 i 25 oed yng Nghymru. Rydym yn agored o 8am i hanner nos, 7 diwrnod yr wythnos. Mae posib cysylltu ar y ffôn (080880 23456), neges testun (84001) ac ar y we yn rhad ac am ddim.