x
Cuddio'r dudalen

Coda’r Meic: Sut Ydw i’n Gorffen Perthynas?

Yr wythnos hon mae gennym ymgyrch perthnasau arbennig ar Meic. Dyma un o sawl erthygl yn cael ei gyhoeddi ar y pwnc yr wythnos hon. I weld mwy edrycha ar yr adran erthyglau.

Mae person ifanc wedi codi’r Meic i ofyn cyngor am sut i orffen perthynas gyda’i gariad. Dyma ein cyngor ni.

Helo Meic,

Sut ydw i’n gallu gorffen gyda’m nghariad heb frifo ei theimladau?

Diolch

Cyngor Meic

Helo,

Mae gorffen perthynas yn beth anodd iawn ac mae’n gwbl ddealladwy nad wyt ti eisiau brifo teimladau dy gariad. Mae’n amlwg dy fod di’n berson meddylgar iawn a dy fod di eisiau gwahanu yn y ffordd leiaf poenus bosib.

Efallai dylet ti feddwl am bryd i ddweud wrthi a beth wyt ti’n mynd i ddweud. Weithiau mae pobl ifanc yn ei chael yn haws dweud wrth gariad mewn person ac ar amser sydd yn ddistaw ac yn breifat. Mae’r mwyafrif o bobl yn meddwl bod onestrwydd yn bwysig iawn.

Gwybodaeth bellach

Darllena ‘Dumping Your Boyfriend or Girlfriend’  ar BBC Advice am gyngor, neu os wyt ti wedi cael dy ddympio edrycha ar ‘Getting Over Your Ex’.

Mae gan The Mix lawer iawn o gefnogaeth a chyngor i rai dan 25 oed. Darllena ‘How to break up with someone’ yn yr adran Rhyw a Pherthnasau.

Mae gan Brook, y gwasanaeth iechyd rhyw a llesiant i rai dan 25, adran ar wahanu, gyda chyngor ar os dylid gorffen gyda rhywun, sut i orffen gyda nhw a sut i ddelio gyda gwahaniad.

Gobeithiwn fod hyn yn helpu.

Galwa Meic

Os wyt ti eisiau help neu gyngor am berthynas, neu os oes rhywbeth arall yn dy boeni, yna galwa Meic i siarad gyda chynghorydd cyfeillgar.

Mae Meic yn llinell gymorth, gwybodaeth ac eiriolaeth i blant a phobl ifanc 0 i 25 oed yng Nghymru. Rydym yn agored o 8am i hanner nos, 7 diwrnod yr wythnos. Mae posib cysylltu ar y ffôn (080880 23456), neges testun (84001) ac ar y we yn rhad ac am ddim.