x
Cuddio'r dudalen

Coda’r Meic: Perthynas Ddrwg Gyda Mam

Mae perthynas Efa gyda’i mam mor ddrwg fel ei bod yn meddwl am redeg i ffwrdd, ond mae wedi gofyn am gyngor Meic gyntaf. Dyma’n cyngor yn Coda’r Meic yr wythnos hon.


Coda’r Meic ydy dy gyfle di i ofyn cyngor am unrhyw beth sy’n dy boeni. Rydym yma i wrando a chynnig cyngor. Mae manylion #codarmeic ar y dudalen hon, ond cofia nad yw’r cyngor yn dod yn syth. Os wyt ti angen cyngor sydyn yna cysyllta â’r llinell gymorth.

This article is also available in English  – To read this content in English click here


Helo Meic,

Ers i fy rhieni wahanu mae mam wedi rhoi’r bai arnaf i am bopeth sydd yn mynd o’i le yn ei bywyd. Mae’r perthynas rhyngom yn mynd o waeth i waeth, a dwi ddim yn gwybod beth i wneud. Mae hi’n galw enwau arnaf ac yn gwneud i mi deimlo’n isel iawn. Dwi wedi ystyried rhedeg i ffwrdd a byw ar y strydoedd, gan y byddai hyn yn haws nag byw gyda mam. Yn aml byddaf yn gwaeddi ar y wal yn dychmygu mam yno, yn dweud y pethau rwy’n ofni dweud wrthi. Rydym yn ffraeo’n aml a dwi’n llwyddo tawelu fy hun wedyn, ond dwi’n ofni byddaf yn cerdded allan un diwrnod.

Efa (*enw wedi’i newid i amddiffyn y person)

Helo Efa,

Mae’n ddrwg gen i fod pethau yn ddrwg iawn i ti ar hyn o bryd. Mae’n ddigon anodd ymdopi gyda dy rieni yn gwahanu heb y straen ychwanegol o berthynas gwael rhyngot ti a dy fam.

Nid wyf yn esgusodi dy fam yn galw enwau arnat ti, neu’n rhoi’r bai arnat ti am bopeth sydd yn mynd o’i le yn ei bywyd, ond mae’n debyg bod diwedd ei pherthynas gyda dy dad wedi achosi straen ac ypsét mawr iddi. Efallai bod hyn yn egluro, ond nid yn esgusodi, ei hymddygiad. Efallai bod angen ychydig o gefnogaeth arni i’w helpu i oroesi’r cyfnod anodd yma.

Merch yn eistedd ar risiau yn poeni ar gyfer erthygl Perthynas Ddrwg Gyda Mam

Paid dianc, gweithia arno

Mae’n debyg dy fod di’n teimlo’n isel iawn i feddwl bod rhedeg i ffwrdd a byw ar y stryd yn well opsiwn nag byw gyda dy fam ar hyn o bryd. Yn amlwg, mae angen i bethau newid  i ti, ond nid rhedeg i ffwrdd yw’r ateb. Nid yw’n ddiogel byw ar y stryd. Byddai hyn yn ddrwg i dy iechyd corfforol a meddyliol.

Y peth gorau i’w wneud ydy gweithio tuag at wella’r perthynas gyda dy fam. Os nad wyt ti wedi rhoi tro ar hyn yn barod, fyddet ti’n gallu eistedd i lawr gyda dy fam pan fydd pethau yn ddistaw i ddweud yn union sut yr wyt ti’n teimlo? Os nad wyt ti’n credu gallet ti wneud hynny ar ben dy hun, beth am ofyn i rywun dy gefnogi i wneud hyn? Efallai gallet ti ofyn i fodryb, dy dad, nain neu daid neu ffrind teulu.

Yn edrych dros ben merch yn ysgrifennu mewn llyfr gyda phensil ar gyfer erthygl Perthynas Ddrwg Gyda Mam

Nodi teimladau ar bapur

Opsiwn arall i’w ystyried ydy ysgrifennu llythyr i dy fam yn egluro popeth rwyt ti eisiau dweud wrthi. Gall fod yn anodd iawn dod o hyd i’r geiriau cywir pan rwyt ti angen dweud rhywbeth anodd i rywun wyneb i wyneb. Yn aml gallem deimlo’n ddryslyd, yn ypsét ac yn flin ac anghofio dweud rhai pethau, neu ddim yn cael y cyfle i ddweud. Weithiau efallai byddet ti’n dweud pethau rwyt ti’n ei ddifaru wedyn. Mae ysgrifennu popeth mewn llythyr yn golygu bod posib ysgrifennu cymaint o ddrafftiau ag yr hoffet. Pan fyddi di’n rhoi’r llythyr iddi, bydd yn nodi’n union yr hyn rwyt ti angen, yn y ffordd rwyt ti eisiau iddo swnio. Gallet ti ofyn i rywun am help gyda hyn hefyd os hoffet.

Mae’n bwysig sylweddoli nad wyt ti ar ben dy hun yn hyn. Mae perthynas gyda rhieni yn rhywbeth mae sawl un yn cael trafferthion ag ef, am sawl rheswm. Nid yw hyn yn golygu nad ydych chi’n caru eich gilydd. Os wyt ti a dy fam yn gweithio ar eich perthynas yna mae’n debyg bydd pethau yn gwella i chi.

Darlun o gysyniad cyfryngau cymdeithasol ar gyfer erthygl Perthynas Ddrwg Gyda Mam

Gwybodaeth a chymorth pellach

Dyma ychydig o erthyglau/tudalennau gallai fod yn ddefnyddiol:

Gobeithio bydd y cyngor uchod yn helpu, ond os wyt ti angen siarad neu dderbyn cyngor pellach yna mae ein cynghorwyr yn hapus i helpu. Cysyllta drwy alw, tecstio neu DM’io y llinell gymorth (manylion cyswllt isod). Rydym yn agored bob dydd o 8yb i hanner nos.

Cymera ofal

Y Tîm Meic