x
Cuddio'r dudalen

Methu Cadw’n Iach Wrth Aros Adref

Mae Ali yn teimlo nad oes dim i’w hysgogi i gadw’n iach yn ystod cyfyngiadau Covid-19 ac mae hyn yn cael effaith negyddol ar ei diet, cadw’n heini a’i chwsg. Gofynnodd am gyngor Meic am sut i newid pethau.


Coda’r Meic ydy dy gyfle di i ofyn cyngor am unrhyw beth sy’n dy boeni. Rydym yma i wrando a chynnig cyngor. Mae manylion #codarmeic ar y dudalen hon, ond cofia nad yw’r cyngor yn dod yn syth. Os wyt ti angen cyngor sydyn yna cysyllta â’r llinell gymorth.

(This article is also available in English  – To read this content in English  click here)

Mae gennym sawl erthygl gyda gwybodaeth a chyngor am Covid-19 – edrycha arnynt yma.


Helo Meic,

Dwi’n teimlo mor afiach yn y cyfnod cyfyngiadau yma. Mae fy mhwysau’n codi wrth i mi fwyta cymaint o sothach, dwi ddim yn cysgu’n iawn a dim amynedd o gwbl i gadw’n heini. Yr unig beth gallaf wneud ydy mynd am dro neu redeg. Dwi ‘di diflasu’n lân!!! Sut gallaf i gadw’n iach?

Ali (*enw wedi’i newid i amddiffyn y person)

Cyngor Meic

Mae’n ymddangos fel dy fod di’n profi’r un emosiynau a llawer iawn o bobl eraill sydd yn byw yn y cyfyngiadau presennol. Mae bwyta mwy a diffyg ysgogiad i gadw’n heini, ynghyd a’r diflastod a diffyg cwsg, yn broblem gyffredin iawn. Mae realiti’r hyn rydym yn ei wynebu a’r ansicrwydd yn golygu bod pobl yn gorfod darganfod ffyrdd newydd o ymdopi er mwyn dod drwyddi. Rhaid i ti geisio cadw’n bositif, a gosod targedau realistig.

Erthygl cadw'n iach - Dyn gyda cheg agored llawn creision gyda chefndir gwyn

Anogaeth i symud

Mae’n amlwg dy fod di’n deall bod bwyta diet iach, cytbwys, cysgu yn rheolaidd a chadw’n heini yn dda i ti. Dyma’r pethau fydd yn helpu ti i oroesi’r cyfnod yma, ond mae magu’r amynedd i wneud hyn yn anodd i ti ar hyn o bryd.

Rho dro ar amrywiaeth o weithgareddau. Mae yna sawl gweithgaredd gwahanol gallet ti roi tro arnynt nes y byddi di’n darganfod un rwyt ti’n ei fwynhau.  Er ein bod mewn cyfnod o gyfyngiadau, mae yna sawl peth gallet ti roi tro arno o hyd. Cer draw i’n herthygl sydd yn edrych ar 4 ffordd i symud y corff yn y tŷ yn ystod y cyfyngiadau.

Bellach, rwyt ti’n cael mynd allan fwy nag unwaith y dydd i gadw’n heini, felly manteisia ar hyn. Gall mynd allan ar y beic, i gerdded neu i redeg fod yn hwyl, a gall yr awyr iach helpu hefyd. Efallai bod yna bobl eraill yn dy gartref sydd hefyd yn awyddus i gadw’n heini ac yn hapus i ymuno gyda thi. Amrywia’r llwybr weithiau fel bod y daith ddim yn mynd yn ddiflas, ond cadwa i lefydd a llwybrau cyfarwydd. Sicrha dy fod di o fewn pellter rhesymol o’r cartref.

Erthygl cadw'n iach - Ci gyda mwgwd cysgu

Datrysiadau cwsg

Rwy’n gwerthfawrogi bod cael digon o gwsg yn anodd i ti ar hyn o bryd. Yn ddelfrydol dylai pawb gael tua 7 i 8 awr o gwsg bob nos. Bydd ymarfer y corff yn rheolaidd a diet iach a chytbwys yn helpu, ynghyd â syniadau hunangymorth eraill. Gall y rhain amrywio o gael trefn ddyddiol, sesiynau myfyrdod rheolaidd, neu roi tro ar rywbeth newydd. Mae Meic wedi cyhoeddi erthygl arall am Gadw Rheolaeth ar Iechyd Meddwl yn ystod y cyfnod heriol yma. Rydym yn edrych ar rai o’r syniadau hunangymorth defnyddiol yma fydd hefyd yn gallu helpu gyda chwsg.

Gobeithio bod y syniadau uchod yn dy helpu i wneud newidiadau, ac yn rhoi syniadau i ti am sut i ddychwelyd i ffordd iachach o fyw. Cofia, dim ond cyfnod arall yn dy fywyd yw hwn, a bydd pethau yn dod yn haws yn araf bach. Mewn amser, bydd cyfyngiadau’r cyfnod yma yn lleihau, a bydd yn dod yn haws i fyw dy fywyd fel yr wyt ti eisiau.

Cofion gorau a cym ofal

Y Tîm Meic


Galwa Meic

Os wyt ti angen siarad gyda rhywun am unrhyw beth sydd yn dy boeni, yna galwa Meic i siarad gyda chynghorydd cyfeillgar.

Manylion Meic ar gyfer coda'r meic cyfarfod gyda ffrindiau

Mae Meic yn llinell gymorth, gwybodaeth ac eiriolaeth i blant a phobl ifanc 0 i 25 oed yng Nghymru. Rydym yn agored o 8am i hanner nos, 7 diwrnod yr wythnos. Mae posib cysylltu ar y ffôn (080880 23456), neges testun (84001) ac ar y we yn rhad ac am ddim.