x
Cuddio'r dudalen

Coda’r Meic: Anodd Gwneud Ffrindiau

Mae Sian yn cael trafferth yn creu perthnasau newydd a gwneud ffrindiau yn y coleg. Teimlai fel bod hyn yn cael effaith ar ei iechyd meddwl ac mae wedi cysylltu â Meic am help.


Coda’r Meic ydy dy gyfle di i ofyn cyngor am unrhyw beth sy’n dy boeni. Rydym yma i wrando a chynnig cyngor. Mae manylion #codarmeic ar y dudalen hon, ond cofia nad yw’r cyngor yn dod yn syth. Os wyt ti angen cyngor sydyn yna cysyllta â’r llinell gymorth.

This article is also available in English  – To read this content in English click here


Helo Meic,

Mae’n anodd iawn gwneud ffrindiau. Rwy’n berson swil yn gyffredinol, ond bob tro’n gwrtais ac yn neis i bobl, byth eisiau cychwyn ffrae. Dwi wedi dioddef gyda bwlio yn yr ysgol uwchradd yn y gorffennol. Mae pobl wedi bod yn sibrwd pethau y tu ôl i’m nghefn, dwi wedi cael fy mwlio ar-lein, pobl yn cymryd fy mhethau ac wedi taflu siswrn arna i unwaith. Oherwydd hyn dwi’n paranoid iawn yn mynd i ddosbarthiadau os nad oes gen i rywun dwi’n gyfeillgar â nhw yno.

Yn y coleg, roedd gen i rywun ac roedd popeth yn iawn, ond mae hi wedi symud ymlaen a dwi ar ben fy hun yn y dosbarth bellach. Mae pawb arall yn ffrindiau ac yn siarad ymysg ei gilydd ac, yn isymwybodol, rwy’n teimlo bod pawb yn siarad amdana i er mod i’n gwybod nad ydyn nhw. Mae wir wedi cael effaith ar fy iechyd meddwl a dwi wedi bod yn stryglo ers hir iawn, ond yn rhy ofnus i ofyn am help.

Sian  (*enw wedi ei newid i amddiffyn preifatrwydd)

Cyngor Meic

Helo Sian,

Diolch am gysylltu gyda Meic. Mae’n dda dy fod di’n chwilio am help, da iawn ti am hynny.

Mae dy swildod yn ei gwneud yn anodd i ti greu perthnasau a gwneud ffrindiau, ac rwyt ti wedi dioddef gyda bwlio yn y gorffennol. Mae’n debyg bod hyn wedi bod yn anodd iawn i ti. Mae hyn i gyd wedi achosi i ti deimlo paranoia am fynychu dosbarthiadau os nad oes gen ti ffrind yno.

Rwyt ti’n teimlo bod popeth sydd wedi digwydd yn y gorffennol, a’r sefyllfa rwyt ti ynddi nawr, wedi cael effaith ar dy iechyd meddwl. Rwyt ti’n cyfaddef dy fod di’n stryglo ond yn ofni gofyn am help.

Merch unig yn eistedd yn drist gyda chwmwl glaw dros ei phen ar gyfer erthygl Anodd Gwneud Ffrindiau

Dod o hyd i gefnogaeth

Mae hyn i gyd yn swnio fel dy fod di’n cael amser anodd iawn, ond fel y dywedais, mae’n dda iawn dy fod di’n chwilio am help. Meddylia am y bobl o’th gwmpas sydd yn gallu cynnig cyngor. Wyt ti’n gallu sgwrsio gyda theulu, neu berson arall rwyt ti’n gyfforddus â nhw, fel modryb agos neu rywun? Wyt ti’n meddwl bydda dy deulu yn poeni os oeddent yn meddwl dy fod di’n stryglo a ddim wedi sgwrsio â nhw am y peth?

Beth am geisio siarad gyda rhywun yn y coleg? Fe ddylai pob coleg gael person llesiant sydd ar gael i sgwrsio a chynnig cefnogaeth. Gofynna pwy yw’r person yma yn y dderbynfa neu gan diwtor. Nid oes rhaid i ti boeni. Maent wedi siarad gyda llawer o bobl ifanc, gyda llawer o broblemau gwahanol sydd yn eu poeni. Nid ti fydd y cyntaf, na’r unig berson yn y coleg sydd yn cael trafferth. Ti ddim ar ben dy hun yn y ffordd rwyt ti’n teimlo.

Merch yn ysgrifennu ar bapur ar gyfer erthygl Anodd Gwneud Ffrindiau

Gwneud dim, newid dim

Rwyt ti wedi dweud dy fod di’n ofni gofyn am help, ac mae hyn yn hollol ddealladwy. Gall fod yn anodd iawn i gyfaddef i rywun arall bod pethau’n anodd. Ond os byddet ti’n gwneud dim, yna beth fydda’n digwydd? Mae’n debyg y byddi di’n teimlo’r union yr un fath, a ni fydd dim newid os nad wyt ti’n gwneud rhywbeth. Os fydda ti’n mynd amdani a cheisio siarad gyda rhywun, yna mae’n debygol y bydd pethau yn newid am y gorau i ti.

Os wyt ti’n poeni am beth i’w ddeud yna gall fod yn fuddiol i ysgrifennu pethau gyntaf. Bydd hyn yn rhoi amser i ti feddwl am y pethau sydd yn anodd i ti, a bydd rhoi pethau ar bapur yn helpu i glirio’r meddwl. Pan ddaw’r amser i siarad gyda rhywun, gallet ti ddefnyddio hwn wedyn i helpu ac i’th atgoffa am y pethau rwyt ti eisiau dweud. Gallet ti fynd a hwn gyda thi er mwyn cyfeirio’n ôl ato, neu adael i’r person rwyt ti’n cyfarfod ei ddarllen a chael sgwrs amdano wedyn.

Yn ddibynnol ar y ffordd rwyt ti’n meddwl am bethau, gallet ti hefyd ystyried mynd i weld dy feddyg teulu.

Nid oes brys. Cymera amser i feddwl am yr hyn rwyt ti’n awyddus i wneud. Meddwl am y pethau rwyt ti eisiau dweud a phenderfynu ar y camau nesaf.

Bachgen yn eistedd ar sach gyda gliniadur ar ei bengliniau ar gyfer erthygl Anodd gwneud ffrindiau

Gwefannau buddiol

Cer draw i dudalen ‘Believe in Yourself’ ar wefan Young Minds. Mae yna gynllun saith cam i helpu gyda hunan-barch a allai helpu gyda swildod.

Os wyt ti’n chwilio am gyngor ar wneud ffrindiau newydd yna mae Childline yn cynnig cyngor gall helpu ar y dudalen ‘Making Friends’. Efallai bydd syniadau yma i ti roi tro arnynt.

Mae BullyingUK yn edrych ar sut mae bwlio yn gallu cael effaith ar dy iechyd meddwl. Mae ganddynt gyngor am ble i fynd i gael cefnogaeth a sut i ofalu amdanat ti dy hun.

Gall llinell gymorth Meic siarad drwy’r holl bryderon gyda thi a dy helpu i benderfynu ar y camau nesaf. Mae posib ffonio, gyrru neges testun neu sgwrsio ar-lein rhwng 8yb a hanner nos bob dydd. Mae gennym erthyglau a allai fod o fudd ar ein gwefan hefyd:

Cymera ofal

Y Tîm Meic

Manylion cyswllt Meic