x
Cuddio'r dudalen

Coda’r Meic – Ymdopi Gyda Bwlio Homoffobig

Beth ddylet ti ei wneud os wyt ti’n cael dy fwlio a neb yn barod i helpu? Cysylltodd Fiona â Coda’r Meic am ei bod yn cael ei bwlio oherwydd ei rhywioldeb. Dyma’n cyngor.

Mae’r erthygl hon yn rhan o Ymgyrch Mis Hanes LHDTC+ Meic – clicia yma i weld mwy.

(This article is also available in English  – To read this content in English – click here)

Coda’r Meic ydy dy gyfle di i ofyn cyngor am unrhyw beth sy’n dy boeni. Rydym yma i wrando a chynnig cyngor. Mae manylion #codarmeic ar y dudalen hon, ond cofia nad yw’r cyngor yn dod yn syth. Os wyt ti angen cyngor sydyn yna cysyllta â’r llinell gymorth.

Helo Meic

Dwi wedi bod yn dioddef bwlio homoffobig yn y coleg ers ail wythnos mis Medi. Dwi wedi dweud wrth dri aelod o staff uwch. Dywedodd un mai fi oedd ar fai am fod yn hoyw. Roedd un wedi fy stopio rhag siarad yn syth, gan sôn am fy ymateb pam gefais fy ngwthio ar y bws a chael fy ngalw’n ‘effin ffa***t’. Dywedodd un arall nad oedd ganddi amser ac i beidio dychwelyd nes oedd gen i rywbeth iddi ddelio ag ef! Dwi wedi bod at bennaeth y coleg hefyd. Galwodd y 6 bwli i’w swyddfa a gofyn iddynt i beidio cyfathrebu â mi eto. Ni ddwedodd dim am y bwlio homoffobig.

Dwi’n cael fy nharo, cicio neu faglu yn ddyddiol. Dwi’n cael fy ngalw yn ‘fa***t’ ac yn ‘dyke’. Nid oes neb yn y coleg yn barod i ddelio â’r peth a dwi ddim yn gwybod beth arall i wneud. Mae mwy o bobl wedi dechrau arnaf, a hyd at 12 yn fy mwlio nawr

Fiona (*enw wedi’i newid i’w hamddiffyn)

Cyngor Meic

Helo Fiona,

Diolch am gysylltu gyda ni yma yn Meic. Mae’n ddrwg iawn gennym glywed dy fod di’n profi bwlio homoffobig yn y coleg. Gallem ddeall dy fod di’n siŵr o fod yn teimlo’n flin ac wedi cael llond bola, ac mae’n siomedig clywed nad yw’n ymddangos fel bod staff y coleg wedi dangos cefnogaeth nac wedi cymryd camau priodol i gyfeirio a delio gyda’r ymddygiad bwlio ymosodol a phoenus yma.

Wyt ti wedi siarad â rhywun arall fydda’n gallu helpu, rhywun gallet ti ymddiried ynddynt… fel rhieni neu ofalwr efallai? Mae’n debygol y byddent yn poeni ac yn awyddus i roi cefnogaeth i ti i ddelio gyda hyn.

Mae gen ti hawliau

O’r hyn rwyt ti wedi’i ddweud, mae’n ymddangos fel dy fod di’n mynd drwy gyfnod anodd iawn. Ni ddylet ti orfod ymdopi gyda chamdriniaeth fel hyn, nac teimlo’n anniogel yn unrhyw le, yn enwedig yn dy fywyd dyddiol yn y coleg – mae hyn yn annerbyniol.

Mae gen ti’r hawl i fod yn ti dy hun, heb ofni cael dy wahaniaethu neu dy niweidio. Fe basiwyd y Ddeddf Cydraddoldeb yn 2010 i amddiffyn grwpiau sydd yn dioddef o wahaniaethu mewn cymdeithas. Mae’r Ddeddf yn adnabod 9 o Nodweddion Gwarchodedig (grwpiau o bobl sydd yn cael amddiffyniad cyfreithiol rhag gwahaniaethu). Mae’r Nodweddion Gwarchodedig yma yn cynnwys tueddfryd rhywiol.

Golygai hyn ei bod yn anghyfreithlon i wahaniaethu yn ôl rhywioldeb y person. Clicia yma am wybodaeth bellach ar y Nodweddion Gwarchodedig yn y Ddeddf Cydraddoldeb 2010.

Gwaeddi i mewn i dun metel - cael dy glywed i ddatrys bwlio homoffobig

Beth fedri di ei wneud nesaf

Fel sonnir uchod, mae gen ti hawl i fyw heb ofni bwlio homoffobig. Rwyt ti wedi sôn am adrodd hyn at 3 tiwtor a’r Pennaeth, a bod dim sylweddol wedi digwydd a bod yn bwlio yn parhau.

Dyma esiamplau o bethau gallet ti ei wneud:

  • Cysylltu â Llinell Gymorth LHDT+ Cymru ar 0800 917 9996. Mae’r gwasanaeth yma yn cynnig cwnsela a chefnogaeth i bobl lesbiaid, hoyw, deurywiol, traws, rhyngryw, cynghreiriad a theuluoedd yng Nghymru.
  • Cysylltu â Chomisiynydd Plant Cymru am gyngor a help.
  • Adrodd yr ymosodiad corfforol i’r Heddlu – gellir gwneud hyn ar y ffôn ar 101.

Os wyt ti’n teimlo fel nad yw dy rieni yn gallu helpu gyda’r uchod, neu os fydda’n well gen ti siarad gyda rhywun annibynnol, yna gall Meic eirioli ar dy ran. Eiriolaeth ydy pan fydd rhywun yn cysylltu gyda gweithiwr proffesiynol neu sefydliad ar dy ran a dweud wrthynt sut rwyt ti’n teimlo, yr hyn rwyt ti’n awyddus i ddigwydd, ac i gael yr help sydd ei angen arnat ti. Gallet ti feddwl am hyn fel rhywun yn bod yn llais i ti, fel dy fod di’n cael dy glywed. Gall Meic dy helpu di i ddarganfod mwy am broses cwyno’r coleg hefyd.

Cymorth pellach

Mae bwlio o unrhyw fath yn gallu gwneud i rywun deimlo’n unig ac yn ofnus. Mae’n debyg bydd y teimladau yma yn cael effaith ar dy dymer a gallai arwain at gyfnod o iechyd meddwl gwael. Os byddai siarad am y profiadau yma yn helpu, beth am ofyn i’r coleg drefnu cefnogaeth a chwnsela i ti? Gall Meic helpu gyda hyn os nad oes gen ti’r hyder i ofyn dy hun.

Gobeithiwn fod y wybodaeth yma wedi helpu, a bod y bwlio yn dod i ben cyn hir fel dy fod di’n gallu parhau gyda dy fywyd colegol mewn amgylchedd llawer fwy positif.

Cymera ofal

Tîm Llinell Gymorth Meic

Galwa Meic

Os wyt ti angen siarad gyda rhywun am unrhyw beth sydd yn dy boeni, yna galwa Meic i siarad gyda chynghorydd cyfeillgar.

Mae Meic yn llinell gymorth, gwybodaeth ac eiriolaeth i blant a phobl ifanc 0 i 25 oed yng Nghymru. Rydym yn agored o 8am i hanner nos, 7 diwrnod yr wythnos. Mae posib cysylltu ar y ffôn (080880 23456), neges testun (84001) ac ar y we yn rhad ac am ddim.