x
Cuddio'r dudalen

Coda’r Meic – Teimlo’n Isel Oherwydd Covid

Bachgen trist mewn mwgwd ar gyfer erthygl Teimlo'n isel oherwydd covid

Bydd llawer ohonoch yn teimlo pob math o bryderon yn ystod y pandemig Covid, a bydd rhai ohonoch yn ei chael yn anoddach i ymdopi nag eraill – ac mae hyn yn berffaith iawn! Gofynnodd Grace* am ein Cyngor yn Coda’r Meic.


Coda’r Meic ydy dy gyfle di i ofyn cyngor am unrhyw beth sy’n dy boeni. Rydym yma i wrando a chynnig cyngor. Mae manylion #codarmeic ar y dudalen hon, ond cofia nad yw’r cyngor yn dod yn syth. Os wyt ti angen cyngor sydyn yna cysyllta â’r llinell gymorth.

This article is also available in English  – To read this content in English click here


Helo Meic,

Rwyf wedi bod yn teimlo’n isel iawn yn ddiweddar. Dwi ddim yn gwybod os mai COVID yw hyn neu’r straen o arholiadau yn cael eu canslo eto.

Grace (*enw wedi ei newid i amddiffyn preifatrwydd)

Cyngor Meic

Helo Grace,

Mae’n ddrwg iawn gen i glywed dy fod di wedi bod yn teimlo’n isel iawn yn ddiweddar. Mae’r pandemig COVID wedi cael effaith ar ein bywydau mewn sawl ffordd wahanol gyda’r holl newidiadau  a’r ansicrwydd. Nid yw’n anarferol i hyn gael effaith ar dy iechyd meddwl hefyd.

Mae’n ddrwg gen i glywed am dy arholiadau, mae’n debyg bod hynny’n rhwystredigaeth ychwanegol i ti yn y cyfnod yma. Nid yw’n ddymunol profi teimladau o dymer isel, ond nid wyt ti dy hun yn hyn ac mae llawer o bethau gallet ti ei wneud i dy helpu i ymdopi trwy ddyddiau od y cyfnod clo.

Merch mewn mwgwd Covid yn hapus ac yn gwenud siâp calon gyda'i dwylo.

Rheoli dy iechyd meddwl yn ystod Covid

Lle da i gychwyn bydda’r erthygl yma ar ein gwefan am gadw rheolaeth o dy iechyd meddwl yn ystod Covid gan fod nifer o awgrymiadau yma am sut i reoli dy dymer a dy iechyd meddwl yn gyffredinol yn ystod y pandemig.

Fe allet ti roi tro ar reoli a lleihau dy bryderon a straen gyda app. Cer i edrych drwy’r rhestr yma o apiau wedi’u cymeradwyo gan y GIG sydd yn edrych ar bob math o faterion iechyd meddwl.

Gall fod yn fuddiol hefyd i siarad gyda rhywun rwyt ti’n ymddiried ynddynt am y ffordd rwyt ti’n teimlo. Weithiau mae’n gallu helpu i leihau’r poeni a’r straen rwyt ti’n ei gario ar ben dy hun ac yn gallu helpu i wneud synnwyr o bethau hefyd.

Os nad wyt ti’n sicr pwy i siarad â nhw, neu ddim yn teimlo’n gyfforddus i siarad gyda rhywun wyneb i wyneb ar hyn o bryd, neu yn ansicr o unrhyw beth rwyf wedi sôn amdano uchod, yna cysyllta â’r llinell gymorth Meic trwy Neges Ar-lein, Neges Testun neu Radffôn. Rydym yma bob dydd rhwng 8yb a hanner nos ac yn hapus i helpu ymhellach os wyt ti angen.

Cymera ofal

Y Tîm Meic

Erthygl Covid - Manylion cyswllt Meic