x
Cuddio'r dudalen
instagram icon

Coda’r Meic: Teimlo Fel Bachgen a Merch

Mae Morgan yn ystyried eu hunaniaeth rhyw, ac yn meddwl sut fydd pobl eraill yn ymateb iddo. Cysylltodd â Coda’r Meic am gyngor.

Coda’r Meic ydy dy gyfle di i ofyn cyngor am unrhyw beth sy’n dy boeni. Rydym yma i wrando a chynnig cyngor. Mae manylion #codarmeic ar y dudalen hon, ond cofia nad yw’r cyngor yn dod yn syth. Os wyt ti angen cyngor sydyn yna cysyllta â’r llinell gymorth.

Helo Meic

Dwi wedi teimlo’n wahanol ers i mi fod yn 7 oed, eisiau bod yn fachgen ac yn eneth. Wrth droi’n 12 sylweddolais fod pobl yn eithaf cefnogol, ond dwi dal yn poeni na fydd pobl yn deall fy mhenderfyniad. Oes gen ti unrhyw gyngor?

Morgan*

Cyngor Meic

Haia Morgan, diolch am gysylltu!

Pan fyddem yn cael ein geni, mae pobl yn gorfod cofnodi os ydym yn fachgen, yn ferch, neu’n rhyngrywiol. Fel arfer mae hyn yn cael ei benderfynu’n seiliedig ar ein horganau rhywiol. I rai, mae eu hunaniaeth rhywedd yn cyd-fynd â’u rhyw, ond i eraill, gall eu hunaniaeth rhyw fod yn wahanol.

symbolau rhywedd y ddau ryw wedi clymu yn eu gilydd  pinc i ferch glas i fachgen

Rhywedd

Gall hunaniaeth rhywedd fod yn beth cymhleth a phersonol iawn.

Mae’n swnio fel nad wyt ti’n teimlo’n gyfforddus yn cael dy osod mewn bocs sy’n dweud ‘merch’ neu ‘bachgen’ gan dy fod di’n teimlo cysylltiad i’r ddau. Mae rhai pobl sydd yn profi’r fath yma o hunaniaeth ddeuol yn ystyried eu hunain yn ‘ddeurywedd’.

Defnyddir llawer o hunaniaethau rhywedd a labeli  i helpu pobl i ddeall eu syniadau, teimladau, a phrofiadau, ac i ddarganfod pobl eraill sydd mewn sefyllfa debyg. Gall hunaniaethau rhywedd eraill gynnwys anneuaidd, rhywedd cyfnewidiol a dirywedd.

Graphic of teenager thinking ar gyfer blog teimlo fel bachgen a merch

Mae’n normal i ti archwilio dy hunaniaeth rhywedd

Nid yw’n anarferol i blant a phobl ifanc deimlo fel nad ydynt eisiau bod yn unrhyw ryw, neu’r rhyw arall, ar unrhyw adeg yn eu bywydau. Gall fod sawl rheswm am hyn; ac efallai bod rhai o’r rhain yn berthnasol i ti, neu efallai ddim:

  • Hoffi teganau, dillad, neu gemau sydd fel arfer yn cael eu cysylltu gyda’r rhyw arall neu’r ddau ryw
  • Meddwl bod y rhyw arall yn cael bywyd brafiach neu’n cael mwy o hwyl
  • Eisiau gwisgo dillad neu ymddwyn mewn ffordd sydd yn stereotypical i’r rhyw arall
  • Gwrthod pethau stereotypical sy’n gysylltiedig â dy ryw a theimlo mwy o gysylltiad i stereoteip rhywedd y rhyw arall
  • Efallai bod gan rai plant a phobl ifanc sy’n hoyw homoffobia mewnol – sef eu bod wedi sylweddoli ar agweddau negyddol tuag at bobl hoyw, sydd yn gwneud iddynt deimlo cywilydd. Gall meddwl am eu hunain fel y rhyw arall helpu iddynt deimlo fel nad ydynt yn hoyw
  • Mae rhai plant a phobl ifanc yn teimlo’n anghyfforddus gyda’u rhyw yn emosiynol ac yn gorfforol ac yn teimlo’n anghyfforddus gyda’u cyrff, yn enwedig eu horganau rhywiol a’u bronnau – gelwir hyn yn ddysmorffia rhywedd. Mae rhai yn profi hyn yn ifanc iawn ac yn parhau i fod eisiau bod y rhyw arall wrth iddynt dyfu i fyny – cyfeirir at hyn fel bod yn trawsryweddol fel arfer

Fel y gweli di uchod, mae rhywedd yn gallu golygu pethau gwahanol i bobl wahanol. Mae gallu archwilio pam a sut rwyt ti’n teimlo pethau penodol yn gallu helpu ti i ddeall pwy wyt ti.

Speech bubbles

Delio gyda sylwadau negyddol

Rwyt ti wedi sôn dy fod di’n dal i boeni na fydd pobl yn deall dy benderfyniad.

Os nad wyt ti wedi sgwrsio gyda rhywun am dy deimladau, ystyried siarad gydag aelod agos o’r teulu neu athro yn yr ysgol gallet ti ymddiried ynddynt. Gyda’u help, efallai gallet ti feddwl am bobl eraill hoffet ti ddweud wrthynt, a pryd rwyt ti eisiau dweud.

Mae’r tîm Meic yn hapus i siarad efo ti ryw dro, i helpu ti i feddwl beth fyddet ti’n hoffi  i ddigwydd nesaf neu beth i ddweud wrth y bobl yn dy fywyd. Gallet ti gysylltu ar y ffôn, neges WhatsApp, neges testun neu sgwrs ar-lein a gallem sgwrsio am dy bryderon.

Fel rwyt ti wedi sôn, mae pobl yn tueddu i fod yn fwy derbyniol a chefnogol o bobl sydd yn wahanol neu sy’n cyflwyno’n wahanol i’r hyn disgwylir iddynt fod. Mae hyn yn beth positif gan ei fod yn rhoi mwy o ryddid i bobl fynegi eu hunain fel unigolion.

Gwybodaeth bellach

Gobeithio bod yr ymateb yma wedi bod o fudd i ti. Os hoffet ti rannu mwy am dy hunaniaeth neu bethau sy’n dy boeni, gallem dy helpu di i archwilio pethau gall helpu ti i deimlo’n hyderus am rannu dy hunaniaeth â eraill.

Cysyllta â ni ar y llinell gymorth ar y manylion isod.

Cymera ofal

Y Tîm Meic