x
Cuddio'r dudalen

Coda’r Meic: Ddim Yn Hoffi Fy Nghwrs Prifysgol

Mae myfyriwr yn anhapus gyda’r cwrs mae wedi’i ddewis yn y brifysgol ac yn ansicr beth i wneud. Felly cododd y Meic a gofyn inni am help.

Rhywun i wrando, i’th gymryd o ddifrif ac i roi cyngor gyda Coda’r Meic.

__________

Annwyl Meic,

Dwi wedi cychwyn yn y brifysgol yn ddiweddar ond dwi ddim yn hoff iawn o’m nghwrs. Dwi’n teimlo fel bod hyn yn difetha fy mhrofiad yn y brifysgol gan nad wyf yn cael y gorau allan ohono a dwi’n teimlo fel fy mod i wedi gwneud y penderfyniad anghywir. Hefyd, dwi gwpl o wythnosau i mewn yn barod felly dwi ddim yn siŵr beth yw fy opsiynau, os oes gen i rai o gwbl!

Helpwch plîs

__________

Helo,

Mae’n hollol naturiol i boeni dy fod di wedi dewis y cwrs anghywir, neu os wyt ti’n penderfynu nad yw’r brifysgol yn gweddu ti.

Paid poeni

Nid oes angen i ti boeni, bydd y brifysgol wedi delio gyda materion tebyg sawl gwaith o’r blaen! Mae’r trosiad o’r ysgol i’r brifysgol yn gallu teimlo’n frawychus ac yn heriol ar adegau. Efallai dy fod di’n teimlo hiraeth am adref, neu fod y gwaith yn teimlo’n ormod, yn poeni am reoli arian a gwneud ffrindiau newydd. Rwyt ti wedi treulio llawer iawn o amser, egni ac arian yn penderfynu ar y brifysgol ac mae’n bwysig i ti wynebu’r pethau sydd yn dy boeni a gwneud y penderfyniad cywir i ti.

Dyfynnod erthygl Ddim Yn Hoffi Fy Nghwrs Prifysgol

Gofynna gwestiynau

Meddylia am y cwestiynau isod, efallai bydd y rhain yn helpu ti i ddod i benderfyniad:

  • Beth yn union dwi ddim yn hoffi am y cwrs?
  • Pam mod i wedi dewis y cwrs yma yn lle cyntaf?
  • Bydd gadael y cwrs yma yn newid fy nghynlluniau gyrfa? Os felly, pa opsiynau eraill sydd yn agored i mi er mwyn i mi barhau i mewn i’r swydd yma?
  • Beth ydw i’n gobeithio’i gael allan o fy mhrofiad yn y brifysgol?
  • Beth ydw i’n gobeithio’i ennill wrth astudio?
  • Sut ydw i’n dychmygu fy ngyrfa mewn 5 mlynedd? Ydw i angen y profiad yma?
  • Pa gyfaddawdau ydw i’n barod i’w gwneud er mwyn llwyddo yn y nod yma?

Chwilia am gefnogaeth

Os wyt ti angen ychydig o gefnogaeth i addasu i’r bywyd newydd yn y brifysgol, mae yna Wasanaethau Myfyrwyr ar y campws. Gallant gynnig cyngor amhleidiol, cyfrinachol am gyllid, gwneud ffrindiau, materion crefyddol ac ysbrydol yn ogystal â lles corfforol a meddyliol. Nid fyddant yn barnu – maent yno i helpu gyda’r union faterion yma. Gallet ti hefyd holi os oes mentoriaid neu lysgenhadon myfyrwyr fydd yn gallu cynnig cyngor am sut llwyddo’n nhw i oroesi’r flwyddyn gyntaf.

Ymuno â chlwb

Gallet ti geisio ymuno â chlwb neu gymdeithas. Mae Undeb y Myfyrwyr yn gartref i lawer o wahanol rai.  Cer draw i swyddfa neu wefan yr Undeb ac edrych ar yr opsiynau. Gofynna am gyngor gan aelodau, neu os nad oes dim yn apelio gallet ti gychwyn cymdeithas dy hun!

Dyfynnod erthygl Ddim Yn Hoffi Fy Nghwrs Prifysgol

Siarad â thiwtor

Cofia siarad â thiwtor dy gwrs cyn i ti ddod i benderfyniad. Byddan nhw yn gallu dweud wrthyt ti os yw’r cwrs yn un cywir am y math o yrfa rwyt ti’n dymuno, ac os mai dyma’r achos, siarad â dy adran gyrfaoedd i gael cyngor ychwanegol ar y llwybrau eraill i mewn i’r swydd ddymunol.

Os wyt ti eisiau newid i gwrs gwahanol, gofynna i dy diwtor personol am gyngor a gweld os yw hyn yn bosib. Efallai bod yna gwrs arall fydd yn gweddu ti’n well, ond bydd angen i ti weld os wyt ti’n cyrraedd y gofynion mynediad i gychwyn, ac os oes lle i ti.

Opsiynau eraill

Cofia bod yna opsiynau eraill bob tro – dyw’r Brifysgol ddim yn gweddu pawb ac mae hynny’n iawn!

Gallet ti gymryd blwyddyn i deithio a chael profiad gwaith, gwneud cais am brentisiaeth, chwilio am swydd llawn amser neu gychwyn cwrs coleg rhan amser.

Os wyt ti’n penderfynu parhau yn y brifysgol am y profiad a’r sgiliau, ond ddim yn mwynhau’r cwrs, gofynna beth yw dy opsiynau. Wyt ti’n gallu gohirio am flwyddyn a cheisio eto ar ôl i ti benderfynu beth wyt ti am wneud? Ydy hi’n bosib newid i gwrs arall? Beth am brifysgol arall? Wyt ti’n gallu newid i brifysgol wahanol os mai dyma ti’n dymuno gwneud? Gofynna i dy diwtor personol a chynghorwyr gyrfa – byddant yn hapus i helpu!

Gwybodaeth bellach

Mae’r gwefannau yma yn ddefnyddiol iawn ac yn cynnig gwybodaeth wych fydd yn darparu ychydig o fewnwelediad pellach:

Prospects – Newid neu adael dy gwrs

Which? Univeristy – Pa mor hawdd ydy newid cwrs unwaith yn y brifysgol

Pob lwc gyda phopeth!

Y Tîm Meic

Mae Meic yn llinell gymorth, gwybodaeth ac eiriolaeth i blant a phobl ifanc 0 i 25 oed yng Nghymru. Rydym yn agored o 8am i hanner nos, 7 diwrnod yr wythnos. Mae posib cysylltu ar y ffôn (080880 23456), neges testun (84001) ac ar y we yn rhad ac am ddim.