x
Cuddio'r dudalen

Coda’r Meic: Ffrindiau Yn Rhoi Pwysau Arnaf i Yfed

“Dydw i ddim eisiau yfed, ond dydw i ddim am golli fy ffrindiau ychwaith”.

Nid ti yw’r unig un! Os ydy ein ffrindiau i gyd yn gwneud rhywbeth (fel yfed alcohol), rydym fel arfer yn teimlo dan bwysau i wneud yr un peth fel nad ydym yn teimlo’n wahanol. Weithiau, gall deimlo’n haws i wneud y peth er mwyn “perthyn” yn ein grŵp o ffrindiau, ond gall hyn arwain at wneud pethau sydd ddim yn teimlo’n gywir i ti, neu ddim yn ffitio dy gymeriad. Gall hyn hefyd achosi trafferth i ti os wyt ti’n meddwi ac yn gwneud rhywbeth twp. 

Mae’n digwydd i mi nawr

Os wyt ti’n cael trafferth gyda hyn ar hyn o bryd, gall sgwrsio â rhywun fod o help – ffrind, aelod o’r teulu, athro, gweithiwr ieuenctid, cynghorwr, neu cysyllta â Meic i siarad yn gyfrinachol. Gellir gyrru neges testun i 84001, ffonio ar 080880 23456 neu gyrru neges sydyn ar y wefan.

Gallai ddigwydd i mi – beth alla i wneud i atal hyn? 

Er ei fod yn weddol normal i deimlo fel hyn, mae’n bwysig i ti ymddwyn fel ti a pheidio gwneud rhywbeth gall wneud ti’n anhapus. Nid yw cymryd cyfrifoldeb am dy hapusrwydd yn golygu nad allet ti fod yn rhan o’r grŵp.

I helpu ti i reoli’r sefyllfa, gallet ti:

– Treulio amser gyda phobl sy’n hoffi’r un fath o bethau – gall hyn wneud i ti deimlo’n fwy hyderus ac mae’n llai tebygol y byddi di dan bwysau i wneud pethau nad wyt ti eisiau.

– Bydda’n bendant – anodd gwneud weithiau – bydda’n gryf a dweud na ac esbonio’n glir pam nad wyt ti eisiau gwneud rhywbeth (heb achosi ffwdan fawr). Nid yn unig byddi di’n teimlo’n well, ond efallai bydd pobl eraill yn teimlo’r un peth hefyd.

– Chwilio am bethau gwahanol fedri di a dy ffrindiau gwneud yn lle. Cofia, nid oes angen alcohol i gael hwyl!

Os wyt ti mewn sefyllfa lle mae dy ffrindiau’n rhoi pwysau arnat ti i yfed pan fydd well gen ti beidio, yna efallai bydda’n well i ti dynnu dy hun o’r sefyllfa – a mynd adref.

Angen gwybodaeth bellach? Edrycha ar rain: