x
Cuddio'r dudalen

Coda’r Meic: Dwi’n Cael Fy Mwlio

Wyt ti’n cael dy fwlio? Deall y gwahaniaeth rhwng pryfocio a bwlio? Mae Megan wedi cysylltu â Coda’r Meic am gyngor.

Coda’r Meic ydy dy gyfle di i ofyn cyngor am unrhyw beth sy’n dy boeni. Rydym yma i wrando a chynnig cyngor. Mae manylion #codarmeic ar y dudalen hon, ond cofia nad yw’r cyngor yn dod yn syth. Os wyt ti angen cyngor sydyn yna cysyllta â’r llinell gymorth.

(This article is also available in English  – To read this content in English click here)

Helo Meic,

Mae bachgen yn fy mwlio a dwi angen help. Dwi’n casáu’r peth a dwi ddim yn gwybod beth i’w wneud. 😞

Megan

Cyngor Meic

Helo Megan,

I gychwyn, mae’n ddrwg iawn gen i glywed bod hyn yn digwydd i ti ar hyn o bryd. Gall bwlio fod yn beth anodd iawn i berson ifanc ac mae’n gallu gwneud i ti deimlo’n ddrwg amdanat ti dy hun. Nid yw hyn yn iawn.

Bwlio neu dynnu coes?

Weithiau bydd pobl yn dweud rhywbeth sy’n dy frifo, ond efallai nad ydynt yn sylweddoli eu bod wedi gwneud hyn. Mae’n bwysig felly i ddweud wrthynt fod hyn wedi achosi poen i ti, efallai hoffant ymddiheuro.

Bwlio ydy pan fydd rhywun yn gwneud rhywbeth i ti drosodd a throsodd gan wybod bod hyn yn dy frifo. Edrycha ar erthygl Bwlio Neu Dynnu Coes? Meic i weld os mai bwlio ydy’r hyn sydd yn digwydd i ti.

Mae gen ti hawliau

Mae gan bobl ifanc dros Gymru hawl i beidio cael eu bwlio. Os wyt ti’n profi hyn yna mae yna lawer o bethau gallet ti ei wneud i geisio datrys pethau. Edrycha ar yr erthygl Hawl i Beidio Cael Dy Fwlio ar Meic wrth i ni edrych ar dy hawliau.

Cyngor ac arweiniad

Mae gennym awgrymiadau i ti a dy rieni hefyd yn y fideo 6 Cam i’w Cymryd Os Wyt Ti’n Cael Dy Fwlio isod, neu edrycha ar yr erthygl yma. Y lle gorau i gychwyn ydy wrth siarad gyda rhywun am y peth – rhiant/gwarchodwr, athro neu oedolyn arall gallet ti ymddiried ynddynt. Os wyt ti’n teimlo na fedri di siarad â neb, yna galwa ni yma ar linell cymorth Meic i drafod am y peth. Rydym yma bob dydd rhwng 8yb a hanner nos. 😀

Gobeithiaf fod y wybodaeth yma yn helpu. Os oes unrhyw beth nad wyt ti’n deall, neu os wyt ti eisiau siarad am unrhyw beth mewn mwy o fanylder, yna ffonia, gyrra neges testun neu neges sydyn a gallwn egluro pethau ymhellach.

Cymera Ofal

Y Tîm Meic


Galwa Meic

Os wyt ti angen siarad gyda rhywun am unrhyw beth sydd yn dy boeni, yna galwa Meic i siarad gyda chynghorydd cyfeillgar.

Manylion Meic erthygl Coda'r Meic Bwlio

Mae Meic yn llinell gymorth, gwybodaeth ac eiriolaeth i blant a phobl ifanc 0 i 25 oed yng Nghymru. Rydym yn agored o 8am i hanner nos, 7 diwrnod yr wythnos. Mae posib cysylltu ar y ffôn (080880 23456), neges testun (84001) ac ar y we yn rhad ac am ddim.

Llun clawr: Kat J ar Unsplash