x
Cuddio'r dudalen

Coda’r Meic: Tynnu Lluniau Heb Ganiatâd

Mae Gwen wedi bod yn tynnu lluniau o bobl mewn parti heb iddynt wybod ac yn poeni efallai bod nad oedd hyn yn deg. Dyma gyngor Meic yn Coda’r Meic.


Coda’r Meic ydy dy gyfle di i ofyn cyngor am unrhyw beth sy’n dy boeni. Rydym yma i wrando a chynnig cyngor. Mae manylion #codarmeic ar y dudalen hon, ond cofia nad yw’r cyngor yn dod yn syth. Os wyt ti angen cyngor sydyn yna cysyllta â’r llinell gymorth.

This article is also available in English  – to read this content in English – click here


Helo Meic,

Roeddwn i mewn parti yn ddiweddar, ac yn gyrru lluniau a fideos o bobl yno mewn ‘chat’ grŵp gyda thri o bobl ynddo. Rwy’n difaru nawr gan ac yn poeni na fydd rhai o’r bobl yn hapus gyda hyn (nid ydynt yn ymwybodol eto). Roeddwn i’n meddwl bod hyn yn ddoniol ar yr adeg ond rwy’n teimlo’n wirion, gyda chywilydd ac yn euog nawr. Fedrwch chi helpu?

Diolch

Gwen (*enw wedi newid ar gyfer cyfrinachedd)

Cyngor Meic

Helo Gwen,

Diolch am gysylltu gyda Meic. Mae’n swnio fel dy fod di’n poeni am hyn ac mae hyn yn rhywbeth sydd yn effeithio ar lawer o bobl ifanc.

Mae tynnu lluniau a fideos o dy ffrindiau a chyfoedion, yn enwedig mewn rhywbeth cymdeithasol fel parti, yn beth normal i’w wneud. Fel arfer rydym eisiau dangos yr hwyl i eraill, creu atgofion a chael hwyl ar ôl y parti orffen wrth edrych drwyddynt. Ond weithiau gall lluniau a fideos godi cywilydd ar y rhai sydd ynddynt, yn enwedig os oeddent yn ceisio cael hwyl a ddim yn ymwybodol bod rhywun yn recordio neu’n tynnu lluniau. Os ydy’r lluniau yna yn codi cywilydd arnynt, y peth olaf fydden nhw eisiau ydy i rywun eu rhannu heb eu caniatâd.

Delwedd o law gyda bawd i fyny ar gyfer erthygl tynnu lluniau

Mae caniatâd yn bwysig

Mae caniatâd (consent) yn rhywbeth sydd yn codi’n aml gyda phobl ifanc. Mae’n golygu rhoi caniatâd i bopeth, o berthnasau iach i ofal iechyd i rannu gwybodaeth a lluniau. Mae pobl mewn partïon yn aml yn tynnu lluniau a fideos o’u hunain neu’u ffrindiau. Yn ddelfrydol, fe ddylent fod yn ymwybodol ac wedi rhoi caniatâd i dynnu’r lluniau yma. Os wyt ti’n mynd i rannu’r lluniau ar gyfryngau cymdeithasol, mae’n syniad da i sicrhau eu bod nhw’n rhoi caniatâd.

Cofia, fe ddylai cyfryngau cymdeithasol fod yn ffordd hwyl a pleserus i gyfathrebu gyda ffrindiau, rhannu lluniau a fideos. Ni ddylid fod yn rhywbeth rwyt ti’n ofni. Ond, mae angen i bawb ystyried pobl eraill wrth ei ddefnyddio. Pan rwyt ti’n  rhannu llun ar unrhyw blatfform rwyt ti’n gallu colli rheolaeth ohono yn syth. Hyd yn oed os wyt ti’n dileu’r llun, gall rhywun fod wedi tynnu sgrin lun, wedi safio neu ei rannu yn barod.

Celf 'pop' ceg agored ar gefndir melyn ar gyfer erthygl caniatâd lluniau

Siarada â nhw

O’r hyn rwyt ti’n ei ddweud yn dy neges, rwyt ti’n poeni na fydd y bobl yma’n hapus gyda’r delweddau a’r fideos yma. Mae’r ffaith dy fod di wedi meddwl am hyn ac yn chwilio am gyngor yn dda. Mae’n anodd, o’r hyn rwyt ti wedi’i ddweud, i ddeall cyd-destun y lluniau a’r fideos yma. Os mai poeni am y ffaith dy fod di wedi tynnu’r lluniau heb ganiatâd wyt ti, yna gallet ti siarad â nhw, gyda’i gilydd neu ar wahân.

Dweud wrthynt dy fod di wedi tynnu lluniau a’u rhannu i gael atgofion o noson wych gyda’ch gilydd. Dweud nad oeddet ti wedi meddwl am y peth ar y pryd a gobeithio’u bod nhw’n hapus. Os yw rhywuhn yn anhapus, yna ymddiheura ac addo i ofyn caniatâd y tro nesaf cyn rhannu. Gallet ti gynnig dileu’r lluniau hefyd.

Wrth symud ymlaen, sicrha dy fod di bob tro’n gofyn i ffrindiau os ydynt yn hapus i ti rannu lluniau.

Cartŵn Ymennydd i gynrychioli dysgu ar gyfer erthygl caniatâd lluniau

Dysga o’r camgymeriad

Ffordd dda i weld os yw rhywbeth yn iawn neu beidio ydy wrth roi dy hun yn yr un sefyllfa. Sut fyddet ti’n teimlo os byddai rhywun yn tynnu lluniau ohonot ti heb i ti sylweddoli, yn enwedig rhai sydd ddim yn edrych yn grêt, a’u gyrru i bobl neu bostio ar-lein? Os na fyddet ti’n hoff ohono, yna mae’n debyg na fydden nhw chwaith.

Os wyt ti’n meddwl bod y lluniau a’r negeseuon roeddet ti’n gyrru yn gwneud hwyl am eu pen, ac rwyt ti’n teimlo’n  ddrwg am hyn, yna siarada gyda’r bobl roeddet ti’n negeseuo â nhw. Dweud dy fod di’n difaru gyrru’r lluniau. Dileu’r lluniau a gofyn iddyn nhw wneud yr un peth. Mae’r ffaith dy fod di wedi gofyn am help yn dangos dy fod di wedi dysgu dy wers. Efallai bydd hyn yn dy atal rhag gwneud yr un camgymeriad eto.

Edrycha ar yr erthygl yma ar Metro ‘Why you shouldn’t secretly take a stranger’s photo and post it online’

Os wyt ti’n dal i boeni ac eisiau siarad ymhellach am hyn gyda chynghorydd, yna cysyllta â Meic rhwng 8yb a hanner nos bob dydd ar y ffôn, neges testun neu sgwrs ar-lein.

Pob lwc a chymera ofal,

Y Tîm Meic