x
Cuddio'r dudalen

Coda’r Meic: Casáu Rhieni Am Fy Ngorfodi i Symud

Fydda’r syniad o symud i ardal newydd, cychwyn ysgol newydd a gorfod gwneud ffrindiau newydd yn codi ofn arnat? Yn Coda’r Meic yr wythnos hon mae person ifanc yn chwilio am gyngor gan mai dyma’r union beth mae’n wynebu. Dyma gyngor Meic.

Coda’r Meic ydy dy gyfle di i ofyn cyngor am unrhyw beth sy’n dy boeni. Rydym yma i wrando a chynnig cyngor. Mae manylion #codarmeic ar y dudalen hon, ond cofia nad yw’r cyngor yn dod yn syth. Os wyt ti angen cyngor sydyn yna cysyllta â’r llinell gymorth.

Gellir darllen yr erthygl yma yn Saesneg hefyd – To read this content in English click here.

Helo Meic,

Mae mam wedi cael swydd newydd mewn rhan arall o Gymru, yn bell o’n hen gartref, felly rydym wedi gorfod symud. Dwi wir yn colli fy hen ardal, ffrindiau a theulu ac yn casáu fy rheini am ein gorfodi i symud. Dwi’n ofni cychwyn yn fy ysgol newydd gan nad wyf yn adnabod neb (heblaw am fy mrawd). Oes gen ti gyngor plîs?

Cyngor Meic

Diolch i ti am gysylltu â ‘Coda’r Meic’ am gyngor yn dilyn symud yn ddiweddar. Mae’n ymddangos fel bod hyn wedi bod yn anodd iawn i ti. Maent yn dweud bod symud tŷ yn un o’r digwyddiad mewn bywyd sy’n achosi’r straen mwyaf i rywun, yn enwedig os yw’n golygu symud tref neu ddinas yn ogystal â’r tŷ ei hun.

Emosiynau i erthygl Casáu Fy Rhieni Am Fy Ngorfodi i Symud

Mae’r teimladau yn normal

Mae’n gwbl ddealladwy dy fod di’n colli dy hen gartref, ffrindiau a theulu, a dy fod di’n flin gyda dy rieni ar hyn o bryd. Maent wedi gwneud penderfyniad nad oedd gen ti unrhyw reolaeth drosto. Mae’n debyg bod symud y teulu wedi bod yn benderfyniad anodd i dy rieni – mae cael swydd dda ac adeiladu gyrfa yn gallu golygu adleoli weithiau, ac mae rhieni fel arfer yn gwneud hyn oherwydd eu bod yn credu’r mai dyma’r penderfyniad gorau i’r teulu cyfan yn y pen draw.

Cadw mewn cysylltiad

Soniais dy fod di’n colli dy hen ffrindiau, sydd yn gwbl ddealladwy. Dyma ychydig o awgrymiadau am sut i aros mewn cysylltiad (mae’n debyg dy fod di’n gwneud rhai ohonynt yn barod):

  • Cadwa mewn cysylltiad yn rheolaidd ar y ffôn/cyfryngau cymdeithasol/gemau cyfrifiadur
  • Rho daith o amgylch dy gartref a’r ardal newydd wrth ffilmio gyda chamera. Gallant rannu yn y newydd-deb gyda thi
  • Gwahodd dy ffrindiau i ymweld â dy gartref newydd, neu cer yn ôl i aros gyda nhw ac/neu deulu estynedig e.e. cefndryd, neiniau a theidiau ar y penwythnosau neu yn ystod y gwyliau
  • Ysgrifenna flog ar gyfer ffrindiau a theulu. Bydd hyn yn arbed ti rhag gorfod ailddweud pethau drosodd a throsodd. Gallet ti roi ychydig o hiwmor ynddo ac ychwanegu lluniau o’r cartref/ardal newydd

Awgrymiadau ar sut i setlo’n well

Mae setlo mewn ardal newydd a gwneud ffrindiau newydd yn rhywbeth gall gymryd amser, ond mae yna bethau gallet ti ei wneud bydd yn helpu hyn i ddigwydd yn rhwyddach, ac yn helpu ti i deimlo cyswllt gwell i’r ardal newydd. Dyma ychydig o syniadau:

  • Gweithgareddau i’r holl deulu – cerdded, atyniadau lleol, sinema ayb. Bydd rhannu profiadau newydd a chreu atgofion yn dy helpu i deimlo fel dy fod di’n perthyn yn dy gartref newydd. Mae bod efo’ch gilydd, a gwneud pethau â’ch gilydd yn cefnogi chi fel teulu i symud ymlaen mewn ffordd bositif
  • Ymuno â chlybiau a sefydliadau (fel teulu ac yn unigol) – clybiau ieuenctid, grwpiau gwirfoddol lleol, cymunedau crefyddol, grwpiau chwaraeon ayb. Mae hyn yn ffordd wych i gyfarfod a gwneud ffrindiau newydd
  • Cadw rhestr o’r llefydd rwyt ti’n ymweld â nhw fyddet ti’n hoff o ddangos i dy ffrindiau a theulu pan fyddant yn ymweld. Bydd hyn yn helpu ti i ganolbwyntio ar y pethau cadarnhaol am dy dref newydd

Ofni cychwyn mewn ysgol newydd

Rwyt ti wedi dweud dy fod di ofn cychwyn yn yr ysgol newydd gan na fyddet ti’n adnabod neb heblaw am dy frawd. Efallai gallet ti siarad â dy rieni am fynd i weld yr ysgol cyn cychwyn – hyd yn oed os mai sefyll tu allan wyt ti i gael teimlad o sut le ydyw. Os wyt ti’n teimlo’n ddewr, trefna mynd i mewn i’r ysgol am daith neu i gyfarfod dy diwtor blwyddyn.

Efallai bod cychwyn mewn ysgol newydd yn beth ofnus, ond fel arfer mae ysgolion yn dda iawn yn croesawu disgyblion newydd ac yn trefnu rhywun yn y dosbarth i fod yn fydi i ti am y dyddiau cyntaf. Mae’n debyg bydd plant eraill y dosbarth yn awyddus iawn i ddod i dy adnabod. Os wyt ti’n teimlo’n ddigon cyfforddus, ceisia fod yn gyfeillgar a gwenu ar bobl, yn enwedig os ydynt yn garedig ac yn dy annog i ymuno. Gallet ti hefyd ymuno gyda gweithgareddau ar ôl ysgol fel ffordd o gyfarfod disgyblion eraill y tu allan i’r dosbarth. Edrycha ar y canllaw yma gan y BBC 10 Tips For Surviving a New School am gyngor.

Gobeithiaf dy fod di’n llwyddo setlo yn dy gartref newydd. Cadwa’n bositif, ymuno i mewn a bydd pethau’n gwella. Pob lwc yn dy ysgol newydd!

Y Tîm Meic


Galwa Meic

Os wyt ti angen siarad gyda rhywun am unrhyw beth sydd yn dy boeni, yna galwa Meic i siarad gyda chynghorydd cyfeillgar.

Mae Meic yn llinell gymorth, gwybodaeth ac eiriolaeth i blant a phobl ifanc 0 i 25 oed yng Nghymru. Rydym yn agored o 8am i hanner nos, 7 diwrnod yr wythnos. Mae posib cysylltu ar y ffôn (080880 23456), neges testun (84001) ac ar y we yn rhad ac am ddim.