x
Cuddio'r dudalen

Coda’r Meic: Problemau Deintydd

Mae person ifanc yr wythnos hon yn cael hunllef wrth geisio cael ei chyfeirio at orthodeintydd. Dyma ei phrofiad a’n cyngor yn Coda’r Meic.


Coda’r Meic ydy dy gyfle di i ofyn cyngor am unrhyw beth sy’n dy boeni. Rydym yma i wrando a chynnig cyngor. Mae manylion #codarmeic ar y dudalen hon, ond cofia nad yw’r cyngor yn dod yn syth. Os wyt ti angen cyngor sydyn yna cysyllta â’r llinell gymorth.

(This article is also available in English  – To read this content in English – click here)


Helo Meic,

Dwi’n ysgrifennu atoch oherwydd fy mhrofiad gyda’r Gwasanaeth Iechyd. Dwi wedi bod yn disgwyl am lythyr cyfeirio ers sbel, ond ar ôl 7 mis heb ateb es i at yr orthodeintydd. Yr eglurhad gefais oedd bod y cyfeirio wedi cael ei wrthod am fod gen i blac ar fy nannedd cefn. Dwi’n meddwl bod hyn yn ofnadwy, ac mae fy rhieni yn edrych ar fynd yn breifat, ond nid yw hyn yn bosib gan nad allant fforddio hyn. Mae’n straen ychwanegol gan fod i newydd orfod symud ysgol hefyd. Dwi angen help ac eisiau gwybod beth i’w wneud.

Delyth (*enw wedi’i newid i amddiffyn y person)

Cyngor Meic

Helo Delyth.

Mae’n ddrwg iawn gen i glywed am hyn, mae’n ymddangos fel bod hyn wedi bod yn brofiad negyddol iawn gyda’r GIG, a’r orthodeintydd yn fwy penodol. Mae’n debyg bod gorfod disgwyl mor hir am y cyfeiriad, ac yna’n dysgu nad wyt ti’n cael derbyn triniaeth oherwydd y plac, wedi bod yn rhwystredig iawn i ti.

dant hapus i erthygl deintydd

Triniaeth am ddim

Mae amseroedd disgwyl y GIG yn gallu bod yn hir iawn, ond mae dy ofal deintyddol, gan gynnwys ymweliadau â’r orthodeintydd, am ddim ar y GIG pan fyddi di angen hynny os wyt ti o dan 18 oed. Dyma bolisi’r GIG a hefyd dy hawl di fel person ifanc. Mae gan blant dan 18 nifer o hawliau, gan gynnwys mynediad i ofal iechyd, felly nid yw’n dderbyniol dy fod di’n teimlo nad allet ti wneud hyn ar hyn o bryd.

Os wyt ti’n anhapus gyda’r gwasanaeth rwyt ti wedi’i dderbyn gan y GIG, gallwn ni dy gefnogi drwy’r broses cwynion. Os wyt ti eisiau gwneud cwyn, byddai’n well i ti gysylltu â’r llinell gymorth Meic (manylion isod) a gallem roi help llaw i ti drwy’r broses cwyno.

Efallai gall dy ddeintydd helpu ti gyda rheoli’r plac hefyd, fel dy fod di mewn sefyllfa i fynd yn ôl at yr orthodeintydd i dderbyn triniaeth.

Help i gael llais

Mae’n swnio fel bod llawer iawn yn digwydd yn dy fywyd di gyda’r materion deintyddol ar hyn o bryd, a hefyd y newidiadau wrth newid ysgol. Ti wedi gofyn am help ac mae yna sawl ffordd gallem ni dy gefnogi ar y llinell gymorth. I wneud hyn, efallai bydd angen mwy o fanylion arnom am y sefyllfa a’r hyn ti eisiau cyflawni gyntaf. Mae’r llinell gymorth Meic yn darparu gwybodaeth, cyngor a rhywbeth gelwir yn eiriolaeth. Eiriolaeth ydy pan fydd person ifanc yn teimlo nad yw pobl yn gwrando arnynt. Gall eiriolwr helpu’r person ifanc yna i gael eu clywed wrth fod yn llais iddynt, neu wrth eu helpu i feddwl am yr hyn maent eisiau dweud a sicrhau eu bod yn wybodus am eu hopsiynau/dewisiadau.

Y ffordd orau i siarad â ni ymhellach fel ein bod yn gallu cael y cyngor gorau ar gyfer y canlyniadau rwyt ti’n gobeithio, ydy wrth gysylltu’r llinell gymorth. Rydym yma bob dydd rhwng 8yb a hanner nos, hyd yn oed os wyt ti’n ansicr am gysylltu ar y ffôn, mae posib cysylltu drwy neges testun (84001) neu neges ar-lein.

Edrychwn ymlaen at glywed gen ti’n o fuan.

Cymera ofal

Galwa Meic

Os wyt ti angen siarad gyda rhywun am unrhyw beth sydd yn dy boeni, yna galwa Meic i siarad gyda chynghorydd cyfeillgar.

Mae Meic yn llinell gymorth, gwybodaeth ac eiriolaeth i blant a phobl ifanc 0 i 25 oed yng Nghymru. Rydym yn agored o 8am i hanner nos, 7 diwrnod yr wythnos. Mae posib cysylltu ar y ffôn (080880 23456), neges testun (84001) ac ar y we yn rhad ac am ddim.