x
Cuddio'r dudalen

Coda’r Meic: Dwi’n Cael Fy Mwlio

Mae Gwen yn cael ei bwlio ac wedi cysylltu gyda ni am gyngor yn y Coda’r Meic diweddaraf.

Coda’r Meic ydy dy gyfle di i ofyn cyngor am unrhyw beth sy’n dy boeni. Rydym yma i wrando a chynnig cyngor. Mae manylion #codarmeic ar y dudalen hon, ond cofia nad yw’r cyngor yn dod yn syth. Os wyt ti angen cyngor sydyn yna cysyllta â’r llinell gymorth.

(Gellir darllen yr erthygl yma yn Saesneg hefyd – To read this content in English click here)

Helo Meic,

Dwi’n cael fy mwlio gan Adam.

Plîs helpwch

Gwen (*enw wedi’i newid i amddiffyn y person)

Cyngor Meic

Helo Gwen,

I gychwyn, mae’n ddrwg iawn gen i glywed dy fod di’n mynd drwy’r profiad yma gyda Adam ar hyn o bryd. Mae bwlio yn gallu bod yn brofiad anodd iawn i berson ifanc ac yn gallu gwneud i ti deimlo’n ddrwg amdanat ti dy hun, ac nid yw hyn yn iawn. Weithiau efallai bod pobl yn dweud rhywbeth sydd yn brifo heb sylwi, ac mae’n bwysig dy fod di’n dweud wrthynt fod hyn wedi brifo – efallai byddant yn hoffi cael cyfle i ddweud sori. Ond, bwlio ydy pan fydd rhywun yn gwneud rhywbeth i ti drosodd a throsodd, ac yn gwybod bod hyn yn dy frifo di.

Dweud 'Digon' i fwlio erthygl Bwlio

Hawl i Beidio Cael Dy Fwlio

Mae gan bobl ifanc dros Gymru’r hawl i beidio cael eu bwlio. Os yw hyn yn rhywbeth sydd wedi bod yn digwydd i ti yna mae yna lawer o bethau gallet ti ei wneud, a gall pobl arall ei wneud ar dy ran, i helpu datrys hyn. Edrycha ar ein herthygl Hawl i Beidio Cael Dy Fwlio.

Mae gan The Mix adran arbennig yn edrych ar sut i Drechu Bwlio. Edrychwch arno.

Mae gennym erthygl dda ar Meic hefyd sydd yn rhoi awgrymiadau i ti a dy rieni i ar y camau i’w dilyn os wyt ti’n cael dy fwlio. Y lle gorau i gychwyn ydy siarad gyda rhywun am hyn. Gall fod yn rhiant/gwarchodwr, athro neu oedolyn arall gallet ti ymddiried ynddynt. Os nad wyt ti’n teimlo’n gyfforddus yn siarad gyda rhywun, yna beth am alw’r llinell gymorth Meic i siarad amdano. Rydym yma bob dydd o 8yb tan hanner nos.

Gobeithiwn fod y wybodaeth yma yn help i ti. Os oes yna unrhyw beth aneglur neu os hoffet ti siarad am rywbeth i fwy o fanylder, yna ffonia, gyrra neges testun neu neges ar-lein a gallem egluro pethau ymhellach.

Cymera ofal

Y Tîm Meic

Galwa Meic

Os wyt ti angen siarad gyda rhywun am unrhyw beth sydd yn dy boeni, yna galwa Meic i siarad gyda chynghorydd cyfeillgar.

Mae Meic yn llinell gymorth, gwybodaeth ac eiriolaeth i blant a phobl ifanc 0 i 25 oed yng Nghymru. Rydym yn agored o 8am i hanner nos, 7 diwrnod yr wythnos. Mae posib cysylltu ar y ffôn (080880 23456), neges testun (84001) ac ar y we yn rhad ac am ddim.