x
Cuddio'r dudalen

Coda’r Meic: Methu Ymdopi Gydag Iechyd Meddwl Fy Ffrind

Mae iechyd meddwl Holly* yn dioddef wrth iddi geisio cefnogi ei ffrind sydd ag iselder. Cysylltodd â Coda’r Meic i ofyn am gyngor.

Coda’r Meic ydy dy gyfle di i ofyn cyngor am unrhyw beth sy’n dy boeni. Rydym yma i wrando a chynnig cyngor. Mae manylion #codarmeic ar y dudalen hon, ond cofia nad yw’r cyngor yn dod yn syth. Os wyt ti angen cyngor sydyn yna cysyllta â’r llinell gymorth.

(Gellir darllen yr erthygl yma yn Saesneg hefyd – To read this content in English click here)

Helo Meic,

Mae fy ffrind yn cael cyfnod anodd o iselder ar hyn o bryd. Dwi’n gwneud fy ngorau glas i fod yn gefn iddi, ond dwi ‘di blino’n lân. Dwi’n teimlo’n fwy a mwy gwag ar ôl iddi adael, ac yn ofni teimlo fel hyn eto. Dwi ddim eisiau mynd yn ôl i’r hen arferion a dechrau gwneud niwed i’m hun eto. Dwi ddim eisiau teimlo’n ddiwerth ac wedi torri eto. Pam mod i’n teimlo fel sbwriel bob tro dwi’n anadlu? Dwi eisiau perthyn i rywle, i rywun, i unrhyw beth.

Holly

Cyngor Meic

Helo Holly,

Diolch am gysylltu gyda ni yma yn Coda’r Meic. Mae’n swnio fel dy fod di’n ffrind da iawn. Mae’n wych dy fod di wedi bod gefn iddi, felly da iawn ti am dy drugaredd a’th empathi.

Ond, mae cefnogi rhywun gydag iselder yn gallu bod yn flinedig iawn. Mae’n ymddangos fel bod hyn yn cael effaith mawr arnat ti a dy hwyliau. Er pa mor rhagorol ydyw i fod yn gefn i dy ffrind, mae’n bwysig iawn dy fod di’n gofalu amdanat ti dy hun a dy les meddyliol, a pheidio gadael dy hun yn teimlo’n wag. Fel dwedes di, os wyt ti’n parhau fel hyn, byddi di’n gwneud dy hun yn sâl a ddim mewn sefyllfa i ddarparu unrhyw fath o gefnogaeth – fydd yn gwneud pethau’n waeth i’r ddau ohonoch.

Gwahanol ffyrdd i gefnogi

Nid oes rhaid i ti stopio cynnig cefnogaeth i dy ffrind yn gyfan gwbl, ond efallai byddgen i ti feddwl am faint rwyt ti’n gynnig. Oes yna ffordd o’i chefnogi sydd ddim yn achosi niwed i ti? Efallai gallet ti gyfyngu’r gefnogaeth emosiynol i unwaith bob pythefnos, yn hytrach nag unwaith yr wythnos. Efallai gallet ti gynnig cefnogaeth mewn ffyrdd sy’n wahanol i gynnig clust i wrando bob tro. Beth am feddwl am bethau lle nad oes rhaid siarad, pethau fydd yn rhoi hwb i’ch hwyliau? Efallai mynd i ddosbarth, grŵp neu weithgaredd gyda hi am y tro cyntaf, fel nofio, myfyrdod, neu weld ffilm yn y sinema.

Dyw’r ffaith dy fod di’n penderfynu cael ychydig mwy o bellter rhyngoch ddim yn golygu nad allet ti roi gwybod i dy ffrind dy fod di yno iddi. Gyrra neges testun gyda dyfynnod ysbrydoledig neu neges bositif weithiau. Bydd hyn yn rhoi gwybod nad wyt ti wedi anghofio amdanynt, a dy fod di yna o hyd iddynt, ond dy fod angen ychydig o amser i ti dy hun.

Chwilio am gymorth gwasanaethau

Ceisia fod yn onest gyda dy ffrind am yr effaith mae hyn yn ei gael arnat ti. Gallet ti dal ddweud dy fod di’n gefn iddi bob tro, ond weithiau efallai bydd angen i ti gymryd amser i ti er lles iechyd meddwl dy hun. Gallet ti annog iddi ymweld â’i doctor fydd yn gallu cynnig cefnogaeth. Atgoffa bod yna wasanaethau eraill fydd ar gael pan fyddi di ddim, fel Elefriends ar wefan Mind, sydd â fforwm cefnogaeth gyfoed i bobl sydd yn profi bob math o broblemau iechyd meddwl.

Mae yna sawl gwasanaeth sy’n gallu cynnig cefnogaeth emosiynol/gwrando pan fydd angen hynny, a pan fyddi di ddim yn teimlo gallet ti gynnig hynny. Edrycha ar y Childline (os wyt ti dan 18 oed) neu CALL (i rai dros 18 oed).

Mae Meddwl.org yn wefn am sy’n cynnwys llwyth o wybodaeth ar faterion iechyd meddwl drwy gyfrwng y Gymraeg. Chwilia’r wefan am wybodaeth fydd yn help.

Gofalu amdanat ti

Yn olaf, sicrha dy fod di’n gwneud popeth y gallet ti i ofalu am dy hun a dy iechyd meddwl. Cofia bod siarad yn gallu bod yn gynorthwyol iawn, felly meddylia am rywun gallet ti ymddiried ynddynt weithiau i rannu dy deimladau. Siarada gyda dy ddoctor os oes angen, neu hola os oes cwnsela ar gael yn yr ysgol, coleg, prifysgol neu waith. Roeddet ti wedi crybwyll dy fod di’n poeni am hyn, felly efallai mai dyma’r amser i wneud rhywbeth amdano a gofalu am dy lesiant. Edrycha ar y wefan Mind sydd â llwyth o awgrymiadau i gadw rheolaeth.

Os oes unrhyw beth uchod sydd ddim yn gwneud synnwyr i ti, neu os wyt ti eisiau cyngor pellach am y wybodaeth rhoddir, yna cysyllta gyda ni ar y llinell gymorth – rydym yma bob dydd. A dweud hynny wrth dy ffrind hefyd 🙂 Rydym yn cynnig gwybodaeth, cyngor ac eiriolaeth, 7 diwrnod yr wythnos, rhwng 8yb a hanner nos.

Cymera ofal

Y Tîm Meic

*Enwau wedi’u newid i ddiogelu adnabyddiaeth

Galwa Meic

Os wyt ti angen siarad gyda rhywun am unrhyw beth sydd yn dy boeni, yna galwa Meic i siarad gyda chynghorydd cyfeillgar.

Mae Meic yn llinell gymorth, gwybodaeth ac eiriolaeth i blant a phobl ifanc 0 i 25 oed yng Nghymru. Rydym yn agored o 8am i hanner nos, 7 diwrnod yr wythnos. Mae posib cysylltu ar y ffôn (080880 23456), neges testun (84001) ac ar y we yn rhad ac am ddim.

Llun clawr gan Andrik Langfield ar Unsplash