x
Cuddio'r dudalen

Coda’r Meic: Ydw i’n Dweud y Gwir Am Ei Berthynas?

Yr wythnos hon mae gennym ymgyrch perthnasau arbennig ar Meic. Dyma un o sawl erthygl yn cael ei gyhoeddi ar y pwnc yr wythnos hon. I weld mwy edrycha ar yr adran erthyglau.

A yw’n syniad da i ddweud dy farn wrth ffrind am eu perthynas gyda pherson arall? Os oes gen ti deimladau tuag atynt, ddylai ti ddweud wrthyn nhw er eu bod nhw mewn perthynas efo rhywun arall? Mae Meic yn cynnig cyngor.

Annwyl Meic,

Dwi wedi adnabod un o’m ffrindiau am bump i chwe blynedd dda bellach ac yn meddwl lot mawr ohono. Dwi wedi’i weld yn mynd trwy lot, ac mae wedi bod yno i mi drwy bopeth.

Mae ganddo gariad bellach, ac mae hi’n hyfryd a hefyd yn ffrind agos i mi. Roeddwn i’n ffrind iddi am hir cyn i mi wybod fod y ddau yn mynd allan â’i gilydd. Ond dwi ddim yn hoff iawn o’r ffordd mae hi’n trin fy ffrind weithiau; maen nhw’n lyfli gyda’i gilydd a dwi’n gwybod bod y ddau yn caru ei gilydd, ond weithiau dwi’n meddwl y byddai ef yn well hebddi.

Mae hi’n gallu bod yn blentynnaidd iawn ac yn colli tymer gydag ef; mae hi’n fy atgoffa ohonof i pan roeddwn i mewn perthynas tebyg. Weithiau bydd yn ei wthio ac yn ei fwlio i wneud pethau nad yw eisiau gwneud. Nid yw wedi crybwyll ei fod yn anhapus ond dwi’n teimlo weithiau nad ydyw.

Dwi wedi ei hoffi fel ffrind am sawl blwyddyn, ond dwi wedi bod â theimladau tuag ato hefyd. Mae gen i crysh cyfrinachol arno. Efallai dwi’n teimlo’n wahanol oherwydd beth sydd yn digwydd, ond dwi ddim yn gwybod beth i wneud. Dylwn i ddweud wrtho beth yn union dwi’n ei feddwl ac efallai colli’r ddau fel ffrind, neu roi wyneb hapus ymlaen ac anwybyddu fy nheimladau?

Cyngor Meic

Helo ‘na,

Mae dy ffrind yn ffodus iawn i gael rhywun sydd yn poeni amdano gymaint ag yr wyt ti. Mae’n swnio fel bod gan y ddau ohonoch berthynas dda iawn. Wrth gwrs mae’n naturiol i ti boeni am y ffordd mae’n cael ei drin.

Mae’n sefyllfa anodd i fod ynddi gan dy fod di’n poeni am golli’r ddau fel ffrind. Rydym yn deall ei bod yn anodd i ti gogio dy fod di’n hapus efo pethau.

Deall dy deimladau

Ti’n dweud bod gen ti deimladau tuag ato erioed; wyt ti wedi meddwl beth yw ystyr y teimladau yma? Weithiau, mae pobl sydd mewn sefyllfaoedd tebyg yn gallu teimlo ychydig o genfigen. Mae’n naturiol i deimlo fel hyn, yn enwedig os wyt ti eisiau bod efo’r person yna. Os wyt ti’n meddwl efallai dy fod di’n genfigennus, yna beth am geisio rhoi’r teimladau i un ochr am ychydig ac yna edrych ar eu perthynas eto?

Ystyried hefyd ei ymateb ef i glywed beth rwyt ti wedi’i weld yn digwydd, a sut fydda ti’n delio gydag unrhyw ymateb positif neu negyddol ganddo. Meddylia am pam dy fod di eisiau dweud wrtho. Wyt ti’n gwneud am dy fod di’n poeni amdano neu am dy fod di eisiau cyfle i archwilio dy deimladau tuag ato? Beth fydda ei ymateb i glywed sut rwyt ti’n teimlo amdano mewn gwirionedd?

Gwybodaeth bellach

Mae yna lawer o wybodaeth ar The Mix yn cynnig cefnogaeth i rai dan 25 oed. Mae ‘I Love My Best Friend‘ yn edrych ar yr arwyddion i fod yn ymwybodol ohonynt ac os dylet ti ddweud neu beidio.

Gobeithio bod popeth yn mynd yn iawn i ti

Manylion cyswllt Meic

Galwa Meic

Os wyt ti eisiau help neu gyngor am berthynas, neu os oes rhywbeth arall yn dy boeni, yna galwa Meic i siarad gyda chynghorydd cyfeillgar.

Mae Meic yn llinell gymorth, gwybodaeth ac eiriolaeth i blant a phobl ifanc 0 i 25 oed yng Nghymru. Rydym yn agored o 8am i hanner nos, 7 diwrnod yr wythnos.