x
Cuddio'r dudalen

Sut Ydw i’n Stopio Meddwl am Bethau Negyddol?

Weithiau mae’r pethau negyddol sydd yn digwydd yn ein bywydau yn ein tynnu i lawr ac mae’n anodd gwybod sut i stopio hyn. Dyma’n union sut roedd Esther yn teimlo pan gysylltodd â Coda’r Meic am help. Dyma ein cyngor iddi.


Coda’r Meic ydy dy gyfle di i ofyn cyngor am unrhyw beth sy’n dy boeni. Rydym yma i wrando a chynnig cyngor. Mae manylion #codarmeic ar y dudalen hon, ond cofia nad yw’r cyngor yn dod yn syth. Os wyt ti angen cyngor sydyn yna cysyllta â’r llinell gymorth.

(This article is also available in English  – To read this content in English – click here.

Mae gennym sawl erthygl gyda gwybodaeth a chyngor am Covid-19 – edrycha arnynt yma.


Helo Meic

Mae pethau negyddol wedi bod yn digwydd yn fy mywyd yn ddiweddar a dwi eisiau gwybod sut i anghofio a thynnu sylw oddi wrtho.

Diolch

Esther (*enw wedi’i newid i amddiffyn y person)

Cyngor Meic

Helo Esther

Diolch i ti am gysylltu gyda Meic. Mae’n ddrwg gen i glywed bod pethau negyddol wedi bod yn digwydd o dy gwmpas yn ddiweddar. Mae’n beth da dy fod di wedi gofyn i Meic am gyngor ar sut i anghofio amdano a thynnu sylw wrth feddwl am bethau gwahanol.

Beth am feddwl am y pethau rwyt ti’n mwynhau gwneud, pethau sydd yn bosib ei wneud yn ystod cyfyngiadau Covid-19? Gallet ti ysgrifennu rhestr i’w gadw at pan fyddi di’n teimlo’n isel a dewis rhywbeth oddi arno i’w wneud. Os yw meddwl am syniadau yn anodd, yna mae gennym ychydig o awgrymiadau fydd yn gallu tynnu sylw oddi wrth y pethau negyddol a’r hwyliau isel.

Clustffonau ar gyfer erthygl teimladau negyddol

Cerddoriaeth i’r galon

Mae gwrando, chwarae a dawnsio gyda miwsig yn gallu helpu gyda theimladau isel. Mae cerddoriaeth yn ein cyffwrdd mewn ffyrdd nad allem ei egluro’n iawn – gall fod yn ysbrydol, ymgodol, hwyl, ymlaciol ac egnïol. Beth am greu rhestr o dy hoff diwniau? Dewisa rai fydd yn codi dy galon pan fyddi di’n isel. Cer i wrando ar restr chwarae Spotify Meic sydd wedi’i gychwyn yn ddiweddar – rydym yn awyddus i gael pobl ifanc Cymru i ychwanegu eu dewis nhw o gerddoriaeth i’r rhestr – cer draw i’n cyfryngau cymdeithasol i awgrymu tiwniau.

Rhes o bensiliau lliw ar gyfer erthygl teimladau negyddol

Creu Campwaith

Tynna’r offer celf a chrefft allan. Oeddet ti’n ymwybodol bod celf yn cael ei ddefnyddio fel therapi weithiau? Ac mae rheswm da am hyn. Mae’n ffordd wych i fynegi dy emosiynau, yn enwedig y rhai sydd wedi’u cloi i ffwrdd ers hir. Chwarae gyda chlai, gwneud modelau, arlunio, peintio, creu gludwaith neu fwrdd syniadau, gwnïo, gweu neu dynnu lluniau. Mae llawer o bethau i roi tro arni.

Pensil ar  bapur

Arllwys y geiriau

Gan aros gyda’r thema greadigol, mae ysgrifennu yn ffordd arall wych i fynegi dy deimladau. Gallet ti gadw dyddiadur, ysgrifennu cerdd neu stori fer, neu greu rhestr. Nid oes rhaid dangos yr hyn sydd yn cael ei ysgrifennu i neb, mae nodi rhywbeth i lawr ar bapur yn gallu bod yn rhyddhad ac yn gallu helpu taflu goleuni ar y pethau yn dy fywyd rwyt ti’n awyddus i newid neu wella.

Golygfa stori tylwyth teg dan lyfr

Lloches mewn llyfr

Mae darllen yn ffordd wych i anghofio am y pethau sydd yn dy boeni. Gan ddianc i fyd arall gall y meddyliau negyddol ddiflannu am dipyn a gwneud i ti deimlo’n well. Beth am ail-ddarllen dy hoff lyfrau, neu ddarllen rhai newydd?

Os wyt ti wedi darllen popeth sydd gen ti adref yna gallet ti lawr lwytho e-lyfrau ar BorrowBox gyda dy gerdyn llyfrgell a’r PIN. Clicia yma. Mae posib bydd dy lyfrgell leol yn agor cyn hir hefyd.

Esgid a phwysau llaw ar gyfer erthygl teimladau negyddol

Cadw’r corff yn iach

Mae ymarfer y corff yn un o’r gweithgareddau sydd yn gallu cael effaith positif iawn ar dy lesiant corfforol a meddyliol. Os wyt ti wedi rhoi tro ar rywbeth ac wedi’i gasáu, yna paid rhoi’r ffidl yn y to. Ceisia gyflwyno ychydig o weithgareddau i mewn i dy drefn ddyddiol, dyma syniadau:

  • Tra bod y canolfannau hamdden wedi cau, mae Byw’n Iach Cymru wedi bod yn creu ychydig o sesiynau ymarfer corff a darnau o gyngor ar eu sianel YouTube.
  • Lawr lwytha rhaglen Soffa i 5K y GIG a dechrau rhedeg
  • Os wyt ti’n hoff o ddawnsio yna efallai byddi di’n mwynhau ychydig o ddawns cardio, fel yr un yma gan Jamie Kinkeade.

Mae yna lawer o bethau gallet ti roi tro arnynt nes i ti ddarganfod rhywbeth rwyt ti’n mwynhau: mae cerdded, dawnsio, rhedeg, beicio, dosbarthiadau ymarfer corff ac yoga yn bethau gellir eu gwneud yn ystod y cyfyngiadau Covid-19. Chwilia am syniadau ar-lein neu edrycha ar ein herthygl 4 Ffordd i Gadw’n Heini Tra’n Sownd yn y Tŷ.

Rhaglen zoom ar sgrin ffôn ar gyfer erthygl teimladau negyddol

Rhyddhad o siarad

Cadwa gysylltiad gyda ffrindiau a theulu. Mae’r rheolau Covid-19 newydd yn golygu bod posib cyfarfod gydag un cartref arall bellach, yn yr awyr agored, gan gadw pellter cymdeithasol o 2 fedr. Neu gallet ti ffonio, tecstio, defnyddio Zoom, Facebook, Skype, WhatsApp, Snapchat ac ati, ac ati! Beth am drefnu cwis neu chwarae ‘dyfalu’r diwn’?

Ceisio pethau newydd

Rho dro ar rywbeth newydd, efallai rhywbeth o’r rhestr uchod. Mae her yn wych i dynnu sylw oddi wrth ddiflastod dyddiol meddyliau negyddol. Mae dysgu sgil newydd yn dda iawn i’r hunan-barch ac yn gallu rhoi hyder i roi tro ar weithgareddau newydd eraill.

Manylion cyswllt Meic ar gyfer erthygl teimladau negyddol

Siarada â Meic

Ond weithiau, er i ti geisio dy orau glas, gall fod yn anodd tynnu sylw ac anghofio am dy bryderon. Mae Meic yma i helpu. Gallet ti siarad gyda ni am unrhyw beth. Bydd cynghorwyr ein llinell gymorth yn dy helpu i archwilio dy opsiynau ac i gynlluniau’r pethau gallet ti ei wneud i helpu dy hun deimlo’n well. Gallet ti gysylltu ar y ffôn, tecstio neu sgwrsio ar-lein rhwng 8yb a hanner nos bob dydd.

Mae gan Meic llawer iawn o erthyglau i helpu, cer draw i weld ein herthyglau yma, neu edrycha ar erthygl ddiweddar am gadw rheolaeth o’r iechyd meddwl yn ystod yr argyfwng Covid-19.

Gobeithio bod hyn wedi helpu.

Cymera ofal

Y Tîm Meic