x
Cuddio'r dudalen

Coda’r Meic – Crio Drwy’r Adeg Oherwydd Covid-19

Mae Azlan yn cael trafferth gyda’i emosiynau yn ystod y cyfnod anodd yma o aros adref. Mae wedi gofyn am gymorth Coda’r Meic gan nad yw’n gallu stopio crio. Dyma ein cyngor iddo.


Coda’r Meic ydy dy gyfle di i ofyn cyngor am unrhyw beth sy’n dy boeni. Rydym yma i wrando a chynnig cyngor. Mae manylion #codarmeic ar y dudalen hon, ond cofia nad yw’r cyngor yn dod yn syth. Os wyt ti angen cyngor sydyn yna cysyllta â’r llinell gymorth.

(This article is also available in English  – To read this content in English  click here)

Mae gennym sawl erthygl gyda gwybodaeth a chyngor am Covid-19 – edrycha arnynt yma.


Helo Meic,

Rwy’n crio drwy’r adeg. Dwi’n cael trafferth ymdopi yn clywed am y miloedd o bobl sy’n marw. Mae popeth mor ddrwg ar y funud. Fedrwch chi helpu?

Azlan (*enw wedi’i newid i amddiffyn y person)

Cyngor Meic

Diolch am gysylltu gyda Meic. Mae’n ddrwg gen i glywed bod pethau’n anodd i ti ar hyn o bryd, a dy fod di’n teimlo dy fod di’n crio drwy’r adeg. Rwyt ti wedi gwneud y peth cywir yn chwilio am help. Mae’n bwysig ymestyn allan i bobl, i gyfathrebu’r ffordd rwyt ti’n teimlo ac i chwilio am gefnogaeth.

Ydy, mae yna lawer o bobl yn marw o Covid-19 yn y cyfnod yma; mae’n anodd dianc o’r ffaith yma gan mai dyma sydd i’w weld ar gyfryngau cymdeithasol a’r newyddion o hyd. Ond mae’n bwysig cofio bod nifer fawr o bobl yn goroesi’r firws yma, a llwythi o bobl yn profi symptomau gwan iawn yn unig a ddim angen mynd i’r ysbyty.

Erthygl crio Covid - plant yn chwarae

Pethau i wneud i ti deimlo’n well

Mae crio yn ffordd dda i gael gwared ar straen, felly paid bod ofn crio, ond mae yna lawer o bethau gallet ti ei wneud i helpu gyda dy deimladau. Edrycha ar y syniadau yma fel man cychwyn:

  • Cyfynga faint o amser rwyt ti’n ei dreulio ar gyfryngau cymdeithasol neu’n gwylio’r newyddion. Os wyt ti’n gwylio gormod, mae’n anodd peidio meddwl amdano – ac nid yw hyn yn fuddiol iawn i dy iechyd meddwl.
  • Siarada gyda ffrindiau a theulu. Efallai byddi di’n synnu clywed eu bod nhw’n teimlo fel hyn hefyd. Gallech chi gefnogi’ch gilydd.
  • Cwblha dy un darn o ymarfer corff yn yr awyr agored pob dydd. Mae bod yn yr awyr agored yn gallu helpu gyda’r ffordd rwyt ti’n teimlo. Beth am fynd gyda dy ffôn a thynnu lluniau? Efallai bydd gen ti dalent am hyn ac mae yna lawer o apiau tynnu lluniau gallet ti eu lawr lwytho.
  • Ceisia gadw’n heini gartref neu yn yr ardd (os oes gen ti un). Mae llawer o apiau ymarfer corff gellir eu lawr lwytho sydd yn addas ar gyfer pob lefel. Mae ymarfer corff yn creu endorffinau sydd yn gallu helpu gyda sawl peth, gan gynnwys lleihau straen a gwneud i ti deimlo’n hapusach.
  • Gwna rhywbeth rwyt ti’n ei fwynhau – gwranda ar dy hoff gerddoriaeth, rhyddha dy symudiadau dawns gorau, cana ar dop dy lais, chwerthin yn uchel yn gwylio dy hoff raglen comedi ayb.
  • Trefna sgyrsiau grŵp ar alwadau fideo. Mae gweld pobl eraill, hyd yn oed drwy sgwrs fideo, yn gallu bod yn help mawr os wyt ti’n teimlo’n isel. Beth am geisio gwylio ffilm â’ch gilydd ar Netflix Party, neu gyflwyno cwis ar-lein (digon ohonynt ar YouTube).
  • Ceisia ysgrifennu dy deimladau ar bapur, gwagio dy ben o’r holl bethau sydd yn achosi ti i boeni, ac yna ei rwygo’n ddarnau. Dim ond ti fydd yn gweld y rhestr hon felly gallet ti ysgrifennu unrhyw beth, mae’n ffordd o’i ryddhau o dy ben. Waeth i ti roi tro arni!

Cymorth iechyd meddwl a lles ar-lein

Rho amser i chwilio drwy’r holl wybodaeth sydd ar gael i ti ar-lein. Mae llawer o bethau gall helpu, gan gynnwys syniadau hunanofal yn y cyfnod yma.

Mind – Y coronafeirws a dy les

Young Minds – Gofalu am dy iechyd meddwl wrth hunan-ynysu

Y peth pwysicaf sydd angen cofio yw nad fydd hyn yn parhau am byth. Ond yn y cyfnod yma mae angen i ni ofalu am ein hunain yn y ffordd orau bosib. Ni fydd hyn yn hawdd, a bydd yna gyfnodau da a chyfnodau drwg, ond darllena’r cyngor ac edrycha ar y cymorth sydd yn agored i ti. Cofia – nid wyt ti ar ben dy hun.

Os yw’r teimladau yma yn parhau, neu os wyt ti’n teimlo fel bod dy iechyd meddwl yn gwaethygu, yna efallai byddai’n syniad cysylltu â’r doctor am gefnogaeth.

Os hoffet ti gyngor pellach, yna cysyllta â’r tîm yma ar linell gymorth Meic.

Cym ofal

Y Tîm Meic


Galwa Meic

Os wyt ti angen siarad gyda rhywun am unrhyw beth sydd yn dy boeni, yna galwa Meic i siarad gyda chynghorydd cyfeillgar.

Manylion Meic ar gyfer coda'r meic cyfarfod gyda ffrindiau

Mae Meic yn llinell gymorth, gwybodaeth ac eiriolaeth i blant a phobl ifanc 0 i 25 oed yng Nghymru. Rydym yn agored o 8am i hanner nos, 7 diwrnod yr wythnos. Mae posib cysylltu ar y ffôn (080880 23456), neges testun (84001) ac ar y we yn rhad ac am ddim.