x
Cuddio'r dudalen

Coda’r Meic – Sut i Helpu Ffrind Gydag Anhwylder Bwyta?

Mae Suzie yn poeni am ei ffrind a’i harferion bwyta ac yn awyddus i ddeall y ffordd gorau i’w chefnogi gan osgoi gwneud rhywbeth gall waethygu’r sefyllfa. Cysylltodd â Coda’r Meic am gyngor.


Coda’r Meic ydy dy gyfle di i ofyn cyngor am unrhyw beth sy’n dy boeni. Rydym yma i wrando a chynnig cyngor. Mae manylion #codarmeic ar y dudalen hon, ond cofia nad yw’r cyngor yn dod yn syth. Os wyt ti angen cyngor sydyn yna cysyllta â’r llinell gymorth.

This article is also available in English  – To read this content in English – click here


Helo Meic

Mae fy ffrind gydag anhwylder bwyta. Doeddwn i ddim isio gwneud iddi deimlo’n anghyfforddus felly gofynnais pa un oedd ganddi. Atebodd nad oedd enw ar un hi. Weithiau nid yw’n bwyta, diwrnodau eraill dim ond sothach mae’n bwyta, ac yna weithiau mae’n bwyta’n normal. Ond weithiau gall fynd wythnosau heb fwyta llawer, ac mae hyn yn fy mhoeni.

Dwi’n gwybod gall fod yn ddrwg i wneud i rywun fwyta os oes ganddynt anhwylder bwyta. Ond dwi’n poeni cymaint weithiau dwi’n ceisio gwneud iddi fwyta. Dwi’n prynu siocled neu rywbeth bach mae hi’n hoffi ac yn dweud wrthi os ydy hi eisiau neu angen rhywbeth i fwyta yna mae o yna iddi. Weithiau dyw hi ddim yn ei fwyta a dwi’n poeni’n ofnadwy am hyn. Dwi ddim yn gwybod os ydw i’n gallu helpu mewn unrhyw ffordd.

Oes unrhyw beth fedra i wneud i helpu heb wneud y sefyllfa’n waeth iddi?

Suzie*

(*enw wedi’i newid i’w hamddiffyn)

Cyngor Meic

Helo Suzie,

Diolch am gysylltu â Meic a rhannu dy bryderon. Mae’n naturiol i boeni gan y gall anhwylderau bwyta arwain at salwch difrifol os nad yw’n cael ei drin. Gall gael effaith mawr ar ansawdd bywyd rhywun, ac mae’n  gallu cael effaith ar ffrindiau a theulu hefyd wrth iddynt geisio helpu eu hanwyliaid.

Mae dros filiwn o bobl yn dioddef o anhwylder bwyta yn y DU*.

(*ffynhonnell: Beat)

Penderfynu sut i helpu

Mae’n swnio fel dy fod di’n awyddus iawn i gefnogi dy ffrind yn y ffordd gorau gallet ti, ac eisiau deall y ffordd orau i wneud hyn. Rwyt ti wedi dweud dy fod di’n gwybod bod ceisio gwneud i rywun fwyta sydd ag anhwylder bwyta ddim yn syniad da. Ond, rwyt ti’n poeni cymaint am dy ffrind fel dy fod di’n prynu bwyd iddi weithiau ac yn ei hannog i’w fwyta. Mae’r bwriad yn un caredig, ond rwyt ti’n gywir wrth ddweud nad yw’n syniad da i roi pwysau ar rywun sydd ag anhwylder bwyta i fwyta (neu i stopio bwyta os mai dyma yw eu problem nhw). Gall hyn waethygu’r sefyllfa, a chael effaith negyddol ar eu perthynas gyda bwyd, a gyda thi fel ffrind.

Efallai dy fod di’n poeni ac yn teimlo’n anobeithiol wrth weld person rwyt ti’n ei garu’n cael perthynas mor heriol gyda bwyd. Y ffordd orau i’w cefnogi ydy rhoi’r gofod iddynt i wneud penderfyniadau eu hunain.

Pryderon iechyd gydag anhwylderau bwyta

Mae anhwylderau bwyta yn gallu bod yn ddifrifol iawn i iechyd rhywun os nad yw’n cael ei drin. Gall fod yn farwol yn yr achosion mwyaf difrifol. Mae pawb sydd ag anhwylder bwyta yn wahanol, ond bydda’n ymwybodol o’r arwyddion yma:

  • Maent yn edrych yn sâl iawn
  • Calon yn curo’n sydyn iawn
  • Cwyno o boen yn y stumog
  • Yn cyfogi (teimlo’n sâl) neu yn taflyd i fyny

Os wyt ti’n sylweddoli ar unrhyw un o’r arwyddion yma, yna mae angen chwilio am gymorth meddygol mor sydyn â phosib. Eglura eu bod yn dioddef gydag anhwylder bwyta.

Derbyn cefnogaeth gydag anhwylder bwyta

Ydy dy ffrind wedi siarad gyda rhywun arall am hyn heblaw amdanat ti? Os ddim, yna mae’n annhebyg ei bod yn derbyn unrhyw gefnogaeth broffesiynol eto.

Mae bod ag anhwylder bwyta yn ofidus i’r person sydd yn dioddef yn ogystal â’r rhai sydd yn poeni amdanynt. Efallai nad yw’n deall y ffordd orau i reoli ei salwch na pha gymorth sydd ar gael iddi. Mae yna lawer o gymorth proffesiynol ar gael i bobl sydd yn dioddef o anhwylder bwyta. Os wyt ti’n poeni am dy ffrind, rhaid i ti ei hannog i chwilio am driniaeth cyn gynted â phosib. Bydd hyn yn sicrhau’r cyfle gorau iddi wella. Rho ychydig o anogaeth ysgafn i fynd i siarad â’r doctor neu oedolyn arall mae’n gallu ymddiried ynddynt. Gallen nhw ei helpu i gymryd y cam cyntaf tuag at wella. Os nad yw dy ffrind yn sicr sut i rannu ei phroblem â rhywun, yna dangosa ein blog iddi, Sut i Gychwyn Sgwrs i Rannu Problem.

Cefnogi dy ffrind

Mae dysgu mwy am anhwylderau bwyta, a’r ffordd orau i gefnogi rhywun sydd yn dioddef, yn ffordd dda i helpu dy ffrind. Mae gan Beat, yr elusen anhwylder bwyta cenedlaethol, wybodaeth, cyngor a chefnogaeth wych i rai sydd yn dioddef a’r rhai sydd yn poeni amdanynt. Maent yn cynnal llinell gymorth hefyd, sydd yn agored bob dydd i siarad gyda chynghorydd wedi ei hyfforddi i roi gwybodaeth a chyngor.

Rwyt ti’n helpu  dy ffrind wrth fod yno iddi a gwrando. Mae bod yn ffrind da yn rôl gefnogol iawn, ac rwyt ti’n helpu wrth fod yno iddi ar ei siwrne gymaint ag y gallet ti. Sicrha dy fod di’n gofalu am dy hun hefyd. Mae dy iechyd a lles di yn bwysig iawn er mwyn i ti fedru parhau i gefnogi dy ffrind. Os oes rhaid i ti gymryd brêc bach o’r holl gefnogaeth i ofalu am dy hun, mae hynny’n berffaith iawn, ac ni ddylet ti deimlo’n euog am y peth. Mae gofalu am dy hun yn golygu y byddi di mewn lle da i gefnogi dy ffrind yn well.

Paid digalonni

Os nad yw rhywun eisiau gwrando ar dy gyngor a chefnogaeth yna mae’n anodd iawn bod yn gefnogol. Nid dy fai di yw hyn. Mae’n rhaid i dy ffrind fod yn barod i benderfynu ei bod am wella a chwilio am help proffesiynol. Rwyt ti’n gwneud dy orau wrth fod yno iddi, yn barod i wrando, cefnogi a bod yn ffrind da.

Os wyt ti angen siarad gyda chynghorydd cyfeillgar am hyn, neu unrhyw beth arall sydd yn dy boeni, yna mae Meic yn rhywun ar dy ochr di, bob dydd, ar y ffôn, neges testun neu sgwrs ar-lein (manylion isod.) Mae Meic yn llinell gymorth i blant a phobl ifanc hyd at 25 oed, yn cynnig gwybodaeth, cyngor a chefnogaeth am ddim a chyfrinachol.

Gwybodaeth bellach

Beat – Gwybodaeth, cyngor a chefnogaeth anhwylderau bwyta, ymwela â gwefan Beat neu galwa’r llinell gymorth 0808 8010433.