x
Cuddio'r dudalen

Coda’r Meic: Pwysau Yn Fy Ngwneud Yn Anhapus

Mae defnyddiwr Meic yn anhapus gyda’i phwysau ac wedi gofyn am gyngor yn Coda’r Meic yr wythnos hon. Darllena ein cyngor isod.

Coda’r Meic ydy dy gyfle di i ofyn cyngor am unrhyw beth sy’n dy boeni. Rydym yma i wrando a chynnig cyngor. Mae manylion #codarmeic ar y dudalen hon, ond cofia nad yw’r cyngor yn dod yn syth. Os wyt ti angen cyngor sydyn yna cysyllta â’r llinell gymorth. Gellir darllen yr erthygl yma yn Saesneg hefyd – To read this content in English click here.

Helo Meic,

Rwyf yn hunanymwybodol iawn am fy mhwysau ac angen help a chefnogaeth gan rywun. Ni fedraf wneud hyn ar ben fy hun.

Cyngor Meic

Helo ‘na, Diolch am gysylltu gyda ni yma yn Meic. Mae’n ddrwg gen i glywed am y ffordd rwyt ti’n teimlo ar hyn o bryd; gall fod yn anodd iawn pan fyddi di’n anhapus gyda dy bwysau neu edrychiad. Gall fod yn anodd gweld delweddau perffaith o ferched mewn ffilmiau, cylchgronau a chyfryngau cymdeithasol, ond cofia bod pobl yn dod ymhob siâp a maint, ac mae syniad o brydferthwch yn wahanol i bawb. Y newyddion da ydy bod yna ddigon o gefnogaeth allan yna os wyt ti am wneud newidiadau a chael yn iachach. Rwyt ti yn y man cywir i ddarganfod beth sydd o gwmpas i helpu .:)

Ymweld â’r doctor

Os wyt ti’n poeni am dy bwysau ac yn poeni am dy iechyd yna’r lle gorau i gychwyn ydy ymweld â’r doctor. Gallant gynnig cefnogaeth a chymorth i ti. Os wyt ti’n teimlo’n hyderus yna gallet ti fynd ar ben dy hun, os ddim, gallet ti ofyn i riant neu warchodwr i fynd gyda thi. I gael diet cytbwys fel person ifanc mae’n bwysig i gael yr holl faeth a fitaminau sydd ei angen ar gorff sy’n datblygu. Dyma pam dylet ti sgwrsio gyda’r doctor cyn gwneud unrhyw newidiadau llym; byddant yn gallu helpu ti i edrych ar dy ddiet i weld os oes pethau sydd angen eu newid. Edrycha ar y dudalen Bwyta’n Iach i Bobl Ifanc ar adran Live Well gwefan y GIG. Mae hwn yn dudalen i ddysgu mwy am fwyta’n iach a chael diet cytbwys. cerdded CM Pwysau Yn Fy Ngwneud Yn Anhapus

Ymarfer corff a hunan-barch

Mae’n debyg bod gen ti hunan-barch isel hefyd. Mae cyflwyno ychydig o ffitrwydd i dy ffordd o fyw yn ffordd wych i roi hwb i’r hunan-barch ac i gael yn iach. Nid oes rhaid talu ffioedd ymarfer corff drud, mae yna lawer o ffyrdd i gadw’n heini sydd yn rhad ac am ddim, edrycha ar rai o’r syniadau yma o wefan y GIG. Mae cychwyn cadw’n heini, yn enwedig os yw hyn yn newydd i ti, yn gallu bod yn llethol i gychwyn. Cychwynna gyda gweithgareddau llai a gweithio tuag at gynyddu dy ffitrwydd. Gall cerdded bob dydd fod yn ffordd dda i gychwyn. Os wyt ti eisiau ymuno â chlwb chwaraeon neu ddosbarth cadw’n heini, ond yn teimlo ychydig yn nerfus, yna efallai gallet ti fynd gyda ffrind. Mae cadw’n heini yn gallu bod yn haws os wyt ti’n cymdeithasu hefyd.

Gofalu am y meddwl yn ogystal â’r corff

Nid y corfforol sydd bwysicaf bob tro; weithiau mae pobl yn cael trafferth ymdopi gyda theimladau tuag at eu hunain a’u hedrychiad. Os wyt ti’n teimlo fel bod hyn yn wir i ti, yna efallai ei fod yn syniad da i siarad gyda rhywun am y peth. Gallet ti gychwyn wrth siarad gyda rhywun rwyt ti’n ymddiried ynddynt, fel ffrind da, rhiant/gwarchodwr neu’r doctor hyd yn oed. Os yw hyn yn ormod i ti ar hyn o bryd, yna beth am gysylltu gyda ni yn gyfrinachol ar linell gymorth Meic. Mae posib galw, gyrru neges testun neu negeseuo ar y we, a gallem helpu i weithio pethau allan, ac edrych ar y llefydd gorau i gael cymorth. Meddylia am yr hyn hoffet ti ei wneud a chysyllta’n ôl ar y llinell gymorth os wyt ti angen mwy o gymorth neu gefnogaeth. Rydym yn agored 7 diwrnod yr wythnos, 8yb tan hanner nos. Cymer ofal Y Tîm Meic

Galwa Meic

Os wyt ti angen siarad gyda rhywun am unrhyw beth sydd yn dy boeni, yna galwa Meic i siarad gyda chynghorydd cyfeillgar.

Mae Meic yn llinell gymorth, gwybodaeth ac eiriolaeth i blant a phobl ifanc 0 i 25 oed yng Nghymru. Rydym yn agored o 8am i hanner nos, 7 diwrnod yr wythnos. Mae posib cysylltu ar y ffôn (080880 23456), neges testun (84001) ac ar y we yn rhad ac am ddim.