Coda’r Meic – Sut i Gynilo Arian ar Gyfer Teithio
Mae Joel eisiau teithio gyda ffrindiau ond ddim yn sicr sut i ddechrau cynilo. Cysylltodd â Coda’r Meic am gyngor.
Coda’r Meic ydy dy gyfle di i ofyn cyngor am unrhyw beth sy’n dy boeni. Rydym yma i wrando a chynnig cyngor. Mae manylion #codarmeic ar y dudalen hon, ond cofia nad yw’r cyngor yn dod yn syth. Os wyt ti angen cyngor sydyn yna cysyllta â’r llinell gymorth (manylion ar y gwaelod).
Helo Meic,
Hoffwn ddechrau safio arian i fynd i ffwrdd gyda ffrindiau, ond ble mae cychwyn?
Joel*
(*rydym yn newid yr enw yn ein blog Coda’r Meic bob tro er mwyn amddiffyn y person rhag cael ei adnabod)
Cyngor Meic
Helo Joel,
Gall teithio gyda ffrindiau fod yn brofiad anhygoel. Mynd i ffwrdd gyda dy ffrindiau agosaf a chael profiadau gwych, bythgofiadwy. Mae gennym gyngor os wyt ti’n meddwl am gynllunio dy wyliau grŵp cyntaf.
Cam 1 – Cytuno ar gyllideb
Wrth gynllunio gwyliau grŵp neu deithio gyda ffrindiau, y peth cyntaf sydd angen ei benderfynu yw’r gyllideb. Faint mae pawb yn gallu fforddio? Mae’n syniad da rhestru popeth sydd angen meddwl amdano cyn mynd. Fel:
- Arian teithio
- Yswiriant teithio
- Llety
- Stwff ymolchi
- Teithio (awyren neu gostau petrol)
- Dillad nofio a gwyliau
- Brechiadau teithio (efallai bod rhai o’r rhain ddim ar gael am ddim gan y GIG)
Cyngor: Os wyt ti’n meddwl teithio am gyfnod hirach, efallai bod yswiriant teithio flynyddol yn opsiwn gwell.
Cam 2 – Darganfod lleoliad(au)
Creu rhestr fer o lefydd hoffet ti fynd iddynt. Mae hyn yn dibynnu ar ba mor hir rwyt ti’n bwriadu mynd i deithio. Edrycha pa mor hir fydd y siwrne yn ei gymryd a pa mor hir gallech chi ymlacio a mwynhau eich hunain, a chychwyn o fan yna.
Yn gyffredinol, mae unrhyw un dan 18 oed angen teithio gydag oedolyn. Mae hyn yn ddibynnol ar y lleoliad rwyt ti’n teithio iddo. Edrycha ar reolau’r cwmni awyrennau wrth ymchwilio.
Dylet ti hefyd feddwl am gostau dydd i ddydd tra i ffwrdd. Gall y rhain fod yn:
- Tripiau
- Trît gwyliau
- Adloniant
- Bwyd a diod
Adia’r costau yma at ei gilydd, a dyma ti dy nod cynilo!
Cyngor: Wrth ymchwilio lleoliad, edrycha ar sut mae’r £ yn cymharu i arian y wlad yna.
Sut i gynilo arian
Bydda’n realistig. Mae cysondeb yn bwysig. Mae’n well cynilo swm bach yn aml a gweithio’n araf i gyrraedd y nod.
Ei droi’n weledol wrth dracio cynnydd ar siart. Rho rywbeth ar yr oergell neu wal yr ystafell wely, neu lawr lwytho app sydd yn tracio popeth i ti.
Creu debyd uniongyrchol neu archeb reolaidd i gymryd swm penodol o dy gyfrif yn awtomatig bob mis a’i osod mewn cyfrif cynilo. Mae’n dileu’r drafferth o gofio ac mae’n gwneud hyn cyn i ti gael cyfle i wario’r arian!
Cynllunio dy gyllideb wrth ddefnyddio Cynlluniwr Cyllideb Helpwr Arian.
Gwybodaeth bellach
Mae mynd i ffwrdd am y tro cyntaf heb yr oedolion yn dy fywyd yn gyffrous iawn, ond mae’n gallu gorlethu rhywun gyda llawer o lefydd gwahanol yn cynnig cyngor. Cer i weld y dolenni isod sydd yn rhoi gwybodaeth bellach i helpu ti i baratoi.
- Mynd ar wyliau heb dy rieni – The Mix
- Yswiriant Teithio – The Mix
- Brechiadau teithio – GIG
- Cyngor i bobl ifanc sy’n mynd ar wyliau – ABTA
- Rhestr gwirio teithio dramor – GOV.UK
Siarad â Meic
Mae cynilo arian yn gallu bod yn her i nifer. Gobeithiwn bydd yr awgrymiadau uchod yn helpu, ond os hoffet ti siarad ymhellach am y peth, gallet ti gysylltu â Meic rhwng 8yb a hanner nos ar y ffôn, tecst, neu sgwrs ar-lein.
Cymera ofal a bon voyage,
Y Tîm Meic