x
Cuddio'r dudalen

Coda’r Meic: Ddim Yn Cael Ffôn Symudol

Beth os mai ti yw’r unig un yn dy flwyddyn heb ffôn symudol? Sut gallet ti berswadio dy rieni? Dyma’r sefyllfa yn Coda’r Meic yr wythnos hon. Dyma’n cyngor.

Coda’r Meic ydy dy gyfle di i ofyn cyngor am unrhyw beth sy’n dy boeni. Rydym yma i wrando a chynnig cyngor. Mae manylion #codarmeic ar y dudalen hon, ond cofia nad yw’r cyngor yn dod yn syth. Os wyt ti angen cyngor sydyn yna cysyllta â’r llinell gymorth.

 To read this content in English click here.

Helo Meic,

Dwi ym mlwyddyn 7 ac eisiau ffôn symudol fel pawb arall yn fy mlwyddyn. Fi yw’r un rhyfedd yn yr ysgol am beidio cael un, ond dydy mam a dad ddim yn gadael i mi. Mae’n annheg! Sut mae dwyn perswâd arnynt  i ganiatáu i mi gael un?

Cyngor Meic

Diolch i ti am gysylltu gyda ni yma yn Meic. Gall deimlo’n annheg iawn pan fydd rhieni’n gwneud penderfyniad nad wyt ti’n hoff ohono, ond yn aml mae yna resymau da iawn.

Deall y rhesymau

Wyt ti wedi siarad gyda nhw am pam nad wyt ti’n cael ffôn symudol ar hyn o bryd? Efallai bod yna sawl rheswm dros wneud y penderfyniad yma. Rwyt ti’n teimlo fel y byddai ffôn yn rhoi mwy o annibyniaeth i ti ac yn gadael i ti fod yr un peth â phobl eraill o’r un oedran. Efallai bod dy rieni yn teimlo fel y bydd hyn yn dy roi mewn perygl, neu’n rhy ddrud. Efallai gallet ti edrych ar bethau o’u safbwynt nhw? Hyd yn oed os nad fyddant yn newid eu meddwl, o leiaf bydd gen ti ddealltwriaeth well o’r rhesymau pam.

Bydda’n gyfrifol

Efallai bod ffôn symudol yn ychydig o dechnoleg hwylus i ti, ond gall hyn fod yn eitem ddrud iawn i dy rieni. Mae ffonau clyfar, hyd yn oed y rhai rhataf, yn gallu bod yn ddrud iawn i’w prynu. Maent yn ddrud iawn i’w cadw hefyd, ac yn ddrytach eto os yw’n torri, yn mynd ar goll neu’n cael ei ddwyn.

Cyn i ti ofyn eto wrth dy rieni, beth am ystyried y pethau rwyt ti ei angen o ffôn symudol, a’r rhesymau am gael un. Meddylia am y buddion i ti yn ogystal ag iddyn nhw. Noda’r rhain i lawr a’i roi iddynt. Er esiampl, os mai cadw mewn cysylltiad ydy dy reswm dros gael ffôn, yna efallai gallet ti ddod i gytundeb a chael model mwy syml. Os gallet ti brofi dy allu i’w ddefnyddio a gofalu amdano’n gyfrifol, yna efallai bydd dy rieni yn ail-ystyried ac yn uwchraddio dy ffôn yn y dyfodol.

cadw-mi-gei cynilo am ffôn symudol

Cynilo

Os mai’r pris mawr sydd yn achosi dy rieni i ddweud na, yna gallet ti gynnig cynilo arian i’w brynu. Bydd hyn yn dangos iddynt dy fod di’n barod i gyfaddawdu. Mae cynnig cynilo i brynu ffôn  dy hun yn dangos lefel o aeddfedrwydd. Efallai bydd hyn yn dwyn perswâd arnynt dy fod di’n barod am ffôn symudol. Mae’n dangos hefyd dy fod di’n deall gwerth y fath eitem.

Diogelwch yn gyntaf

Efallai nad costau yw rheswm dy rieni am ddweud na o gwbl. Gallan nhw fod yn poeni am y peryglon sydd ynghlwm â defnyddio ffôn symudol. Os mai dyma’r gwir, yna beth am i ti ymchwilio’r peryglon dy hun. Bydd hyn yn dangos lefel o aeddfedrwydd a bod gen ti ymwybyddiaeth o’r peryglon. Mae’n wir fod yna beryglon ynghlwm â ffônau symudol: camdriniaeth, lladrad hunaniaeth, bwlio ar-lein ayb. Fel person ifanc, mae’n bwysig i ti fod yn ymwybodol o’r peryglon yma cyn, ac yn ystod, dy ddefnydd o ffôn symudol.

Os wyt ti’n gallu dangos i dy rieni dy fod di wedi gwneud ymdrech i ymchwilio’r peryglon yma, a’u deall, yna bydd hyn yn helpu ti i aros yn ddiogel ac i roi hyder i dy rieni yn dy gyfrifoldeb.

Ymwela â gwefan Safety Net Kids am gyngor ar sut i aros yn ddiogel ar ffôn symudol yn ogystal ag aros yn ddiogel ar-lein. Efallai gallet ti edrych ar y wybodaeth yma gyda dy rieni. Gallech chi gytuno rheolau ar gyfer defnyddio’r ffôn.

Edrychwch ar rai o hen erthyglau Meic am sut i aros yn ddiogel ar raglenni penodol. Mae gennym wybodaeth a chyngor am beryglon SnapMap, gyrru lluniau noeth, gosodiadau preifatrwydd Facebook a secstio ac ecsploetiaeth rywiol.

Dewisiadau eraill

Os mai diogelwch ydy prif bryder dy rieni, ond dy fod di’n berson dyfeisiau mawr, yna efallai gallech chi ddod i gytundeb ar dabled? Bydd posib i ti gael mynediad i’r un rhaglenni hwyl fel y ffonau clyfar ond bydd dy rieni yn gallu cadw golwg arnat ti’n haws. Gallant roi rheolyddion rhiant ar y ddyfais a sicrhau ei fod yn aros yn y tŷ.

Os nad yw hyn i gyd yn perswadio dy rieni i adael i ti gael ffôn symudol, yna bydd rhaid i ti fod yn amyneddgar. Efallai bod angen mwy o amser arnynt i ddod i arfer â’r syniad. Yn y cyfamser, parha i ddysgu mwy am gadw’n ddiogel. Bydd hyn yn helpu i amddiffyn ti ac i brofi iddyn nhw dy fod di’n gyfrifol ac yn barod am ffôn symudol.

Dymuniadau gorau

Y Tîm Meic

Galwa Meic

Os wyt ti angen siarad gyda rhywun am unrhyw beth sydd yn dy boeni, yna galwa Meic i siarad gyda chynghorydd cyfeillgar.

Mae Meic yn llinell gymorth, gwybodaeth ac eiriolaeth i blant a phobl ifanc 0 i 25 oed yng Nghymru. Rydym yn agored o 8am i hanner nos, 7 diwrnod yr wythnos. Mae posib cysylltu ar y ffôn (080880 23456), neges testun (84001) ac ar y we yn rhad ac am ddim.