x
Cuddio'r dudalen

Amdanom Ni

Angen gwybodaeth? Angen cyngor? Angen cefnogaeth?


Cysyllta â Meic.

Meic ydy’r gwasanaeth llinell gymorth i blant a phobl ifanc hyd at 25 oed yng Nghymru.

O ddarganfod beth sydd yn digwydd yn dy ardal leol i helpu ymdrin â sefyllfa anodd, bydd Meic yn gwrando pan fydd neb arall yn barod i wneud. Nid ydym yn barnu a gallem helpu wrth gynnig gwybodaeth, cyngor defnyddiol a chynnig cefnogaeth i wneud newidiadau yn dy fywyd.

Cysyllta â ni yn Gymraeg neu’n Saesneg – dy ddewis di! Rydym yn agored 8yb i hanner nos, 7 diwrnod yr wythnos. Gallet ti gysylltu ar y ffôn, neges testun neu sgwrs ar y we. Rydym yn gyfrinachol ac nid oes rhaid i ti roi enw. Mae’r gwasanaeth yn rhad ac am ddim i bawb.

Meic – Rhywun ar dy ochr di

Rhadffôn: 080880 23456
Neges Testun: 84001
Sgwrsio ar y we: www.meic.cymru