x
Cuddio'r dudalen

Coda’r Meic: Pam Ydw i’n Teimlo’n Drist Drwy’r Adeg?

Mae’r mwyafrif ohonom yn gallu teimlo’n drist weithiau. Cysylltodd Katie â Coda’r Meic am ei theimladau o dristwch. Dyma gyngor Meic i helpu.


Coda’r Meic ydy dy gyfle di i ofyn cyngor am unrhyw beth sy’n dy boeni. Rydym yma i wrando a chynnig cyngor. Mae manylion #codarmeic ar y dudalen hon, ond cofia nad yw’r cyngor yn dod yn syth. Os wyt ti angen cyngor sydyn yna cysyllta â’r llinell gymorth.

This article is also available in English  – to read this content in English click here


Helo Meic,

Nid ydw i’n gwybod beth sydd yn bod arna i, dwi’n teimlo mor isel. Mae pobl yn dweud, “dy fislif di yw e’” ond dwi’n meddwl ei fod yn fwy na hynny. Dwi’n teimlo mor drist drwy’r adeg.

Katie (*enw wedi ei newid i amddiffyn preifatrwydd)

Cyngor Meic

Helo Katie,

Mae’n ddrwg iawn gen i glywed dy fod di’n teimlo’n drist drwy’r adeg. Nid yw’n iawn i ti deimlo fel hyn ac mae’n siŵr bod bywyd yn eithaf diflas oherwydd hyn. Ond mae yna bethau gallet ti ei wneud i geisio newid pethau.

Adnabod patrwm

Mae pawb yn cael cyfnodau pan fyddem yn teimlo hwyliau isel, yn teimlo’n drist neu’n anhapus am fywyd. Fel arfer nid yw hyn yn ddigon i’n hatal rhag byw bywyd normal, ond gall pethau ymddangos yn anoddach ac nad yw werth yr ymdrech.

Fel arfer, diolch byth, mae’r teimladau yma yn diflannu ar ôl cyfnod ac rydym yn dychwelyd i fod yn ‘ni’ unwaith eto. Ond, mae’n syniad da i chwilio am batrwm pan fydd hyn yn digwydd. Oes yna rywbeth y gwnes di, rywbeth ddigwyddodd, rhywun y gwelais di ayb. a wnaeth i ti deimlo fel hyn? Os wyt ti’n ymwybodol o’r hyn sydd yn achosi i ti deimlo fel hyn yna efallai bydd yn gwneud mwy o synnwyr i ti. Mae posib paratoi os yw’n digwydd eto, a dysgu sut i reoli’r teimladau yn well.

Merch yn pwyso ar ei breichiau yn edrych yn drist.

Iselder

Mae iselder yn wahanol i hwyliau isel a bod yn drist. Mae’n gallu gwneud ein bywydau yn anodd iawn i’w reoli. Mae perthnasau gyda theulu a ffrindiau yn gallu dioddef, gall amharu ar yr ysgol, gwaith neu fywyd cymdeithasol a gall fod mor ddrwg fel nad oes gen ti unrhyw ddiddordeb yn gwneud unrhyw beth.

Os yw hyn yn swnio fel ti yna’r peth cyntaf i ti ei wneud ydy sicrhau nad oes rheswm corfforol. Weithiau gall rhywbeth fod o’i le yn gorfforol sydd yn gwneud i ti deimlo fel hyn, ac nid wyt ti’n sylweddoli ar yr effaith mae’n gallu cael ar dy iechyd meddwl. Cysyllta â dy feddyg teulu fydd yn gallu helpu.

Cofnodi

Os nad oes problem gorfforol yna syniad da fydda i feddwl yn galed iawn am yr hyn fydda’n gallu bod yn rheswm dros deimlo mor isel. Gall cadw dyddiadur helpu gyda hyn. Wrth edrych yn ôl dros yr hyn cofnodwyd, efallai byddi di’n sylweddoli ar rywbeth fydd yn gwneud pethau ychydig yn fwy amlwg.

Cyngor i geisio teimlo’n well

Os nad yw’r uchod wedi helpu, ac nid wyt ti’n gallu meddwl am reswm dy fod di’n teimlo’n isel, yna ceisia feddwl am y pethau gallet ti eu gwneud i geisio teimlo’n well. Dyma ychydig o syniadau i roi tro arnynt:

Merch yn cysgu ar gyfer erthygl teimlo'n drist

Cysgu

Mae angen digon o gwsg o ansawdd dda. Sicrha bod holl dechnoleg yn cael ei ddiffodd o leiaf awr cyn i ti geisio cysgu. Dyma erthygl ar Meic: Cyngor Cysgu’n Well


Bwrdd torri llysiau gyda chyllell arno a llysiau o'i amgylch

Bwyta

Bwyta diet iach a chytbwys. Ceisia sicrhau dy fod di’n cael cymysgedd dda o’r holl grwpiau bwyd. Edrycha ar y canllaw Bwyta’n Dda.


Girl yn ystwytho ar y llawr ar gyfer erthygl teimlo'n drist

Symud

Maent wedi profi bod cadw’n heini yn gallu gwella ein hiechyd corfforol a meddyliol. Nid oes rhaid ymuno â gym neu ddechrau rhedeg marathonau – cychwynna gyda cherdded, mynd ar gefn beic neu gicio pêl. Darganfydda’ rywbeth fydd yn gwneud cadw’n heini’n hwyl, fel nad yw’n teimlo fel gwaith diflas. Cer draw i’r erthygl yma ar The Mix sydd yn trafod sut gall cadw’n heini drechu pryder ac iselder.


rhwyun yn dal beiro ac yn ysgrifennu mewn llyfr ar gyfer erthygl teimlo'n drist

Ysgrifennu

Cadw dyddiadur o ddiolchgarwch. Mae yna rywbeth i fod yn ddiolchgar amdano mewn bywyd o hyd. Bydd cofnodi hyn ar bapur yn caniatáu i ti feddwl am y pethau da yn dy fywyd a gall helpu ti i deimlo’n fwy positif.


Tri merch mewn penwisg yn tynnu selffi ac yn gwenu

Cwmni

Treulia amser gyda’r bobl sydd yn gwneud i ti deimlo’n dda. Gall egni da a phositif gael effaith arnat ti yn yr un ffordd y mae teimladau negyddol person yn gallu gwneud i ti deimlo’n isel. Treulia amser gyda’r bobl sydd yn gwneud i ti deimlo’n hapusach.


Targed gyda dart yn y canol ar gyfer erthygl teimlo'n drist

Targedau

Gosod targedau a gweithio tuag atynt. Gall cyflawni targedau roi teimlad gwych o gyflawniad ac mae hyn yn gallu gwneud i ti deimlo’n hapusach.


Awyren bapur a mwg wedi'i greu o bapur melyn

Creadigrwydd

Gwna rywbeth creadigol. Beth am ddysgu rhywbeth newydd? Mae cadw’n brysur wrth ddysgu a bod yn greadigol yn gallu rhoi teimlad o gyflawniad a gwella hwyliau isel.


botwm ymlaen a diffodd ffôn symudol

Diffodd

Treulia lai o amser ar gyfryngau cymdeithasol. Er ein bod yn ymwybodol bod pobl yn rhannu’r darnau gorau o fywyd (wedi’u golygu) mae’n dal i fedru gwneud i ni deimlo’n isel. Paid cymharu dy fywyd i’r rhai afrealistig ar-lein. Dysga beth sy’n wir a beth sydd ddim yn ein herthygl: Ydy’r Hyn Ti’n Weld Ar Instagram Yn Wir?


Dau ferch yn siarad dros baned ar gyfer erthygl teimlo'n drist

Siarad

Dweud wrth rywun sut rwyt ti’n teimlo a rhoi cyfle iddynt gynnig cefnogaeth. Nid allent helpu os nad ydynt yn gwybod. Dweud wrth ffrind, teulu neu rywun gallet ti ymddiried ynddynt. Neu gallet ti gysylltu â chynghorwyr cyfeillgar Meic, rydym yma i wrando a helpu yn gyfrinachol ac am ddim. Ffonia, tecstia neu sgwrsia ar-lein rhwng 8yb a hanner nos bob dydd.


Cer draw i’r dudalen GIG yma i weld symptomau hwyliau isel ac iselder, beth i wneud a ble i gael cymorth. Mae gan Young Minds gyngor gwych ar iselder, y symptomau a sut i’w drin hefyd.

Cymera ofal

Tîm Meic