x
Cuddio'r dudalen

Coda’r Meic: Sut Ydw i’n Gwybod Pa Swydd Dwi Eisiau?

Mae Dewi yn meddwl am ei ddyfodol ac yn poeni nad yw’n gwybod beth mae am ei wneud fel swydd. Cysylltodd â Coda’r Meic am gyngor.

Coda’r Meic ydy dy gyfle di i ofyn cyngor am unrhyw beth sy’n dy boeni. Rydym yma i wrando a chynnig cyngor. Mae manylion #codarmeic ar y dudalen hon, ond cofia nad yw’r cyngor yn dod yn syth. Os wyt ti angen cyngor sydyn yna cysyllta â’r llinell gymorth.

Helo Meic,

Dwi ddim yn gwybod pa swydd dwi eisiau ei wneud. Allech chi helpu?

Diolch

Dewi

Cyngor Meic

Helo ‘na, diolch am gysylltu. Felly, rwyt ti eisiau darganfod beth i wneud fel gwaith. Mae peidio gwybod beth rwyt ti eisiau gwneud â dy fywyd yn beth hollol arferol, ac mae’n gallu digwydd ar unrhyw gam o dy fywyd gwaith.

Mae’r mwyafrif ohonom yn adnabod rhywun sydd yn ymddangos fel eu bod yn gwybod yn union pa swydd neu yrfa yr hoffant. Gall hyn achosi pryder os wyt ti’n berson sydd heb yrfa yr wyt ti’n gweithio tuag ato mewn golwg. Ond nid yw’r mwyafrif o bobl yn gwybod pa swydd sy’n ddelfrydol iddynt. Hyd yn oed pan fyddant yn gwybod, efallai eu bod yn newid eu meddwl ar ôl cael blas o hynny.

Efallai dy fod di yn yr ysgol o hyd ac yn meddwl am yrfa yn y dyfodol. Efallai dy fod di wedi gadael yr ysgol eisoes heb gynllun pendant am yr hyn rwyt ti eisiau gwneud. Neu efallai bod pethau ddim wedi digwydd fel yr oeddet ti wedi’i obeithio. Beth bynnag yw’r sefyllfa, mae digon o bethau rhagweithiol gallet ti ei wneud i gael blas a gweld yr hyn rwyt ti’n dda yn gwneud ac yn ei fwynhau.

Friends Connection Digital Devices Technology Network Concept

Ble i gychwyn

Gall darganfod y swydd i ti fod yn anodd heb wybod beth rwyt ti’n chwilio amdano. Mae’n gallu achosi rhywun i boeni a theimlo’n nerfus. Ond, mae dy feddylfryd yn rhywbeth pwysig rwyt ti yn gallu rheoli. Gallet ti ystyried y broblem yma fel cyfle gwych i roi tro ar rywbeth newydd ac arbrofi.

Ffeiriau swyddi, Canolfannau Gwaith a Chynghorwyr Gyrfa

Y peth cyntaf rhagweithiol gallet ti ei wneud yw ymchwilio dy opsiynau. Yn lle sgrolio trwy restrau hir o swyddi, beth am geisio chwilio am gyflogwyr, cynghorwyr a mentoriaid a siarad â nhw am y math o waith rwyt ti’n mwynhau, dy sgiliau, a’r math o amgylchedd hoffet ti weithio ynddi? Mynycha ffeiriau swyddi, cer draw i dy ganolfan waith lleol neu gwna apwyntiad gyda Chynghorydd Gyrfa trwy Gyrfa Cymru. Gallet ti gael gwaith dros dro (tempio) trwy asiantaeth i gael profiad mewn maes penodol.

Prentisiaethau ac interniaethau

Mae prentisiaeth yn llwybr poblogaidd i amryw yrfaoedd. Byddi di’n dysgu’r hyn sydd ei angen i wneud swydd sydd angen sgiliau penodol ac yn ennill cyflog ar yr un pryd. Os wyt ti’n astudio ar gyfer gradd neu wedi graddio’n ddiweddar, mae interniaeth yn ffordd wych o ennill profiad sy’n ymwneud â dy radd.

Airport, travel and portrait of woman with passport, flight ticket or information of immigration, journey and backpack. Young person, identity document and international registration. faq or about us.

Gwaith contract lefel mynediad a theithio

Os na fedri di ymrwymo dy hun i gynllun hir dymor ar hyn o bryd, efallai byddai’n syniad i ti fwynhau dy waith ac ennill sgiliau trosglwyddadwy ar yr un pryd. Mae yna nifer o swyddi sydd yn cynnig cyfleoedd i weithio wrth deithio neu gael profiadau newydd lle nad oes rhaid ymrwymo’n hirdymor. Mae llawer ohonynt yn cychwyn ar lefel mynediad, felly nid oes angen datblygu sgiliau i wneud cais. Gallet ti ystyried swyddi mewn ysgolion iaith, canolfannau gweithgareddau, neu drefnydd digwyddiadau, i restru dim ond rhai. Yn aml, mae’r rhain yn ffordd dda i gyfarfod pobl newydd a chyffrous, cael newid golygfa, a deall yr hyn rwyt ti am wneud nesaf. Mae rhai pobl yn symud o gytundeb i gytundeb am gyfnod, fel gyrfa fach.

Gwirfoddoli

Mae gwirfoddoli yn gyfle i ehangu dy brofiadau a dy sgiliau. Mae yna sawl mantais i wirfoddoli, gan gynnwys tyfu sgiliau, profiad a chysylltiadau. Bydd faint o amser rwyt ti’n treulio’n gwirfoddoli, a pa mor ymglymedig wyt ti, yn ddibynnol ar dy sefyllfa, ond mae’n syniad da chwilio o gwmpas a rhoi cynnig ar bethau. Cer draw i wefan Gwirfoddoli Cymru am gyngor a syniadau, neu gall Meic helpu wrth roi ti mewn cysylltiad â dy Ganolfan Gwirfoddoli lleol.

Portrait of Professional Asian young male tailor with measuring tape on neck working on laptop with drawings background in studio. Designer and LGBTQ Concept.

Gweithio i dy hun

Nid yw gweithio i rywun arall at ddant pawb. Efallai bod gen ti syniad gwych ar gyfer busnes neu fod gen ti’r sgiliau a’r egni i fod yn llawrydd. Mae bod yn hunangyflogedig yn cyflwyno heriau, a byddai’n syniad rhoi tro ar swyddi eraill gyntaf, fel bod gen ti ychydig o brofiad cyn mynd ati ar ben dy hun. Ond, os wyt ti’n meddwl bod hyn yn rhywbeth fydda’n fuddiol i ti, yna gall fod werth yr her ychwanegol.

Gwybodaeth bellach

Mae Gyrfa Cymru yn fan cychwyn gwych o ran swyddi a gyrfaoedd. Maen nhw wedi’u hyfforddi i ddod o hyd i’r opsiynau gorau i ti. Cysyllta â nhw yma. Neu, cer draw i’r gwefan i roi tro ar rhai o’r cwisiau i weld os gall helpu i ddod o hyd i’r swydd gywir i ti, i gael gwybodaeth am wahanol swyddi a gweld pa ddiwydiannau fydd â digon o bosibiliadau gyrfaol yn y dyfodol. Mae’r holl wybodaeth yma.

Cer i weld tudalennau cymorth Cyflogaeth a Gwirfoddoli Meic. Os hoffet ti drafod y syniadau yma fwy, mae Meic yma i wrando. Sgwrsia gyda chynghorydd i drafod yr opsiynau gorau i ti a ble i fynd i gael y cymorth rwyt ti ei angen. Mae Meic yn llinell gymorth ddwyieithog rhad ac am ddim, sydd ar agor o 8yb tan hanner nos bob dydd. Ffonia ar 080880 23456 neu sgwrsia ar-lein.

Cymera ofal

Tîm Llinell Gymorth Meic

Manylion cyswllt Meic