x
Cuddio'r dudalen

Poeni Am Ffrind Ar Gyfryngau Cymdeithasol

Mae person ifanc wedi cysylltu â Meic yn poeni am ei ffrind sydd yn postio pethau sy’n achosi pryder ar gyfryngau cymdeithasol, ac mae’n poeni sut i’w gadw’n ddiogel. Dyma gyngor Meic.


Coda’r Meic ydy dy gyfle di i ofyn cyngor am unrhyw beth sy’n dy boeni. Rydym yma i wrando a chynnig cyngor. Mae manylion #codarmeic ar y dudalen hon, ond cofia nad yw’r cyngor yn dod yn syth. Os wyt ti angen cyngor sydyn yna cysyllta â’r llinell gymorth.

This article is also available in English  – To read this content in English – click here


Helo Meic,

Mae fy ffrind wedi bod yn postio pethau sy’n gwneud i mi boeni ar gyfryngau cymdeithasol. Mae’n aml yn siarad am hunan-niwed a hunanladdiad ac rwy’n poeni rhag iddi anafu ei hun. Beth allai wneud?

Diolch

Cyngor Meic

Helo ‘na,

Mae’n wych dy fod di wedi sylwi bod dy ffrind mewn trafferth a dy fod di’n barod i helpu.. Rwyt ti’n swnio fel ffrind da iawn.

Mae’n bwysig dangos caredigrwydd ac amynedd, hyd yn oed os wyt ti’n teimlo’n annifyr gyda’r hyn sydd yn cael ei bostio. Mae syniadau hunanladdol yn eithaf cyffredin ac mae pawb yn delio gyda phoen mewn ffyrdd gwahanol – mae rhai yn postio ar gyfryngau cymdeithasol fel ffordd o ofyn am help. Mae’n ddewr iawn gwneud hyn. Mae siarad am broblem, yn hytrach nag cadw popeth i mewn, yn bwysig iawn.

Yn ffodus, mae yna lawer o sefydliadau ac adnoddau gwych gall helpu ti a dy ffrind. Mae gan y Samariaid dudalen ‘Beth i wneud os wyt ti’n poeni bod rhywun ddim yn iawn’ gyda llawer o gyngor gwerthfawr.

Y tri pheth pwysicaf gallet ti ei wneud yw:

Merch ifanc Asiaidd yn siarad ar y ffon yn y stryd - ar gyfer erthygl poeni am ffrind ar gyfryngau cymdeithasol

1) Siarad â nhw

Nid oes angen iddo fod am unrhyw beth penodol – dim ond cael sgwrs fel y byddech chi’n arferol (yr un person ydy hi dal i fod). Mae gwybod bod rhywun yno i sgwrsio yn gallu bod yn gymorth mawr.

Os ydynt yn awyddus iawn i siarad am rywbeth, yna byddant yn siŵr o ddarganfod ffordd i gychwyn sgwrs am hynny. Os bydd hyn yn digwydd, y cyngor gorau yw gwrando yn unig. Efallai byddi di’n awyddus i roi cyngor, neu rannu stori am brofiad tebyg, ond mae’n llawer pwysicach i wrando heb farnu a rhoi cyfle iddynt ddweud pob dim.

Bydda’n ofalus am yr hyn rwyt ti’n ei ddweud (gall popeth ymddangos yn negyddol os wyt ti’n teimlo’n isel, felly efallai na fydd coegni neu dynnu coes yn addas) a dim ond dweud yr hyn rwyt ti’n ei olygu. Paid dweud “Fedri di gysylltu â mi unrhyw amser os wyt ti angen siarad” os nad wyt ti’n hapus iddynt ffonio am 3 y bore.

Arwydd pren gwyn yn pwyntio'r ffordd - ar gyfer erthygl poeni am ffrind ar gyfryngau cymdeithasol

2) Cyfeirio at wasanaethau proffesiynol

Un person yn unig wyt ti. Hyd yn oed gyda’r bwriad gorau yn y byd, ni allet ti gynnig cefnogaeth 24 awr y dydd. Ond mae yna wasanaethau sy’n gallu, ac maen nhw’n cael eu hyfforddi i wneud yn union hynny. Bydda’n garedig i ti dy hun a dy ffrind wrth sicrhau nad ydynt yn dibynnu’n llwyr arnat ti, a bod ganddynt fynediad i weithwyr proffesiynol hyfforddedig.

Dyma ychydig o wasanaethau gall helpu:

  • Samaritans yng Nghymru – Llinell gymorth yn darparu cefnogaeth emosiynol i bobl mewn trallod emosiynol neu berygl o hunanladdiad.
  • ChildLine – Llinell gymorth cwnsela i rai dan 18.
  • Papyrus – Elusen atal hunanladdiad. Yn cynnal llinell gymorth atal hunanladdiad HopelineUK i blant a phobl ifanc dan 35 oed.
  • Mind Cymru – Elusen iechyd meddwl yn cynnig cefnogaeth ar-lein, cefnogaeth leol a llinell wybodaeth.
  • Meddwl.org – cefnogaeth, dysgu am anhwylderau iechyd meddwl a gwybodaeth am ble i gael cyngor – i gyd drwy gyfrwng y Gymraeg.
  • ac, wrth gwrs, Meic!

Paid â phoeni os yw dy ffrind mewn gwlad arall. Mae yna linellau cymorth hunanladdiad ledled y byd.

Mae pobl sy’n isel iawn eu hysbryd ac/neu’n hunanladdol yn aml â safbwynt gwyrgam o hunanwerth: maent yn credu (er nad yw’n wir) eu bod yn “ddibwynt” neu y byddai’r byd yn “le gwell hebdda i ynddo”. Gallai hyn arwain atynt i feddwl “Nid wyf yn haeddu help”. Tawela feddwl dy ffrind wrth ddweud wrthynt fod pobl yn eu gwerthfawrogi, a ni fyddant yn gwastraffu amser unrhyw un wrth ffonio/anfon neges at linell gymorth.

Arwydd clicio cyfrifiadur  - ar gyfer erthygl poeni am ffrind ar gyfryngau cymdeithasol

3) Riportio’r post am gynnwys hunladdol

(Paid â phoeni, ni fydd neb yn cael i drwbl am hyn)

Mae gan bob llwyfan cyfryngau cymdeithasol gyngor pan fyddi di’n gweld cynnwys ar eu tudalennau sydd yn achosi ti i boeni a ffyrdd i riportio hyn. Edrycha ar y canlynol:

Facebook: Cyngor ar beth i’w wneud mewn sefyllfaoedd sy’n achosi pryder a sut i riportio cynnwys hunanladdol.

Instagram: Cyngor ar y camau i’w dilyn i helpu rhywun os wyt ti’n gweld rhywbeth sy’n achosi pryder. Mae rhestr o linellau cymorth ac adnoddau datblygwyd i helpu.

Snapchat: Rhestr o adnoddau i helpu os yw rhywun mewn argyfwng, rhestr o linellau cymorth a ffyrdd i gysylltu i riportio.

TikTokCyngor ar beth i’w wneud os wyt ti’n gweld rhywun sydd angen cefnogaeth. Yn egluro sut i riportio a rhestr o adnoddau cefnogaeth.

TwitterCyngor cynorthwyol ar sut i adnabod y rhybuddion am hunan-niwed neu hunanladdiad, sut i riportio ac adnoddau i helpu.

YouTube: Camau am beth i’w wneud os wyt ti’n darganfod cynnwys sy’n achosi pryder a beth i wneud os wyt ti angen cefnogaeth.

Rwyt ti’n bwysig hefyd

Diolch am ddangos pryder am dy ffrind. Rydym yma o hyd i sgwrsio, felly os hoffet ti siarad am helpu dy ffrindiau, a sut effaith mae hyn yn ei gael arnat ti, cofia gallet ti gysylltu â Meic hefyd. Mae Meic yn rhad ac am ddim ac yn agored i bawb!

Gif baner newydd Meic

Mae Meic ar gyfryngau cymdeithasol hefyd. Cer draw i’n tudalennau ar Facebook, Instagram a Twitter yn ogystal â’n tudalen YouTube

Delwedd clawr: “People photo created by Dragana_Gordic – www.freepik.com”

Delwedd cliciwr: “Icons made by Freepik from www.flaticon.com”