Coda’r Meic: Ydw i Wedi Cychwyn Fy Mislif?
Cysylltodd Faye â Meic gan nad yw’n sicr os yw ei mislif (period) wedi cychwyn neu beidio, ac mae’n awyddus i ddeall beth sydd yn digwydd. Gofynnodd am help trwy Coda’r Meic. Dyma ein cyngor.
Coda’r Meic ydy dy gyfle di i ofyn cyngor am unrhyw beth sy’n dy boeni. Rydym yma i wrando a chynnig cyngor. Mae manylion #codarmeic ar y dudalen hon, ond cofia nad yw’r cyngor yn dod yn syth. Os wyt ti angen cyngor sydyn yna cysyllta â’r llinell gymorth.
This article is also available in English – To read this content in English – click here
Helo Meic,
Nid wyf yn sicr os ydw i wedi cychwyn fy mislif neu beidio. Rwy’n cael ffrwd fach o waed ar hap bob mis. Ydych chi’n gwybod beth sy’n digwydd, gan mai dim ond am ryw awr bydd hyn yn parhau?
Faye (*enw wedi ei newid i amddiffyn preifatrwydd)
Cyngor Meic
Helo Faye,
Diolch i ti am gysylltu â Meic am y pryderon sydd gen ti am y mislif. Mae’n beth da dy fod di’n chwilio am help gyda hyn. Da iawn ti. Gall hyn fod yn gyfnod ofnus os wyt ti’n poeni am beth sydd yn digwydd, neu pam.
Sgwrsio â rhywun
Y peth cyntaf fydda’n helpu ydy sgwrsio gydag oedolyn rwyt ti’n teimlo gallet ti ymddiried ynddynt, fel aelod o’r teulu neu athro. Dwi’n siŵr bydda’n nhw’n gallu tawelu’r meddwl rhywfaint bod hyn yn rhan normal o dyfu ac yn gallu rhoi cyngor i ti am beth i wneud. Mae rhai pobl yn gallu teimlo embaras wrth siarad am y mislif, ond nid yw’n rhywbeth i ti fod â chywilydd amdano. Mae’r mwyafrif o bobl a gafodd eu geni yn fenywaidd yn gwaedu yn rheolaidd. Nid yw’n beth afiach nac ffiaidd; mae’n naturiol, ac fe ddylai siarad amdano fod yn naturiol hefyd. Y mwy y bydd rhywun yn siarad, bydd yn teimlo’n fwy naturiol i siarad am y peth.
Mae’r mislif (misglwyf/period) yn dechrau o gwmpas 12 oed ar gyfartaledd, ond mae’n gallu digwydd rhyw dro rhwng 8 ac 17. Nid ydynt yn rheolaidd ar y cychwyn. Bydd angen i’r corff ddod i batrwm arferol dros gyfnod o sawl mis, felly bydd hyd y mislif a faint o waed rwyt ti’n ei golli yn amrywio. Nid oes angen i ti boeni. Gall y mislif barhau am 3 i 7 diwrnod, ac er ei fod yn teimlo fel lot o waed, mewn realiti, dim ond ryw 3 i 5 llwy fwrdd o waed sydd yn cael ei golli yn ystod y cyfnod yma.
Paratoi
Gall fod yn syniad da cario tywel (pad, cadach) mislif neu tamponau yn dy fag rhag ofn i’r mislif gychwyn. Ond os wyt ti yn yr ysgol heb unrhyw beth wrth law, paid poeni. Mae gan rai ysgolion gynnyrch mislif am ddim yn y toiledau, ond os ddim, gallet ti ofyn i gael gweld y nyrs ysgol fydd yn gallu rhoi rhai i ti. Cofia – mae hyn yn naturiol ac nid yw’n rhywbeth i fod â chywilydd ohono, felly paid ofni gofyn. Mae’n rhan naturiol o fywyd.
Os nad yw pethau wedi setlo o fewn ychydig fisoedd, ac rwyt ti’n parhau i boeni, yna gwna apwyntiad i siarad gyda’r doctor.
Gwybodaeth bellach
Cer draw i’n blog Mislif a’r Glasoed am wybodaeth bellach.
Mae gan y GIG dudalen llawn gwybodaeth am gychwyn y mislif, gan gynnwys gwybodaeth am fislif hwyr a phroblemau mislif.
Mae Newsround wedi creu rhaglen arbennig, ‘Let’s Talk About Periods’. Gellir gwylio yma.
Cer draw i weld y wybodaeth ar wefan Brook yn edrych ar y cylchred mislifol, ofyliad, dewis gwahanol o gynnyrch mislifol a llawer mwy.
Gobeithio bod y wybodaeth yma yn rywfaint o help, ond os hoffet ti siarad ymhellach am unrhyw beth, cysyllta (manylion cyswllt isod).
Cymera ofal
Y Tîm Meic
Cysyllta â Meic
Os wyt ti angen siarad gyda rhywun am unrhyw beth sydd yn dy boeni, yna galwa Meic i siarad gyda chynghorydd cyfeillgar.
Mae Meic yn llinell gymorth, gwybodaeth ac eiriolaeth i blant a phobl ifanc 0 i 25 oed yng Nghymru. Rydym yn agored o 8am i hanner nos, 7 diwrnod yr wythnos. Mae posib cysylltu ar y ffôn (080880 23456), neges testun (84001) ac ar y we yn rhad ac am ddim.