x
Cuddio'r dudalen
instagram icon

Beth yw Cyfrinachedd?

Mae Meic yn wasanaeth cyfrinachol. Gad i ni siarad am beth yn union yw cyfrinachedd.

Beth yw ystyr cyfrinachedd?

Cyfrinachedd yw pan rydym yn addo na fyddem yn dweud wrth neb arall yr hyn rwyt ti wedi’i ddweud.

Mae’n bwysig dy fod di’n gallu siarad am y pethau sy’n digwydd yn dy fywyd a gwybod na fydd hyn cael ei rannu gyda rhywun arall. Mae cynghorwyr Meic yn deall hyn ac maent yma i dy gefnogi.

Pan fyddi di’n cysylltu â Meic, ni fydd yr hyn ti’n dweud yn cael ei rannu gydag unrhyw berson neu sefydliad arall y tu allan i Meic oni bai dy fod di eisiau hynny. Efallai bydd y cynghorwr yn trafod dy sefyllfa gyda chydweithiwr weithiau fel dy fod di’n cael y cymorth gorau bosib.

Ydy Meic bob amser yn gyfrinachol?

Mae Meic bron yn gyfrinachol trwy’r adeg. Ar adegau prin mae’n rhaid i ni rannu’r hyn ti wedi’i ddweud gyda rhywun arall. Yr unig adegau bydd rhaid i ni wneud neu ddweud rhywbeth yw:

Os wyt ti o dan 18 oed a…

  • Ti’n gofyn i ni wneud
  • Rydym yn credu bod dy fywyd di neu rywun arall mewn perygl
  • Ti’n cael, neu mewn perygl o gael, dy anafu gan rywun (gelwir hyn yn niwed sylweddol)
  • Ti’n dweud bod rhywun arall yn cael ei anafu
  • Ti’n dweud dy fod di’n niweidio person arall yn ddifrifol
  • Ti’n rhannu dy fod di, neu rywun arall, wedi cyflawni trosedd difrifol (fel llofruddiaeth neu derfysgaeth)
  • Ti’n rhannu dy fod di, neu rywun arall dan 18, wedi cael profiad o gamdriniaeth (hyd yn oed os nad yw hynny’n digwydd ar hyn o bryd)

Os wyt ti dros 18 a…

  • Ti’n dweud wrthym am blentyn neu berson ifanc sydd mewn perygl o niwed
  • Ti mewn sefyllfa sy’n bygwth dy fywyd (mewn perygl uniongyrchol)
  • Ti’n rhannu dy fod di, neu rywun arall, wedi cyflawni trosedd ddifrifol (fel llofruddiaeth neu derfysgaeth)

Pryd ydym ni’n rhannu’r hyn rwyt ti wedi’i ddweud (torri cyfrinachedd)?

Mae torri cyfrinachedd yn benderfyniad anodd i gynghorwyr Meic, ac mae sawl peth sydd angen eu hystyried. Un o’r prif ffactorau wrth benderfynu dweud wrth rywun arall yw sut mae pethau’n datblygu yn ystod y sgwrs. Os wyt ti’n datgan ar unrhyw adeg dy fod di am weithredu ar dy deimladau hunanladdol, dy fod di neu rywun arall yn anniogel, neu rydym yn credu y byddi di mewn perygl ar ôl i’r sgwrs ddod i ben, yna mae’n rhaid i ni ddweud wrth rywun arall er mwyn dy amddiffyn di neu rywun arall. Rydym wastad yn ystyried faint rwyt ti’n deall am yr hyn sy’n digwydd ac os wyt ti’n gallu gwneud penderfyniadau dy hun am y sefyllfa, tra hefyd yn sicrhau bod pawb yn aros yn ddiogel.

Beth sy’n digwydd pan fyddem yn torri cyfrinachedd?

Fel arfer, nid yw’r cynghorwr yn gallu gweld dy fanylion (fel rhif ffôn, cyfeiriad IP, llun proffil ac ati). Os wyt ti’n dweud dy fod di neu rywun arall mewn perygl o niwed, gall gweinyddwyr ein system ddarganfod y wybodaeth yma. Gall hyn gael ei rannu gyda gwasanaethau brys neu gymdeithasol er mwyn iddynt roi cymorth i ti. Dim ond pan rydym yn teimlo bod rhaid i ni y bydd hyn yn digwydd, a byddem yn ceisio rhoi gwybod i ti pan fyddem yn gwneud bob tro, os na wyt ti’n gadael y sgwrs cyn i ni gael cyfle i esbonio i ti pam ein bod yn poeni a pham bod rhaid i ni rannu’r wybodaeth yma.

Er enghraifft:

  • Efallai bydd angen i ni gysylltu â’r heddlu a chael ambiwlans atat os wyt ti’n ceisio lladd dy hun
  • Efallai bydd angen i ni gysylltu â’r Gwasanaethau Cymdeithasol (sefydliad y llywodraeth sy’n helpu plant, oedolion a theuluoedd ac yn trefnu cymorth i gadw plant yn ddiogel) fel y gallent helpu i ddiogelu ti

Rydym yn deall pa mor anodd yw weithiau i rannu’r hyn sy’n digwydd i ti. Efallai dy fod di ofn siarad gyda phobl eraill am dy sefyllfa. Efallai dy fod di’n poeni am gael dy hun neu eraill (teulu neu ffrindiau) i drafferthion ac mai ti fydd ar fai am ddweud wrth rywun.

Rydym yma i’th gefnogi ac i sicrhau bod pobl yn gwrando ar dy farn di. Rydym eisiau helpu ti i deimlo’n ddiogel.

Pan fyddem yn cysylltu â gwasanaethau eraill, fel yr heddlu neu Wasanaethau Cymdeithasol, byddem yn aros gyda thi ar y ffôn, WhatsApp, sgwrs ar-lein, neu neges testun, os wyt ti’n dymuno hynny. Byddem yn dweud wrthyt beth sy’n digwydd ac yn ateb unrhyw gwestiynau sydd gen ti.

Os oes gen ti unrhyw gwestiynau am gyfrinachedd, gofyn i’r cynghorwr Meic ar gychwyn y sgwrs.