x
Cuddio'r dudalen

Coda’r Meic: Rwyf Angen Rheoli Arian Yn Well

Mae’n dda bod yn agored am faterion ariannol. Mae’n helpu i ddysgu sgiliau ac arferion da a magu hyder i reoli dy arian yn well yn y dyfodol. Dyma’n union mae Tom wedi’i wneud. Cododd y Meic i ofyn am gyngor i stopio gorfod benthyg arian gan ei deulu.


Coda’r Meic ydy dy gyfle di i ofyn cyngor am unrhyw beth sy’n dy boeni. Rydym yma i wrando a chynnig cyngor. Mae manylion #codarmeic ar y dudalen hon, ond cofia nad yw’r cyngor yn dod yn syth. Os wyt ti angen cyngor sydyn yna cysyllta â’r llinell gymorth.

This article is also available in English click here


Helo Meic,

Rwyf wastad yn fyr o arian ac yn gorfod benthyg gan mam ar ddiwedd y mis – sut ydw i’n rheoli fy arian yn well?

Tom (*enw wedi ei newid i amddiffyn preifatrwydd)

Cyngor Meic

Helo Tom,

Diolch am gysylltu gyda ni yma yn Coda’r Meic. Mae’n ddrwg gen i glywed dy fod di’n cael ychydig o drafferthion ariannol. Y newyddion da ydy nad yw byth yn rhy hwyr i gymryd camau i wella dy sefyllfa.

Merch wedi drysu (cartŵn) yn dal ei dwylo i fyny ar gyfer erthygl Arian

Ble mae pethau yn mynd o’i le?

Gall fenthyg gan y banc mam roi straen ar beth all fod yn berthynas pwysig. Yn ogystal, mae cael annibyniaeth ariannol yn gallu cael effaith negyddol ar dy hunanhyder. Felly, pa opsiynau sydd gen ti?

Mae’n debyg bod angen i ti feddwl beth sydd yn mynd o’i le. Mae’r ffaith bod rhaid i ti fenthyg arian gan dy fam ar ddiwedd y mis yn awgrymu bod yr arian sydd yn dod i mewn (incwm) ddim yn ddigon am yr holl daliadau a gwariant.

I ddysgu mwy am ddyled dda, dyled ddrwg a chael help cer draw i’r blog yma.

Dyn yn sefyll wrth ochr papur maint dyn gyda rhestr arno, a un o'r pethau gyda chylch efo beiro arno ar gyfer erthygl Arian

Creu rhestr

Man cychwyn da ydy ysgrifennu rhestr o’r arian sydd yn dod i mewn a’r arian sydd yn mynd allan.

  • Incwm – gall hyn fod yn gyflog, pres poced gan deulu, budd-daliad neu fenthyciad myfyriwr
  • Gwariant – yr holl arian sydd angen cael ei dalu bob mis. Gall hyn fod yn unrhyw beth o rent, bag o fwyd ci neu danysgrifiad Netflix

Nawr bod rhestr wedi ei greu mae angen cymharu’r incwm a’r gwariant sydd yn mynd allan. Mae’n debyg nad yw’r rhain yn cyd-fynd yn bresennol ond mae angen iddynt os wyt ti am reoli dy arian yn dda.

Gliniadur, cyfrifianell, llyfr logio, beiro ar gyfer erthygl Arian

Cyllidebu

Os yw’r gwariant yn uwch na’r incwm, yna nid oes digon o arian yn dod i mewn fel bod posib fforddio popeth yr wyt ti’n gwario arno. Felly beth nesaf?

Dyma’r pwynt lle dylid ystyried cyflwyno cyllideb. Mae hwn yn dechneg dda sydd yn gymorth wrth reoli arian. Gall helpu i gael rheolaeth well o ble mae’r arian yn mynd ac mae’n caniatáu i ti weld ble gellir gwneud arbedion. Mae’n bwysig ceisio meddwl am yr holl gostau wythnosol/misol wrth greu cyllideb. Bydd hyn yn rhoi darlun mwy clir o’r hyn sydd angen ei wario.

Mae gan Helpwr Arian (Gwasanaeth Cynghori Ariannol gynt) Gynlluniwr Cyllideb dda gydag awgrymiadau gwych a thempled am ddim i gael dadansoddiad manwl o dy wariant.

Casgliad o ferched gyda bagiau siopa ar gyfer erthygl Arian

Amser i leihau gwariant

Rwyt ti wedi creu cyllideb ond yn parhau i wario mwy o arian nag yr hyn sydd yn dod i mewn. Mae angen edrych ar dy wariant nawr a gweld ble gellir gwneud arbedion.

Edrycha ar ble yr wyt ti’n gorwario a meddwl sut y gallet ti leihau dy wariant. Gall hyn fod yn unrhyw beth o ddarganfod siop fwyd rhatach i wario llai ar ddillad newydd bob mis. Gyda gwariant â cherdyn digyffwrdd (contactless) neu ar y ffôn, gall fod yn hawdd gwario arian ond ddim mor hawdd i gadw trac ar y gwario. Mae’n anodd gweld y gorwariant yma.

Ceisia gadw dyddiadur gwariant wythnosol. Mae’n haws gweld ble rwyt ti’n gwario’r punnoedd gwerthfawr yna. Mae posib bydd angen gwneud penderfyniadau anodd am y ffordd yr wyt ti’n gwario dy arian. Ceisia gofio bod yr annibyniaeth ariannol a ddaw yn werthfawr yn yr hir dymor.

Dau berson cartwn yn rhoi arian mewn cadw mi gei ar gyfer erthygl Arian

Cynilo

Nid yw’n hawdd cwtogi ar y pethau yr wyt ti’n ei fwynhau ond un budd o reoli arian ydy’r posibilrwydd o ddechrau cynilo.

Pan fyddi di eisiau rhywbeth, meddylia os wyt ti wir angen hynny. Os wyt ti wedi gorwario ar ddiwedd y mis ar ôl prynu rhywbeth roeddet ti eisiau ond ddim wir yn gallu fforddio, yna efallai ei bod yn amser herio’r ffordd yr wyt ti’n meddwl am bethau. Mae gwario arian yn y ffordd yma yn byw y tu hwnt i dy incwm a gall arwain at broblemau fel dyled, felly mae’n arfer drwg.

Os wyt ti wir eisiau rhywbeth, yna beth am gynilo amdano gyntaf? Mae cael i’r arfer o gynilo yn golygu y gallet ti fod mewn sefyllfa well pan fyddi di’n barod i brynu car neu dŷ gyntaf. Mae arbed yn gallu rhoi boddhad mawr i ti hefyd, a theimlad o lwyddiant. Bydd hyn hefyd yn golygu nad oes rhaid benthyg gan y banc mam.

Cer draw i weld y cyngor sydd gan Helpwr Arian ar eu gwefan.

Gobeithiwn fod y cyngor yma wedi bod o fudd ac os oes rhywbeth nad wyt ti’n deall neu os wyt ti eisiau gwybodaeth, cefnogaeth neu gymorth i gychwyn gyda’r cyllidebu, yna cysyllta â’r llinell gymorth Meic bob dydd rhwng 8yb a hanner nos.

Cymera ofal

Y Tîm Meic