Fel arfer na… oni bai ein bod yn teimlo bod rhywun arall mewn perygl enbyd neu wedi’u hanafu. Mae yna sawl rheswm gallai hyn ddigwydd ac mae posib darllen ein polisi cyfrinachol llawn yma am esboniad mwy manwl.
Na, nid ydym yn gwybod beth yw dy rif ffôn os nad wyt ti’n dweud.
Cysyllta â Meic wrth ffonio neu yrru neges WhatsApp ar 080 880 23456, tecstio 07943 114 449 neu gyrra neges ar sgwrs ar-lein.
Weithiau bydd goruchwylydd Meic yn gwrando ar yr alwad ffôn neu’n darllen dy neges destun, neges ar-lein neu neges WhatsApp i sicrhau bod cynghorwyr Meic yn dy helpu di yn y ffordd orau bosib.
Ni fyddwn yn cadw cofnod o dy negeseuon yma yn Meic ond byddwn yn cofnodi nifer y galwadau, negeseuon testun, negeseuon ar-lein a’r negeseuon WhatsApp y byddwn yn eu cael. Byddwn hefyd yn cofnodi pa fath o gymorth a roddwn ond nid ydym yn cadw unrhyw wybodaeth am y person a gafodd y cymorth hwnnw.
Pan fyddi di’n anfon neges testun i linell gymorth Meic gallwn ni weld negeseuon testun eraill a anfonwyd o’r rhif ffôn hwnnw ond ni fyddwn yn gwybod pwy wyt ti nac yn gwybod beth yw dy rif di.
Darllena ein polisi gyfrinachedd yma.
Na, dim ond os wyt ti eisiau.
Efallai y byddwn yn gofyn dy oedran a ble ti’n byw yng Nghymru fel y gallwn ddod o hyd i wybodaeth a fydd yn ddefnyddiol i ti. Ond ti sy’n rheoli beth rwyt yn ei ddweud wrthym.
Os wyt eisiau inni gysylltu â rhywun arall ar dy ran, neu gysylltu â sefydliad arall a allai fod o help i ti yn dy fywyd, efallai y byddi am roi dy enw, cyfeiriad, manylion cyswllt a gwybodaeth arall fel arall – ond dy ddewis di yw hynny.
Mae galwadau ffôn i Meic am ddim ac nid ydynt yn ymddangos ar filiau ffôn BT neu gebl. Ar hyn o bryd mae galwadau ffôn i Meic ar 0808 80 23456 yn rhad ac am ddim o’r holl rwydweithiau fel 3, BT Mobile, Fresh, O2, Orange, T Mobile, Virgin, Vodafone. Rydym ar ddeall na fydd y galwadau ffôn yn ymddangos ar unrhyw un o’r biliau hyn.
Cofia: bydd y rhif ffôn yn ymddangos yn y rhestr o rifau a ddeialwyd ar dy ffôn symudol fel 0808 80 23456. Os nad wyt am i bobl weld y rhif ar dy ffôn, cofia ei ddileu o dy restr galwadau.
Ni all unrhyw un ddarllen unrhyw negeseuon rwyt ti wedi’u hanfon i Meic neu a gefaist oddi wrth Meic cyn belled â dy fod yn cadw dy gyfrinair yn breifat. Mae’n bosib i rywun weld hanes y gwefannau rwyt ti wedi ymweld â nhw ar dy gyfrifiadur, ond gelli ddileu’r hanes.