x
Cuddio'r dudalen

Coda’r Meic: Mam a Dad Yn Ffraeo o Hyd

Mae rhieni yn ffraeo yn gallu bod yn anodd iawn i ymdopi ag ef, a gall wneud i ti deimlo’n anniogel ac yn ofn. Dyma’n cyngor i Ben yn Coda’r Meic yr wythnos hon.


Coda’r Meic ydy dy gyfle di i ofyn cyngor am unrhyw beth sy’n dy boeni. Rydym yma i wrando a chynnig cyngor. Mae manylion #codarmeic ar y dudalen hon, ond cofia nad yw’r cyngor yn dod yn syth. Os wyt ti angen cyngor sydyn yna cysyllta â’r llinell gymorth.

(This article is also available in English  – To read this content in English – click here )


Helo Meic,

Dwi wedi cael llond bol. Mae mam a dad yn ffraeo drwy’r adeg. Plîs helpwch.

Ben (*enw wedi’i newid i amddiffyn y person)

Cyngor Meic

Helo Ben,

Diolch am gysylltu gyda Coda’r Meic. Mae’n ddrwg iawn gen i glywed bod dy fam a dy dad yn ffraeo drwy’r adeg. Mae’n debyg bod pethau’n anodd iawn i ti ar hyn o bryd. Mae’r ffaith dy fod di wedi cysylltu â Meic am help yn beth da – da iawn ti.

Gweld, siarad, clywed dim drygioni ar gyfer Mam a Dad yn ffraeo

Nid ti yw’r unig un

Efallai bydd yn gymorth i ti ddeall nad wyt ti yw’r unig un sydd yn teimlo fel hyn. Mae llawer o blant a phobl ifanc yn poeni pan fydd rhieni yn ffraeo. Yn aml iawn, pan fydd rhieni yng nghanol ffrae, maent yn anghofio am yr effaith mae hyn yn gallu cael ar y plant.

Wyt ti wedi meddwl am roi dy deimladau i lawr ar bapur, a rhannu hyn gyda dy rieni? Efallai bydd hyn yn eu helpu i sylweddoli ar yr effaith mae’r ffraeo yn ei gael arnat ti. Gallet ti hefyd feddwl am siarad am dy deimladau gydag oedolyn rwyt ti’n gallu ymddiried ynddynt, fel aelod o’r teulu neu rywun yn yr ysgol.

Chwilio am gyngor

Mae yna wefannau sydd yn gallu cynnig help i bobl sydd yn dioddef gyda rhieni yn ffraeo, gydag awgrymiadau am bethau i’w gwneud i helpu dy hun.

Edrycha ar Problemau Teuluol ar dudalennau Gwybodaeth a Chyngor Childline. Mae ganddynt gyngor penodol am Ffraeo Teuluol yma.

Os hoffet ti siarad gyda rhywun yn gyfrinachol yna gallet ti gysylltu gyda’r llinell gymorth Meic. Gallem drafod gyda’n gilydd y pethau fydd yn gallu helpu ti i deimlo’n well am dy sefyllfa, a chynnig cyngor i ti am sut i siarad â dy rieni os mai dyma wyt ti eisiau gwneud. Darganfydda’ beth sydd yn digwydd pan fyddi di’n cysylltu â Meic.

Cymera ofal

Y Tîm Meic

Galwa Meic

Os wyt ti angen siarad gyda rhywun am unrhyw beth sydd yn dy boeni, yna galwa Meic i siarad gyda chynghorydd cyfeillgar.

Mae Meic yn llinell gymorth, gwybodaeth ac eiriolaeth i blant a phobl ifanc 0 i 25 oed yng Nghymru. Rydym yn agored o 8am i hanner nos, 7 diwrnod yr wythnos. Mae posib cysylltu ar y ffôn (080880 23456), neges testun (84001) ac ar y we yn rhad ac am ddim.